BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Merthyr Tudful

Merthyr Tudful - Trosolwg

Gwelir tystiolaeth o anheddu ar raddfa fechan yn yr ardal o amgylch Merthyr Tudful o'r cyfnodau cynhanesyddol ymlaen, ac mae'r enw'n tarddu o'r chwedl am y Santes Tudful. Roedd hi'n un o ferched niferus y brenin o'r bedwaredd ganrif, Brychan Brycheiniog, ac fe'i merthyrwyd dros ei ffydd. Tan ganol y ddeunawfed ganrif roedd y cwm yn denau ei boblogaeth gyda ffermio a magu da byw yn brif economi, er bod pentref bychan wedi datblygu ar safle'r dref fodern bresennol.

Yn gynnar yn y ddeunawfed ganrif darganfuwyd dyddodion helaeth o fwyn haearn, glo a charreg galch, gan ei wneud yn lleoliad delfrydol i'r diwydiant haearn newydd a oedd yn arwain y Chwyldro Diwydiannol ym Mhrydain.

Yn 1759 sefydlwyd y gwaith haearn mawr cyntaf yn Nowlais. Yn fuan wedyn agorwyd gweithiau newydd, yn cynnwys Plymouth, Cyfarthfa a Phenydarren, a gweddnewidiwyd Merthyr Tudful yn llwyr. Dan berchenogaeth John Josiah Guest rhwng 1807 a 1852, daeth Dowlais i fri rhyngwladol fel gwaith haearn mwyaf y byd. Cyflogai 8,800 o weithwyr a chynhyrchu 88,000 tunnell o haearn y flwyddyn. Erbyn 1820 roedd Merthyr yn cynhyrchu 40 y cant o allforion haearn Prydain, tra yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, troswyd llawer o'r gweithiau i gynhyrchu dur yn hytrach na haearn.

O ganlyniad i'r cynnydd cyflym mewn cynhyrchu diwydiannol a mwyngloddio, cynyddodd poblogaeth Merthyr Tudful yn aruthrol. Yng nghyfrifiad 1801 cofnodwyd bod 7,000 o bobl yn y plwyf - erbyn 1910 roedd gan Ferthyr Tudful bron 90,000 o drigolion.

O ganlyniad i gyflwr enbyd y terasau tai digynllun a ddarparwyd i'r gweithwyr a'r diffyg carthffosiaeth, ceid afiechydon ofnadwy a llawer yn marw'n ifanc iawn. Yn ogystal â chyflogau isel y gweithlu diwydiannol a'r amodau gwaith gwael, cythruddid y gweithwyr yn fawr gan y 'gyfundrefn ffeirio' a weithredid gan y meistri haearn. Dan y drefn hon nid oedd y gweithwyr yn cael eu talu mewn arian go iawn, ond gyda thalebau a thocynnau na ellid eu defnyddio ond yn siopau'r meistri eu hunain. Cyfrannodd hynny'n helaeth at yr aflonyddwch cymdeithasol cynyddol. Ffrwydrodd y tensiynau hyn yn Nherfysg Merthyr yn 1831. Am y tro cyntaf erioed, unodd y gweithwyr dan y faner goch gan reoli'r dref i bob pwrpas am bedwar diwrnod. Aeth y sefyllfa allan o reolaeth ac anfonwyd milwyr i'r dref i wastrodi'r mudiad. Arestiwyd un o'r arweinwyr, Dic Penderyn (Richard Lewis), a'i grogi, tra dedfrydwyd eraill i'w caethgludo i Awstralia.

Er nad oedd yno harddwch pictiwresg adfeilion canoloesol neu fawredd mynyddoedd Eryri, eto roedd Merthyr Tudful yn tynnu nifer cyson o ymwelwyr o gyfandir Ewrop. Yn ystod y dydd byddai'r teithwyr yn astudio'n ofalus y dulliau cynhyrchu diweddaraf yn y ffatrioedd niferus, ac ar ôl iddi nosi roeddent yn rhythu mewn rhyfeddod at danau enfawr y ffwrnesiau'n goleuo'r cwm cyfan.

Oherwydd bri rhyngwladol y dref yn y maes diwydiannol, daeth diwydiannau cynhyrchu ysgafnach i gymryd lle cynhyrchu dur a haearn, a oedd yn edwino erbyn canol yr ugeinfed ganrif. Heddiw, mae projectau adfer tir mawr ar y gweill i wella'r tirweddau a anrheithiwyd gan y pyllau glo a chynhyrchu metelau, tra bo amgueddfeydd, megis Amgueddfa Castell Cyfarthfa, yn cadw treftadaeth ddiwydiannol Merthyr Tudful yn fyw.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch