Cymru yw’r unig wlad yn y byd i gynnig llwybrau cyhoeddus ar hyd ei harfordir gyfan. Darganfyddwch sut mae’r môr wedi siapio hanes a diwylliant aneddiadau arfordirol.
Archwiliwch fynyddoedd, dyffrynnoedd, afonydd ac arfordir ysblennydd Cymru yn ôl troed y Rhamantwyr a gweld cefn gwlad drwy eu llygaid nhw.
Weithiau, y pethau bychain sy’n gwneud yr argraffiadau mwyaf. Mae trefi bychain Cymru yn eich croesawu gyda’u hanes cyffrous, bwyd blasus a threftadaeth leol liwgar.
Bu i’r peiriannydd sifil, Thomas Telford (1757–1834), siapio isadeiledd gogledd Cymru fel neb arall. Teithiwch ar hyd y lôn bost hynod hon rhwng Caergybi a Llangollen a darganfyddwch ei bontydd, camlesi a thraphontydd dŵr gwych.
Defnyddid llechi o chwareli a mwyngloddiau gogledd Cymru i doi’r byd. Dilynwch y llechi o’r fan y cawsant eu cynhyrchu yn Eryri i’w porthladdoedd dosbarthu, a dysgu mwy am dreftadaeth diwydiannol eithriadol yr ardal hon.
Bu i gopr, haearn a glo Cymreig drawsffurfio Prydain i’r genedl ddiwydiannol gyntaf yn y byd. Dilynwch y llwybr hwn a chael eich syfrdanu gan dreftadaeth ddiwydiannol unigryw Cymru.
Mae Cymru yn gartref i rai o hanesion a chwedlau hynaf Ewrop. Dilynwch y llwybr hwn a byddwch yn dod ar draws cewri, yn twyllo’r diafol ac yn cael eich cyfareddu gan Myrddin.
Ni all yr un wlad arall yn y byd guro nifer y cestyll yng Nghymru, sy’n amrywio o gaerau canoloesol i blastai o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Teithiwch yn ôl mewn amser a dod o hyd i hanesion am goncwestau a gwrthsafiad, fföedigaethau a lletygarwch.
Mae Cymru yn enwog am yr adeiladau crefyddol dirifedi sy’n dynodi ei threftadaeth Gristnogol hir. Darganfyddwch gapeli’r Anghydffurfwyr, y gwahanol eglwysi neu’r adfeilion abatai canoloesol urddasol mewn cymoedd anghysbell, neu ddarganfod sut aeth un ferch y filltir ychwanegol i brynu Beibl.
This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.
Terms of Use
Copyright © 2018 Bangor University. All Rights Reserved.
Facebook Twitter