BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Blaenau Ffestiniog

Blaenau Ffestiniog - Trosolwg

Datblygiad y diwydiant llechi yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg roddodd fodolaeth i Flaenau Ffestiniog. Cyn hynny, roedd yr ardal fynyddig hon yn denau ei phoblogaeth gyda dim ond ychydig ffermydd yma ac acw ar y llechweddau.

Dechreuwyd cloddio am lechi ar raddfa fechan yn y 1760au, ond dechreuodd y cloddio diwydiannol cyntaf mewn tri lleoliad ar Allt-fawr. Sefydlwyd nifer o wahanol gwmniau ac erbyn y 1840au roedd y llechi ar yr wyneb wedi eu dihysbyddu ac felly dechreuwyd cloddio dan y ddaear. Yn 1878 fe wnaeth perchen yr Allt-fawr, W.E. Oakeley, gyfuno'r chwareli'n un busnes, Chwarel yr Oakeley, y gloddfa lechi dan ddaear fwyaf yn y byd. O hynny ymlaen, ymddangosodd nifer o gloddfeydd a chwareli llechi yn gyflym ar hyd yr ardal, gyda chwareli mawr yn Llechwedd, Maenofferen, a Foty a Bowydd.

Gyda ffyniant mawr y 1860au a'r 1870au, a gynyddodd y galw am ddulliau diogel o gludo'r llechi gorffenedig i'r porthladdoedd dosbarthu yn ogystal â dod â'r gweithlu sylweddol i mewn, fe adeiladwyd ffyrdd newydd i'r chwareli. Cynyddodd tref Blaenau Ffestiniog yn gyflym a daeth yn ganolbwynt i'r pentrefi chwarelyddol llai ar ei chyrion. Gwelir fframwaith grid amlwg i gynllun y dref o hyd, sy'n tystio i ddatblygiad strategol y dref gyda'i sgwariau a'i therasau. Bryd hynny hefyd yr adeiladwyd yr ysgol gyntaf, yr eglwys a chapeli. Dim ond ychydig dan 3,500 o bobl a drigai ym Mlaenau Ffestiniog yn 1850, ond erbyn 1881 roedd y nifer wedi cynyddu i dros 11,000.

Pan ymwelodd yr anturiaethwraig o'r Almaen, Sophie Döhner, â'r dref yn nechrau'r ugeinfed ganrif, cafodd ei synnu'n fawr o weld fod bron bob eitem yno wedi ei gwneud o lechi: tai, toeau, grisiau, ffensys, a hyd yn oed y palmant. Bryd hynny, roedd cynhyrchu llechi ym Mlaenau Ffestiniog yn dechrau dirywio wrth i ddeunyddiau rhatach ddod ar gael mewn mannau eraill. Wrth i'r chwareli llechi gau wedi'r Ail Ryfel Byd, symudodd y chwarelwyr oddi yno'n raddol ac erbyn heddiw mae poblogaeth Blaenau Ffestiniog rywbeth yn debyg i'r hyn oedd yn niwedd y 1850au. Y diwydiant twristiaeth yw'r cyflogwr mwyaf erbyn hyn, wrth i'r hen chwareli a chloddfeydd gael eu hailddatblygu'n amgueddfeydd a safleoedd antur, megis y trampolîn tanddaear mwyaf yn y byd.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch