BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Pont Grog y Fenai (Pont y Borth)

Pont Grog y Fenai (Pont y Borth) - Trosolwg

Ystyrir Pont y Borth, a adeiladwyd rhwng 1819 a 1826, yn un o gampweithiau peirianneg sifil Thomas Telford. Mae'r bont ar yr A5, yn hanesyddol y prif lwybr cyflenwi a phost rhwng Dulyn a Llundain, drwy Gaergybi. Hyd nes agorwyd y bont, roedd yn rhaid i deithwyr, nwyddau, ceffylau a choetsys gael eu cludo ar gychod ar draws cerrynt hynod beryglus y Fenai, tra roedd gwartheg yn gorfod nofio drosodd wrth ochr y cychod gan obeithio na fyddai'r anifeiliaid gwerthfawr yn boddi ar y ffordd.

Mae Pont y Borth yn 416 metr o hyd, ac yn 176 metr rhwng y ddau brif biler. Mae'r cadwyni yn dal y ffordd 30 metr uwchlaw lefel y môr fel y gallai llongau hwyliau hwylio o dan y bont. Cyllidwyd y gwaith adeiladu gan y Senedd a chostiodd £120,000. Nid oedd hyn yn cynnwys y £26,394 7s 6d o iawndal a dalwyd i Miss Silence Williams, perchen y gwasanaeth fferi ar draws y Fenai. Amcangyfrifir mai hwn oedd un o'r symiau mwyaf a dalwyd erioed i un unigolyn yn hanes Prydain.

Ers dyddiau ei hadeiladu, mae pont Telford dros y Fenai wedi denu llawer o dwristiaid a ddaeth i ryfeddu at ei mawredd. Pan osodwyd y gadwyn gyntaf ar 20 Ebrill 1825, daeth llawer o bobl i lannau'r Fenai i wylio'r gwaith a barodd am ychydig dros ddwy awr ac a gyrhaeddodd uchafbwynt gyda dau weithiwr yn cerdded ar hyd top y gadwyn a oedd wedi'i gosod yn ei lle. Ar ôl iddi gael ei gorffen, teithiodd llawer mwy o deithwyr o dramor i weld y bont. Yn eu plith roedd llawer o beirianwyr sifil a archwiliodd bont Telford o bob ongl, gwneud eu mesuriadau eu hunain ac edmygu ei gynllun mentrus, ond gosgeiddig.

Cafodd y bont grog ei hailwampio yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, a symudwyd y llwybr troed i gerddwyr, a oedd gynt yn y canol, i ddwy ochr y bont. Gwnaed y gwaith trwsio diweddaraf yn 2005 pan gafodd y bont ei hail-baentio.

Ysgrifau taith

Lleoliad

Oriel

Taith Gigapicsel

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch