BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Corwen

Corwen - Trosolwg

Tref fechan yn Sir Ddinbych yw Corwen ac mae ar yr A5, ffordd bost bwysig Thomas Telford rhwng Caergybi a Llundain. Oherwydd ei safle cyfleus yn nyffryn y Ddyfrdwy, datblygodd Corwen yn ganolfan bwysig i'r porthmyn gwartheg erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg. Ond cynyddodd mewn pwysigrwydd ar ôl i ffordd Telford hwyluso teithio ar y goets fawr, ac yn arbennig ar ôl i Reilffordd y Great Western gyrraedd yn 1864.

Fel y gwelir oddi wrth y cerflun ysblennydd ohono ar sgwâr y farchnad, mae gan y dref a'r gymdogaeth gysylltiadau cryf ag Owain Glyndŵr, a ddechreuodd ei wrthryfel yn erbyn coron Lloegr o'i gartref yn Glyndyfrdwy gerllaw yn 1400. Fodd bynnag, dinistriwyd y maenordy gan filwyr y Tywysog Harri yn 1403. Yn ôl coel gwerin lleol, arferai Glyndŵr ddod yn gyson i'r offeren yn Eglwys y Seintiau Mael a Sulien yng Nghorwen ac mae ôl ei ddagr i'w weld o hyd ar y lintel garreg uwchben drws yn yr eglwys. Trigai'r awdur John Cowper Powys yno yn yr ugeinfed ganrif ac ysgrifennodd ei nofel Owen Glendower (1941) am Wrthryfel Glyndŵr.

Mae'r dref wledig hon yn ganolfan wych ar gyfer cerdded yr ardal gyfagos ac mae rheilffordd fechan yn ei chysylltu â thref Llangollen.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch