BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Eglwys Gadeiriol Llandaf

Eglwys Gadeiriol Llandaf - Trosolwg

Sefydlwyd Eglwys Gadeiriol Llandaf yn 1107. Rhwng 1120 a 1133 cafwyd ailadeiladu sylweddol yno, gyda chyfres o estyniadau pellach yn cael eu gwneud dros y 400 mlynedd nesaf. Roedd y rhain yn cynnwys ychwanegu Cabidyldy, Capel y Forwyn, a'r tŵr gogledd-orllewinol, yn ogystal â gwaith ailadeiladu sylweddol i brif gorff yr eglwys yn niwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg.

Achoswyd difrod adeileddol mawr i'r eglwys gadeiriol yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr a Rhyfel Cartref Lloegr. Yn ystod yr olaf, ysbeiliwyd yr eglwys gan filwyr y Senedd ac fe wnaethant ddwyn neu ddinistrio llawer o'i thrysorau, yn eu mysg gasgliad gwerthfawr y llyfrgell. Yn ystod y blynyddoedd dilynol, defnyddiwyd rhannau o'r eglwys fel stablau ac agorwyd tafarn hyd yn oed o fewn ei muriau.

Achosodd Storm Fawr 1703 niwed mawr i'r adeilad a thros yr ugain mlynedd ddilynol dirywiodd yr adeilad yn gyflym, nes i'r to syrthio yn y diwedd yn 1723. Yn 1734 dechreuodd y pensaer John Wood weithio ar eglwys gadeiriol newydd, gan ddefnyddio rhannau o'r gwreiddiol ond gan orchuddio'r adeiladwaith canoloesol. Aeth y gwaith yn ei flaen yn araf iawn ac, yn 1841, cyflogwyd penseiri eraill i gael gwared ar waith Wood a chwblhau adferiad yr adeilad gwreiddiol. Cwblhawyd y gwaith i'r graddau y gallwyd ailagor yr eglwys gadeiriol ar gyfer addoli yn 1857 ond pan ymwelodd Anatole Le Braz a Charles Le Goffic ag Eglwys Gadeiriol Llandaf yn 1899 fe welsant fod cryn dipyn o adfeilion ar ôl wedi'u gorchuddio gan eiddew. Roedd Le Goffic yn arbennig o ganmoliaethus o'r ffordd y llwyddwyd i gyfuno'r arddulliau Romanesg a Gothig yn berffaith. Ar y pryd roedd Llandaf yn dal yn bentref ar wahân y tu allan i ffiniau dinas Caerdydd; felly roedd yn parhau'n bur wledig ac yn atgoffa'r ddau ymwelydd o bentrefi eu cynefin yn Llydaw.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd trawyd to Eglwys Gadeiriol Llandaf gan fom Almaenig yn ystod un o'r cyrchoedd nos ar Gaerdydd. Yn wahanol i'r canrifoedd blaenorol, fodd bynnag, gwnaed yr atgyweiriadau'n llawer cyflymach a gorffennwyd y gwaith adfer yn 1960. Nodwedd amlycaf yr adferiad hwn yn yr ugeinfed ganrif yw cerflun 'Crist mewn Gogoniant' gan Jacob Epstein.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch