Croeso!
Ers ganrifoedd, mae Ewropeaid y cyfandir wedi dod i Gymru. Yn ystod y cyfnod Rhamantaidd, daeth rhai i chwilio am hafan wledig, ac yn ystod Oes Victoria teithiodd eraill fel ysbiwyr diwydiannol. Ar adegau o ryfel bu i lawer o ffoaduriaid ddianc i Gymru i geisio lloches rhag cael eu herlid. Mae Ewropeaid y cyfandir nid yn unig wedi gadael eu holion ymhlith y Cymry drwy ymgartrefu yma, maent hefyd wedi ysgrifennu’n helaeth am eu profiadau mewn dyddiaduron, llythyrau, llyfrau a chylchgronau.
Dilynwch naw llwybr â thema a darganfod Cymru, ei threftadaeth, ei diwylliant a’i phobl. Profwch y wlad fel na wnaethoch o’r blaen drwy weithiau teithwyr hanesyddol. Ymchwiliwch i Abaty Tyndyrn sydd wedi’i orchuddio ag eiddew, rhyfeddwch ar awyr tanllyd Merthyr Tydfil yn y nos a syrthiwch mewn cariad gyda merched digon anarferol yn Llangollen.