BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch

Sganio Laser

Mae’r Comisiwn Brenhinol, gan gydweithio gyda Luminous, wedi sganio Capel Gwenffrewi yn Nhreffynnon gyda laser.

Mae sganio laser yn ei gwneud yn bosib casglu data 3D yn gyflym ac mewn llawer o fanylder ac i’r milimedr agosaf. Mae’r broses yn cynnwys gosod sganiwr laser ar drybedd wrth yr ardal i’w sganio. Mae’r sganiwr yn tanio laser a thrwy fesur yr amser mae’n ei gymryd i’r laser gael ei adlewyrchu’n ôl o wrthrych mae’n ei daro, caiff pellter ei gyfrifo. Mae’r sganiwr yn cofnodi popeth o fewn ei olwg a chaiff darlun cyflawn o’r gofod 3D ei greu wrth iddo sganio popeth o fewn ei gyrraedd yn systematig. Mae’r data a gesglir yn cael ei alw’n cwmwl pwyntiau ac mae’n cynnwys gwybodaeth am nifer o filiynau o bwyntiau. Gellir dadansoddi’r data hwn i dynnu gwybodaeth gwerthfawr a’i defnyddio i greu amrywiaeth o gynhyrchion o gynlluniau a thrychiadau i weddluniau ac animeiddiadau.

Gwnaed y sganio laser ar gyfer Taith i’r Gorffennol rhwng Rhagfyr 2017 ac Ionawr 2018 gan Luminous. Mae’r data’n rhoi cofnod manwl a chywir o’r adeiladau ar y pryd, ac maent wedi cael eu harchifo ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol o fewn Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Mae’r hediadau-drwy sy’n ganlyniad i hyn yn y fideos ar y wefan hon yn ddim ond un cynnyrch ‘rhithwir’ a grëwyd; yn bwysicach y mae’r defnydd parhaus o’r data i gynorthwyo i reoli a gwarchod yr adeiladau yn y dyfodol.

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch