BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Aberystwyth

Aberystwyth - Trosolwg

Mae tref Aberystwyth wedi ei chamenwi mewn gwirionedd gan mai yn aber afon Rheidol y mae'r dref arfordirol hon. Fodd bynnag, mae gwreiddiau Aberystwyth i'w cael yn yr anheddau Mesolithig ger ceg afon Ystwyth, caer Oes Haearn Pen Dinas a cham cyntaf adeiladu castell yn Tan-y-Castell.

Mae safle presennol y dref yn dyddio o sefydlu'r castell Edwardaidd a'r fwrdeistref gaerog yn 1277. Cipiodd Owain Glyndŵr y castell yn 1404 a'i ddal am bedair blynedd. Yn ystod y canrifoedd dilynol bu'n fathdy brenhinol ac yn warws, cyn iddo gael ei ddinistrio ar orchymyn Oliver Cromwell yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.

Ffynnodd y dref gyda thwf pysgota penwaig, a chloddio am blwm ac arian yn y mynydd-dir cyfagos. Gyda'r cynnydd ym mhoblogrwydd gwyliau glan môr at ddiwedd y ddeunawfed ganrif, heidiodd mwy a mwy o dwristiaid i'r dref gymharol anghysbell hon i fwynhau ymdrochi a'r golygfeydd ysblennydd. Wedi diwrnod hir o deithio yn y goets fawr ar ffyrdd garw roedd teithwyr blinedig yn adfywio wrth weld Bae Aberteifi yn agor o'u blaenau. Gyda dyfodiad y rheilffordd yn y 1860au cwblhawyd datblygiad Aberystwyth yn dref glan môr. Agorodd llawer o'r gwestai ar y promenâd eu drysau gyntaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ynghyd â'r pier, y rheilffordd halio a'r ystafelloedd ymgynnull.

Yn 1844 cyrhaeddodd y Brenin Friedrich August II o Sacsoni a Carl Carus, ei feddyg, yno'n hwyr un noson. Wedi taith ddiwrnod hir o Aberhonddu cawsant fod y gwesty o'u dewis yn hollol lawn. Roedd cymaint o ymwelwyr wedi cyrraedd Aberystwyth yr haf hwnnw fel y cymerodd oriau iddynt gael hyd i lety. Fore trannoeth, tarfuwyd ar eu brecwast wrth i fand pres a chôr o longwyr roi croeso cerddorol cynnes iddynt. I'r teithwyr hynny nad oedd eisiau mwynhau ymdrochi yn y môr, roedd yr ardal o amgylch Aberystwyth yn arbennig o ddiddorol oherwydd ei chysylltiad a thwristiaeth pictiwrésg. Cynlluniwyd gerddi trawiadol ystâd yr Hafod gerllaw gan Uvedale Price, brodor o Aberystwyth ac un o sylfaenwyr y mudiad pictiwrésg. Yn fwy diweddar, mae'r rhaglen deledu Y Gwyll / Hinterland, a ffilmiwyd mewn lleoliadau yn Aberystwyth a'r cyffiniau, wedi denu cenhedlaeth newydd o dwristiaid pictiwrésg i'r dref.

Ysgrifau taith

Lleoliad

Oriel

Taith Gigapicsel

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch