BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch

Gwybodaeth

Taith i’r Gorffennol

Cyllidwyd y bartneriaeth Taith i’r Gorffennol gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, a gyllidodd y prosiect gwreiddiol ‘Teithwyr Ewropeaidd i Gymru 1750–2010’ hefyd a ddechreuodd yn 2013. Roedd ‘Teithwyr Ewropeaidd’ yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Am wybodaeth bellach, ewch i wefan y prosiect gwreiddiol.

Bu i ‘Teithwyr Ewropeaidd’ gasglu dros 440 o hanesion teithio, gyda’r mwyafrif wedi eu hysgrifennu mewn Ffrangeg ac Almaeneg, a cheir disgrifiadau manwl o’u cynnwys yn y gronfa ddata Hanesion Teithio (Accounts of Travel) sydd ar gael am ddim ac y gellir ei chwilio’n llawn. Bu i’r prosiect edrych ar amrywiaeth o ffynonellau, yn cynnwys teithlyfrau, tywyslyfrau, dyddiaduron, llythyrau a blogiau, ar ffurf llawysgrif a phrint. Roedd llawer o’r rhain wedi eu ‘cuddio’ mewn gweithiau am deithiau yn Lloegr. Bu i’r ymchwilwyr ddarganfod amrywiaeth eang o resymau pam y bu i deithwyr o Ewrop ddod i Gymru. Darganfuwyd straeon am ffoaduriaid ac alltudion ochr yn ochr â stôr o ddisgrifiadau manwl o dirweddau, adeiladau ac adfeilion Cymru. Mae’r rhain yn adnoddau hollol newydd sy’n cyfoethogi ein dealltwriaeth o Gymru, ac yn ehangu maes astudiaethau ysgrifennu taith i gynnwys mwy na phortreadau Saesneg eu hiaith yn unig o Gymru.

Yn dilyn ymlaen o’r prosiect hwn, mae Taith i’r Gorffennol yn rhoi golwg newydd ar hanes a diwylliant Cymru drwy gyfuno ffynonellau hanesyddol gyda thechnolegau newydd. Mae ymchwilwyr y prosiect ‘Teithwyr Ewropeaidd’ yn cyfuno eu harbenigedd ar hanes ysgrifennu taith mewn ieithoedd modern Ewropeaidd gydag adnoddau archif y Comisiwn Brenhinol ynghylch hanes ac amgylchedd adeiledig Cymru.

Fel rhan o’r cydweithrediad hwn, mae tîm Taith i’r Gorffennol wedi creu cyfieithiadau newydd o ddisgrifiadau teithio hanesyddol mewn Ffrangeg ac Almaeneg, ac wedi comisiynu’r gwaith o ddigideiddio deunydd a gedwir yng nghasgliadau ac archifau arbennig y Comisiwn Brenhinol. Yn ogystal, mae’r tîm wedi cynhyrchu adnoddau digidol newydd, megis teithiau 360°-Gigapixel a fideos ar gyfer lleoliadau dethol ar draws Cymru. Ceir adluniadau digidol newydd o drefi ac adeiladau, fideo yn dangos treftadaeth ddiwydiannol Merthyr Tydfil (a gynhyrchwyd gan Treehouse Media) a phrofiad rhithwir o Abaty Tyndyrn yn ystod y cyfnod Rhamantaidd (a gynhyrchwyd gan Luminous) yn cwblhau’r profiad Taith i’r Gorffennol.

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch