Animeiddiadau ac Adluniadau Digidol
Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi defnyddio modelu cyfrifiadurol ac animeiddio i ail-greu safleoedd amlwg, eu hadeiladwaith a'u prosesau gweithio. O wylio’r modd yr adeiladwyd Traphont Ddŵr Pontcysyllte i weld y modd yr oedd haearn yn cael ei rolio yn Merthyr Tydfil, mae’r ffilmiau byrion hyn yn egluro treftadaeth safleoedd cymhleth a phrosesau Cymru ddiwydiannol.