BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Neuadd Llanofer

Neuadd Llanofer - Trosolwg

Mae lle arbennig i Neuadd Llanofer yn hanes yr adfywiad diweddar mewn diwylliant a llenyddiaeth Gymraeg. Roedd y plasty'n ychwanegiad cymharol ddiweddar at y rhestr o blastaid Cymreig. Fe'i comisiynwyd yn 1828 gan Benjamin ac Augusta Hall, Arglwydd ac Arglwyddes Llanofel, a'i gynllunio gan Thomas Hopper.

Roedd Benjamin Hall (1802 - 1867) yn beiriannydd sifil cyfoethog, Aelod Seneddol a diwygiwr cymdeithasol o'r Fenni. Gan ei fod yn gyfrifol am oruchwylio camau diwethaf ailadeiladu San Steffan, credir i 'Big Ben', y gloch fawr a osodwyd dan ei oruchwyliaeth yn nhŵr y cloc, gael ei llysenwi ar ei ôl. Yn 1823 priododd ag Augusta, Waddington cyn priodi, (1802-1896) o Abercarn gerllaw.

Prif ddiddordebau Arglwyddes Llanofer oedd astudio hanes, iaith a llenyddiaeth Cymru. Mabwysiadodd yr enw barddol Gwenynen Gwent ac, fel noddwr y celfyddydau, cyflogodd nifer o delynorion preswyl i weithio yn ei thŷ. Hefyd, anogodd adfywiad y dillad traddodiadol a wisgid gan y bobl gyffredin mewn gwahanol rannau o Gymru. Roedd mor hoff o'r gwahanol wisgoedd a gynhyrchid yn lleol, fel y dechreuodd wisgio fersiwn fwy bonheddig ohonynt yn ystod gwahanol wyliau a dathliadau diwylliannol, a gellir honni mai Arglwyddes Llanofer wnaeth greu 'gwisg genedlaethol' Cymru. (Gan nad oedd Benjamin Hall yn rhannu hoffter ei wraig o wisgo mewn dull gwledig, nid oes yna wisg i ddynion sy'n cyfateb i'r wisg Gymreig i ferched.)

Yn ogystal, roedd Arglwyddes Llanofer yn gasglwr llawysgrifau a sefydlodd eisteddfod flynyddol leol Cymreigyddion Y Fenni, a gwahoddodd iddi lawer o westeion rhyngwladol a rannai ei hoffter o gerddoriaeth a barddoniaeth Gymraeg. Roedd yn noddwr y Gymdeithas Lawysgrifau Cymreig, talodd am lunio geiriadur Cymraeg a bu'n flaenllaw gyda sefydlu Y Gymraes, y cylchgrawn Cymraeg cyntaf i ferched. Dros y blynyddoedd roedd gwesteion amlwg yn cynnwys ei brawd yng nghyfraith Almaenig, Christian Carl von Bunsen, yn ogystal â Théodore Claude Henri, vicomte Hersart de la Villemarqué, o Lydaw a gafodd ei dderbyn fel bardd i'r Orsedd.

Cafodd Neuadd Llanofer, a ailenwyd yn Dŷ Llanofer, ei ddymchwel i raddau helaeth yn 1936, ond mae yno dŷ preifat o hyd gyda gardd fawr a pharc. Mae'r perchnogion presennol yn aml yn agor y drysau i'r cyhoedd fwynhau'r ardd drefnus, 200 oed, a gomisiynwyd gan y perchnogion cyntaf, Benjamin ac Augusta. Yn ogystal, maent hwythau'n parhau'r traddodiad o blannu coed.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch