BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Caernarfon

Caernarfon - Trosolwg

Yn wynebu Ynys Môn, saif Caernarfon ar lan orllewinol y Fenai. Sefydlwyd caer gadarn, Segontium, yno gan y Rhufeiniaid i'w hwyluso i ddarostwng yr Ordoficiaid, y llwyth Celtaidd a drigai yn yr ardal bryd hynny. Yn rhyngwladol, mae'r dref hon yn fwyaf adnabyddus am ei chastell a adeiladwyd gan Edward I, brenin Lloegr, wedi cwymp Llewelyn ap Gruffudd yn 1282, ac fe atgyfnerthodd y dref yn ogystal a gwahardd unrhyw Gymry rhag byw o fewn ei muriau. Yn yr ugeinfed ganrif fe'i defnyddiwyd ar gyfer arwisgo dau o dywysogion Seisnig Cymru, y cyntaf yn 1911 a'r llall yn 1969.

Er i gymeriad y dref barhau'n weddol wledig yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe wnaeth agosrwydd Caernarfon at chwareli llechi Gogledd Cymru gyfrannu at ddatblygiad ei harbwr. Oddi yma, allforiwyd llechi o ansawdd uchel o bob lliw, maint a siâp i bedwar ban byd.

Daeth llawer o dwristiaid i Gaernarfon, naill ai i gael golwg ar adfeilion trawiadol y castell Normanaidd neu i fanteisio ar agosrwydd y dref i fynyddoedd Eryri. Yn 1828 fe wnaeth y Tywysog Herman von Pückler-Muskau gyflogi bachgen lleol a'i gar a cheffyl i fynd ag ef ar daith i Lanberis. Fe wnaethant gyrraedd yno mewn dim ond hanner awr oherwydd i'r bachgen ddehongli bloeddiadau'r tywysog o ofn fel anogaeth iddo ruthro ar hyd y ffyrdd troellog hyd yn oed yn gyflymach. Yn 1862 profodd y newyddiadurwr Ffrengig, Alfred Erny, y gymdogaeth ar gyflymder mwy hamddenol. Treuliodd ychydig ddyddiau yn y dref ei hun a chynhyrchu disgrifiad manwl o'i ymweliad â'r Eisteddfod a gynhaliwyd o fewn y castell. Cafodd syndod, fodd bynnag, o glywed y rhan fwyaf o'r areithiau cyhoeddus yn cael eu traddodi yn Saesneg, a hynny yn y gornel Gymreiciaf o'r wlad.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch