BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Y Fflint

Y Fflint - Trosolwg

Sefydlwyd y dref fechan hon yn ystod blynyddoedd concwest Edward I o Gymru yn y 1280au. Y castell carreg, a adeiladwyd yma ar orchymyn Edward I, oedd y gyntaf o'r ceyrydd a sefydlwyd ar hyd arfordir Cymru gyda'r bwriad o wastrodi'r brodorion Cymreig. Yno, yn Awst 1399, yr ymostyngodd Richard II i Henry Bolingbroke, a ddaeth yn fuan wedyn yn frenin Harri'r IV, ar yr amod yr arbedid ei fywyd ar ôl iddo ildio'r orsedd.

Daeth llawer o incwm Y Fflint a'r ardal gyfagos o gloddio am blwm a'i brosesu rhwng diwedd yr oesoedd canol a dechrau'r cyfnod Fictoraidd, pan gaeodd yr olaf o'r gweithfeydd smeltio. Bryd hynny datblygodd canghennau eraill o ddiwydiant trwm, yn cynnwys cloddio am lo, a chynhyrchu papur a chemegau.

Felly, roedd llawer o'r ymwelwyr rhyngwladol yn y dref nid fel pobl ar wyliau ond am resymau proffesiynol. Wrth deithio ar droed drwy siroedd Gogledd Cymru yn 1846, disgrifiwyd Y Fflint gan Franz von Löher fel tref arfordirol a oedd yn gartref i forwyr anturus a hefyd i bobl a enillai fywoliaeth lai peryglus drwy gasglu cocos ar drai.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch