BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Cader Idris

Cader Idris - Trosolwg

Mae mynydd Cader Idris ychydig i'r de o afon Mawddwy ger Dolgellau yng Ngwynedd, a gelwir ei gopa, sy'n 893 metr o uchder, yn Penygader. Dywed chwedl werin, a gofnodwyd ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, y byddai unrhyw un a dreuliai noson ar gopa'r mynydd yn deffro yn y bore naill ai'n fardd neu'n wallgof. Treuliodd y Parchedig Evan Evans, sy'n fwy adnabyddus efallai wrth ei enwau barddol, Ieuan Fardd neu Ieuan Brydydd Hir, noson ar y copa fel arbrawf i ddarganfod a oedd yna unrhyw wirionedd yn y chwedl hon. Nid aeth yn wallgof ond ni chafodd lawer o hapusrwydd mewn bywyd ar ôl hynny chwaith.

Ers y cyfnod Rhamantaidd, mae llawer o dwristiaid wedi heidio i fynyddoedd Eryri a chan fod Cader Idris yn hygyrch o Ddolgellau a'r Bermo, mae wedi bod yn gyrchfan boblogaidd ers amser i dripiau diwrnod. Yn niwedd y 1880au disgrifiodd Friedrich Althaus o'r Almaen sut y dringai twristiaid i'r copa o'r Bermo gerllaw gyda help tywysydd lleol a'u fulod. Mae'n parhau'n hynod boblogaidd gyda cherddwyr mynyddoedd a cheir llwybrau o amrywiol anhawsedd ar ei lethrau gogleddol a deheuol.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch