BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch

Telerau Gwefan a Gwarchod Data

Lluniwyd y Cytundeb hwn yn yr iaith Saesneg. Os caiff y Cytundeb hwn ei gyfieithu i unrhyw iaith arall, y testun yn yr iaith Saesneg fydd drechaf.

Cynhelir y wefan https://footsteps.bangor.ac.uk (y “Wefan”) gan Brifysgol Bangor (rhif elusen gofrestredig 1141565) o Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DG (y “Brifysgol”) (“Bangor”, neu “Ni”).

Mae’r telerau ac amodau hyn (’Telerau’) yn nodi eich hawliau a’ch rhwymedigaeth wrth ddefnyddio’r Wefan. Trwy ddefnyddio’r Wefan, rydych (”Chi”) yn cytuno i gadw at y Telerau a’r rhybudd casglu data hyn.

  • 1. Cysylltiadau
    • 1.1 Efallai y bydd y Wefan hon yn cynnwys cysylltiadau â gwefannau eraill a all fod o ddiddordeb i Chi. Gweithredir a rheolir gwefannau o’r fath gan drydydd parti ac nid yw eu cynnwys yn awgrymu ein bod Ni yn cadarnhau neu gymeradwyo’r deunyddiau ar safle trydydd parti o’r fath.
    • 1.2 Sylwer bod y Telerau hyn yn cyfeirio’n unig at y Wefan ac ni fwriedir iddynt fod yn berthnasol i wefannau cwmnïau eraill y gallwn ddarparu cysylltiadau iddynt. Nid ydym yn gyfrifol am delerau neu ddulliau gweithredu’r gwefannau eraill hynny o ran preifatrwydd. Dylech sicrhau eich bod yn gwirio telerau a pholisïau’r gwefannau eraill hynny ar breifatrwydd os penderfynwch eu defnyddio.
    • 1.3 Nid ydym yn rhoi unrhyw sicrwydd nad oes firysau yn y Wefan. Argymhellir yn gryf eich bod yn gwirio am firysau o’r fath cyn i chi lawrlwytho’r Wefan neu ei chynnwys.
  • 2. Defnydd
    • 2.1 Mae’r Wefan i’w defnyddio i ddibenion anfasnachol.
    • 2.2 Yn amodol ar gymalau 2.3 a 3.4 caniateir i chi ddefnyddio a rhannu’r wybodaeth ar y Wefan hon ar gyfer eich defnydd personol a dibenion ymchwil gan sicrhau y rhoddir cydnabyddiaeth briodol i Ni.
    • 2.3 Rydych yn cytuno na fyddwch yn:
      • (a) defnyddio’r Wefan i ddibenion anghyfreithlon ac y byddwch yn parchu holl gyfreithiau a rheoliadau perthnasol.
      • (b) defnyddio’r Wefan mewn ffordd a all niweidio ei pherfformiad, llygru’r cynnwys neu leihau gallu’r Wefan i weithredu drwodd a thro.
      • (c) peryglu diogelwch y Wefan neu geisio cael mynediad at fannau wedi’u diogelu neu at wybodaeth sensitif.
      • (d) Defnyddio’r Wefan i dramgwyddo, difenwi neu sarhau unrhyw un yn hiliol.
  • 3. Hawliau Eiddo Deallusol
    • 3.1 Bydd golwg a theimlad y Wefan yn parhau i fod yn eiddo i’r Brifysgol.
    • 3.2 Ni fydd unrhyw beth yn y Telerau hyn yn rhoi hawliau i Chi o ran hawliau eiddo deallusol Bangor, yn cynnwys nodau masnach, enwau masnachu neu fel arall, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain.
    • 3.3 Gall peth gwybodaeth, delweddau neu gysylltiadau a gynhwysir yn y Wefan hon fod yn eiddo deallusol trydydd parti gan ddod dan delerau ac amodau ar wahân y bydd angen i Chi gydymffurfio â hwy. Nid yw Bangor yn ceisio cynnig unrhyw drwyddedau i unrhyw ddeunydd y mae gan drydydd parti hawlfraint drosto.
  • 4. Cyfyngu ar Atebolrwydd
    • 4.1 Nid ydym yn rhoi sicrwydd y bydd y Wefan ar gael 24x7x365.
    • 4.2 Darperir y Wefan “fel ag y mae” ac nid ydym yn rhoi unrhyw sicrwydd ynghylch cywirdeb, natur gyfoes, perfformiad, cyflawnder neu addasrwydd y wybodaeth a’r deunyddiau a geir neu a gynigir ar y Wefan ar gyfer unrhyw ddiben neilltuol.
    • 4.3 Ni fydd y naill Barti na’r llall nac unrhyw drydydd parti a fu’n ymwneud â chreu, cynhyrchu neu ddarparu’r Wefan yn gyfrifol am unrhyw ddifrod uniongyrchol neu anuniongyrchol yn deillio o ddefnyddio’r Wefan, neu o anallu i’w defnyddio.
    • 4.4 Mae cynnwys tudalennau’r Wefan hon er gwybodaeth a defnydd cyffredinol yn unig i Chi a gall newid yn ddirybudd.
    • 4.5 Rydych yn cydnabod y gall y cyfryw wybodaeth a deunyddiau gynnwys gwallau neu gamgymeriadau ac rydym yn ymwrthod yn llwyr ag atebolrwydd dros unrhyw gyfryw wallau neu gamgymeriadau i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith.
    • 4.6 Ni fyddwn yn atebol am unrhyw iawndal neu gosbau anuniongyrchol, cysylltiedig, canlyniadol, penodedig, arbennig neu gosbedigaethol i Chi yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, golli busnes, refeniw neu elw neu fel arall o ganlyniad i ddefnyddio’r Wefan.
    • 4.7 Nid oes dim yn y Telerau hyn yn eithrio nac yn cyfyngu atebolrwydd am farwolaeth, anaf personol neu gamliwiad twyllodrus.
    • 4.8 Cyfyngir atebolrwydd uchaf Bangor dan y cytundeb hwn i £1000.
  • 5. Cyffredinol
    • 5.1 Rheolir y Telerau hyn gan ddeddfau Lloegr a Chymru a byddant yn dod dan awdurdodaeth anghyfyngedig Llysoedd Cymru a Lloegr.
    • 5.2 Ni fernir bod methiant y naill Barti neu’r llall i weithredu neu orfodi unrhyw hawliau a roddir iddo gan y Telerau hyn yn hepgor unrhyw hawl neu weithrediad o’r fath fel ag i atal gweithredu neu orfodi’r hawl hwnnw neu unrhyw hawl arall ar unrhyw adeg neu adegau dilynol.
    • 5.3 Os bydd unrhyw lys neu gorff gweinyddol cymwys yn gweld bod unrhyw ddarpariaeth yn y Telerau hyn yn annilys neu’n anorfodadwy yn gyfan neu’n rhannol, ni fydd y cyfryw annilysrwydd neu anorfodadwyedd yn effeithio ar ran arall y ddarpariaeth neu ddarpariaethau eraill y Telerau hyn, a fydd yn parhau mewn grym ac effaith lawn.
  • 6. Polisi Preifatrwydd a Gwarchod Data
    • 6.1 Mae’r Brifysgol yn Rheolwr Data Cofrestredig yn unol â’r diffiniad a geir yn Neddf Gwarchod Data 1998. Bydd unrhyw fanylion personol a gesglir drwy’r Wefan hon ac a roddir gennych Chi yn cael eu prosesu yn unol â’r Ddeddf, ac ni chânt eu defnyddio ond at y diben neu’r dibenion a nodir ar y Wefan.
    • 6.2 Eiddo Prifysgol Bangor yw’r wybodaeth a gesglir ar y Wefan hon. Ni fyddwn yn gwerthu, rhannu na rhentu’r wybodaeth hon i eraill trwy ddulliau sy’n wahanol i’r hyn a nodir yn y Polisi hwn neu fel y nodir yn y man casglu ar y Wefan.
    • 6.3 Ffeiliau testun bychan yw cwcis sy’n cael eu rhoi ar eich cyfrifiadur gan wefannau yr ydych yn ymweld â nhw. Cânt eu defnyddio’n helaeth er mwyn gwneud i wefannau weithio, neu weithio’n fwy effeithlon, yn ogystal â rhoi gwybodaeth i berchnogion y safle. Wrth ddefnyddio’r wefan rydych yn cytuno y cawn osod cwcis ar eich dyfais. Ar hyn o bryd gall y cwcis gynnwys eich dewisiadau o ran iaith, a gwybodaeth am y tudalennau yr ydych yn ymweld â hwy yn y wefan. Fodd bynnag, caiff yr holl ddata ar ddefnydd eu cyd-grynhoi, ac nid ydynt yn dangos gweithgareddau unrhyw unigolyn na chyfrifiadur penodol. Rydym yn defnyddio cwcis yn unig i ddarparu’r gwasanaeth ar-lein gorau i ddefnyddwyr. Mae ein dada dadansoddol yn cynnwys gwybodaeth am eich cyfrifiadur, yn cynnwys eich cyfeiriad PRh, y math o borwr sydd gennych, enw eich parth, amseroedd cyrchu a chyfeiriadau gwefannau y cyfeiriwch atynt. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon er mwyn gweithredu’r gwasanaeth, i gynnal ansawdd y gwasanaeth, ac i ddarparu ystadegau cyffredinol yn ymwneud â defnyddio’r wefan.
  • 7. Cywiro/ Diweddaru Gwybodaeth Bersonol
    • 7.1 Os bydd unrhyw ran o’ch gwybodaeth bersonol yn newid, neu os byddwch eisiau rhoi’r gorau i dderbyn gwasanaethau neu wybodaeth Bangor, byddwn yn cywiro, diweddaru neu ddileu eich gwybodaeth bersonol cyn gynted ag y bo modd ac o dan unrhyw amgylchiadau o fewn mis o dderbyn eich cais. Gellir gwneud hyn drwy gysylltu â Chynorthwywr Ymchwil y project “Teithwyr Ewropeaidd yng Nghymru”, neu drwy anfon e-bost at etw@bangor.ac.uk neu ffonio 01248 351151.
  • 8. Ceisiadau Mynediad gan Wrthrych y Data
    • 8.1 I wneud cais am fynediad at wybodaeth sydd gennym amdanoch, cysylltwch â Phennaeth Llywodraethu a Chydymffurfio’r Brifysgol, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DG, ffôn (01248) 382413 neu e-bost: gwenan.hine@bangor.ac.uk
  • 9. Hysbysu am Newidiadau i’n Polisi Preifatrwydd
    • 9.1 Efallai y diwygir y Telerau hyn o bryd i’w gilydd. Os gwnawn unrhyw newidiadau o bwys, byddwn yn eich hysbysu trwy osod hysbysiad amlwg ar y wefan. Gofalwch eich bod yn darllen y Polisi sydd mewn grym ar yr adeg rydych yn defnyddio’r wefan.

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch