Isod fe welwch oriel o'r holl luniau a ddefnyddiwyd ar y wefan hon a gymerwyd o gasgliadau ac archifau arbennig helaeth y Comisiwn Brenhinol. Mae llawer o'r rhain wedi cael eu digideiddio am y tro cyntaf fel rhan o'r prosiect hwn.
Mae'r Comisiwn Brenhinol, gan gydweithio gyda Luminous, wedi sganio Abaty Tyndyrn a Chapel Gwenffrewi yn Nhreffynnon gyda laser. Mae sganio laser yn ei gwneud yn bosib casglu data 3D yn gyflym ac mewn llawer o fanylder ac i'r milimedr agosaf.
Mae'r Comisiwn Brenhinol, gan gydweithio gyda Luminous, wedi cynhyrchu profiad rhithwir o Abaty Tyndyrn. O'r profiad hwn, bu i Luminous wneud sgan laser 3D o'r holl safle yn Rhagfyr 2017.
Mae'r Comisiwn Brenhinol wedi defnyddio modelu cyfrifiadurol ac animeiddio i ail-greu safleoedd amlwg, eu hadeiladwaith a'u prosesau gweithio.
Mae'r teithiau Gigapixel rhyngweithiol ar y wefan hon wedi cael eu cynhyrchu gan y Comisiwn Brenhinol. Mae pob un o'r golygfeydd wedi cael eu creu o dros 400 o ffotograffau sydd wedi cael eu rhoi at ei gilydd yn ddigidol a'u taflunio i sffêr 360° rhithwir.
Mae gan Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru gannoedd o ffotograffau stereosgopig hanesyddol - parau ffotograffig printiedig sy'n datgelu darlun 3D pan edrychir arnynt drwy sbectol 3D.
This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.
Terms of Use
Copyright © 2018 Bangor University. All Rights Reserved.
Facebook Twitter