BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Castell Caerffili

Castell Caerffili - Trosolwg

Gyda dau lyn o'i amgylch, Castell Caerffili yw'r safle castell mwyaf yng Nghymru a'r enghraifft gynharaf o gastell Normanaidd o gynllun consentrig ym Mhrydain.

Er i'r Rhufeiniaid adeiladu caer atodol yma mor gynnar â 75 OC, cafodd ei gadael drachefn erbyn yr ail ganrif ac, am y mil o flynyddoedd nesaf, arhosodd y safle a'r ardal gyfagos yn denau eu poblogaeth. Yn 1268 gorchmynnodd Gilbert de Clare, Arglwydd Normanaidd Morgannwg, adeiladu'r castell carreg enfawr yno. Dros y tri degawd nesaf, adeiladwyd y castell consentrig a chreu'r llynnoedd ond, gyda marwolaeth Syr Gilbert yn 1295, daeth yr adeiladu i ben bron yn llwyr. Am gyfnod byr yn 1326 daeth y castell i amlygrwydd wrth i Edward II, brenin Lloegr, geisio nodded yno rhag ei wraig, Y Frenhines Isabella, yr oedd wedi gwahanu oddi wrthi, a'i phartner, Roger de Mortimer. Yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, aeth y castell i ddwylo Richard Beauchamp, Iarll Caerwrangon, ond cafodd ei adael a dechrau dadfeilio gan iddo ef wneud Castell Caerdydd yn brif gartref iddo. Yn ystod y canrifoedd dilynol, cyflymodd dirywiad y castell wrth i'r llynnoedd gael eu sychu a chario cerrig o'r safle i adnewyddu tŷ Thomas Lewis gerllaw.

Yn y cyfnod Rhamantaidd, Caerffili'n aml oedd y castell adfeiliedig cyntaf y byddai twristiaid yn dod ar ei draws wrth iddynt gyrraedd Cymru gan ei fod mor agos i'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Roedd maint ac arwynebedd y castell yn atgoffa llawer o deithwyr, megis y barwn Gottfried von Purgstall o Awstria, o adfeilion Abaty Tyndyrn gerllaw. Fodd bynnag, yn wahanol i'w gefnder cysegredig ymhellach i'r dwyrain a'r rhan fwyaf o gestyll adfeiliedig eraill ar hyd a lled Cymru, nid oedd Castell Caerffili wedi'i orchuddio ag eiddew a thyfiant gwyrdd.

Er 1844, blwyddyn ymweliad siomedig Carl Carus â'r adfeilion - a oedd yn fwy anghyfannedd na hardd yn ei farn ef - mae gwaith cadwraeth ac adfer helaeth wedi'i wneud ar y safle. Cafodd y llynnoedd eu hadfer, mae muriau a ddymchwelodd wedi cael eu codi ac mae'r Neuadd Fawr wedi cael ei hadfer. Yn ffodus i dwristiaid heddiw, mae nodwedd amlycaf y castell, sef y tŵr cam mawr, heb ei gyffwrdd gan y canfuwyd ei fod yn ddigon sefydlog i wrthsefyll grym disgyrchiant.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch