Profiad Rhithwir
Mae’r Comisiwn Brenhinol, gan gydweithio gyda Luminous, wedi cynhyrchu profiad rhithwir o Abaty Tyndyrn. O’r profiad hwn, bu i Luminous wneud sgan laser 3D o’r holl safle yn Rhagfyr 2017. Defnyddiwyd data’r arolwg ar y cyd gydag amrywiaeth eang o ddelweddau archif hanesyddol, yn cynnwys ffotograffau a phaentiadau o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, i ail-greu'n rhithwir yr adfeilion fel y byddent wedi ymddangos i ymwelwyr yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gyda chymorth penset rhithwir neu syllwr cardfwrdd i’ch ffôn clyfar (smartphone), gellwch ymgolli yn amgylchoedd 3D Abaty Tyndyrn a, gyda chymorth gosodiad dydd a nos, edrych ar yr adfeilion yn olion troed teithwyr hanesyddol o Ffrainc a’r Almaen. Mae llyfrau sydd wedi eu gosod mewn gwahanol lefydd o amgylch y safle yn eich galluogi i ddysgu mwy am yr abaty, ei drigolion a’i hanes.
- I weld Abaty Tyndyrn yn Profiad Rhithwir, lawrlwythwch y ffeil zip hwn sy'n cynnwys popeth sydd angen. Wedi'i optimeiddio i'w ddefnyddio gyda penset HTC Vive.
- I weld fersiwn o ailadeiladu Abaty Tyndyrn, ar eich cyfrifiadur lawrlwythwch y ffeil zip hwn sy'n cynnwys popeth sydd angen.
- I weld fideo gradd 360 sy'n addas i'w ddefnyddio gyda Google Cardboard a ffôn symudol, defnyddiwch y ffeil hon.