Y Partneriaid
Prifysgol Bangor
Mae gan Brifysgol Bangor, a sefydlwyd ym 1884, draddodiad hir o ragoriaeth academaidd, a ffocws cryf ar brofiad myfyrwyr. Mae dros 11,000 o fyfyrwyr yn astudio yn y Brifysgol ar hyn o bryd, gyda 650 o staff dysgu mewn 23 o Ysgolion Academaidd.
Mae Prifysgol Bangor yn y 40 uchaf yn y DU am ymchwil yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014. Cydnabu’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil fod mwy na thri chwarter o ymchwil Bangor naill ai “gyda’r orau yn y byd” neu’n “rhagorol yn rhyngwladol”, ac ar y blaen i’r cyfartaledd ar gyfer prifysgolion y DU.
Athro Almaeneg ym Mhrifysgol Bangor yw’r Athro Carol Tully. Mae wedi dod yn adnabyddus yn rhyngwladol fel ysgolhaig ym maes cyfnewid diwylliannol yn Ewrop yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan ganolbwyntio’n bennaf ar Yr Almaen a Sbaen. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau, golygiadau ysgolheigaidd, cyfieithiadau ac erthyglau mewn cyfnodolion.
Mae Dr Rita Singer yn arbenigo mewn gweithiau Cymreig ffuglennol a ffeithiol yn y Saesneg o’r bedwaredd ganrif a’r bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Mae ei diddordebau ymchwil hefyd yn cynnwys hanes y llyfr ymwelwyr yng Nghymru a hanesion teithiau gyda darluniau. Mae hi hefyd wedi cyhoeddi erthyglau am nofelau hanesyddol yn ymwneud â Chymru, yn ogystal â golygu nifer o gyfrolau o nofelau Cymraeg cynnar a straeon byrion yn y Saesneg.
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd
Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil benodol sy’n cyflawni prosiectau tîm ar ieithoedd, llenyddiaeth, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae wedi meithrin enw da yn rhyngwladol fel canolfan o ragoriaeth ym maes Astudiaethau Celtaidd.
Wedi’i lleoli mewn adeilad pwrpasol gyferbyn â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, mae ganddi ychydig dros ugain o staff ar hyn o bryd, a charfan fechan o fyfyrwyr ymchwil.
Mae Dr Heather Williams yn feirniad llenyddol gymharol sy’n gweithio ym meysydd Astudiaethau Ffrengig ac Astudiaethau Celtaidd. Ymunodd â’r Ganolfan yn 2007 fel Uwch Gymrawd Pilcher. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys ysgrifennu taith, yn arbennig yng nghyd-destun ôl-drefedigaethedd ac astudiaethau cyfieithu; teithwyr i Lydaw ac i Gymru o’r cyfnod Rhamantaidd ymlaen.
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Wedi’i leoli yn Aberystwyth, mae gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru rôl genedlaethol arweiniol o ran datblygu a hyrwyddo dealltwriaeth o dreftadaeth archaeolegol, adeiledig a morol Cymru, fel y cychwynnwr, curadur a darparwr gwybodaeth awdurdodol i unigolion, sefydliadau corfforaethol a llywodraethol sy’n gwneud penderfyniadau, ymchwilwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol.
Mae tirwedd a threftadaeth adeiledig Cymru yn ganlyniad i ryngweithio pobl gyda’r byd naturiol dros filoedd o flynyddoedd. Ers ei sefydlu yn 1908, mae’r Comisiwn Brenhinol wedi arwain y ffordd o ran ymchwilio i weddillion y rhyngweithio hwnnw a’i egluro – yr archaeoleg a’r adeiladau hanesyddol a welwn o’n cwmpas.
Mae gan y Comisiwn Brenhinol gasgliad unigryw o ffotograffau, mapiau, lluniau, cyhoeddiadau ac adroddiadau yn ei archif, Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, y gellir ei weld ar eu cronfa ddata ar-lein, sef Coflein, neu drwy holi ein Gwasanaethau Ymholiadau.
Mae Susan Fielding yn Uwch Ymchwilydd (Adeiladau Hanesyddol) gyda’r Comisiwn Brenhinol. Mae ei meysydd ymchwil yn cynnwys Mannau Addoli a phensaernïaeth y bedwaredd ganrif a’r bymtheg a’r ugeinfed ganrif, defnyddio technolegau newydd i arolygu, dehongli a lledaenu gwybodaeth.
Mae Scott Lloyd yn swyddog datblygu prosiect gyda’r Comisiwn Brenhinol. Mae ei feysydd ymchwil yn cynnwys croniclau canoloesol a gweithiau hynafiaethol yn ymwneud â Chymru, ochr yn ochr â dulliau cyflwyno gwybodaeth yn ddigidol ar gyfer cynhyrchion digidol.