Mae tref Aberystwyth wedi ei chamenwi mewn gwirionedd gan mai yn aber afon Rheidol y mae'r dref arfordirol hon. Fodd bynnag, mae gwreiddiau Aberystwyth i'w cael yn yr anheddau Mesolithig ger ceg afon Ystwyth, caer Oes Haearn Pen Dinas a cham cyntaf adeiladu castell yn Tan-y-Castell.
Mae safle presennol y dref yn dyddio o sefydlu'r castell Edwardaidd a'r fwrdeistref gaerog yn 1277. Cipiodd Owain Glyndŵr y castell yn 1404 a'i ddal am bedair blynedd. Yn ystod y canrifoedd dilynol bu'n fathdy brenhinol ac yn warws, cyn iddo gael ei ddinistrio ar orchymyn Oliver Cromwell yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.
Ffynnodd y dref gyda thwf pysgota penwaig, a chloddio am blwm ac arian yn y mynydd-dir cyfagos. Gyda'r cynnydd ym mhoblogrwydd gwyliau glan môr at ddiwedd y ddeunawfed ganrif, heidiodd mwy a mwy o dwristiaid i'r dref gymharol anghysbell hon i fwynhau ymdrochi a'r golygfeydd ysblennydd. Wedi diwrnod hir o deithio yn y goets fawr ar ffyrdd garw roedd teithwyr blinedig yn adfywio wrth weld Bae Aberteifi yn agor o'u blaenau. Gyda dyfodiad y rheilffordd yn y 1860au cwblhawyd datblygiad Aberystwyth yn dref glan môr. Agorodd llawer o'r gwestai ar y promenâd eu drysau gyntaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ynghyd â'r pier, y rheilffordd halio a'r ystafelloedd ymgynnull.
Yn 1844 cyrhaeddodd y Brenin Friedrich August II o Sacsoni a Carl Carus, ei feddyg, yno'n hwyr un noson. Wedi taith ddiwrnod hir o Aberhonddu cawsant fod y gwesty o'u dewis yn hollol lawn. Roedd cymaint o ymwelwyr wedi cyrraedd Aberystwyth yr haf hwnnw fel y cymerodd oriau iddynt gael hyd i lety. Fore trannoeth, tarfuwyd ar eu brecwast wrth i fand pres a chôr o longwyr roi croeso cerddorol cynnes iddynt. I'r teithwyr hynny nad oedd eisiau mwynhau ymdrochi yn y môr, roedd yr ardal o amgylch Aberystwyth yn arbennig o ddiddorol oherwydd ei chysylltiad a thwristiaeth pictiwrésg. Cynlluniwyd gerddi trawiadol ystâd yr Hafod gerllaw gan Uvedale Price, brodor o Aberystwyth ac un o sylfaenwyr y mudiad pictiwrésg. Yn fwy diweddar, mae'r rhaglen deledu Y Gwyll / Hinterland, a ffilmiwyd mewn lleoliadau yn Aberystwyth a'r cyffiniau, wedi denu cenhedlaeth newydd o dwristiaid pictiwrésg i'r dref.
Man kann schon sehr mit der See bekannt seyn, und doch wird man immer ein neues Gemälde vor sich haben, beynah so oft man sie besucht. Gestern Abends war es sehr trübe; es regnete, und der ewige Wind, den man am festen Lande kaum bemerkte, hatte die See sehr in Bewegung gebracht. Das Anprellen der Wagen an die Felsen machte ein Geräusch, so heftig, als der Schuß einer Kanone. So fürchterlich die nun war, so traulich schienen die Wellen von anderen Stellen, mit den Felsenmassen zu spielen. Sie wälzten sich in weißem Schaum an dieselben, und traten schnell wieder zurück, kindlich triumphirend, daß der alte ernste ehrwürdige Fels sie nicht zu haschen und festzuhalten vermag. Andere brachen sich an dem Fels, und gingen nur wenig zurück; diese schienen bestraft für ihr leichtfertiges Spiel, und schienen nur nach langen kleinen Versuchen wieder zu kommen. Man kann Stundenlang alle dem zusehen, ohne zu ermüden.
Gall dyn fod yn gyfarwydd iawn eisoes â’r môr, ond eto bydd yn canfod darlun newydd ar bob ymweliad. Gyda’r nos neithiwr, roedd yn gymylog iawn; roedd yn glawio ac roedd y gwynt di-baid, na ellid prin ei deimlo ar y tir, wedi gwallgofi’r môr. Roedd trawiad y tonnau yn erbyn y creigiau mor swnllyd â thrwst magnelau. Er bod yr olygfa honno, o’i gweld o ryw bwynt arall, yn un arswydus, roedd y tonnau fel petaent yn chwarae â’r creigiau mawrion mewn ffordd gyfeillgar. Dan fantell o ewyn gwyn, roeddent yn rholio yn erbyn y creigiau ac yna’n tynnu nôl eto gyda rhyw fath o oruchafiaeth blentynnaidd na fu i’r hen glogwyn parchus, llym lwyddo i ddal gafael ynddynt. Torrai tonnau eraill ar y creigiau gan ond dynnu yn ôl ychydig; edrychent hwythau fel petaent wedi cael eu cosbi am eu chwarae gwamal ac yn ymddangos eu bod ond yn tynnu yn ôl yn llwyr ar ôl llawer o ymdrechion tila. Mae’n bosibl treulio oriau’n gwylio golygfeydd felly heb flino.
Aberystwyth, mit ungefähr 3000 Einwohnern, ist jetzt das besuchteste Seebad in Wales. Die Lage der Stadt ist reizend, in einem Halbkreise, unmittelbar am Meere hin zieht sich die Hauptstraße, Marine Terrass hin, hart daran ist der Badestrand. Männer und Frauen baden an verschiedenen Plätzen; es sind hier 23 Badekutschen, aber nicht besonders gute; ebenso sind die warmen Schauer- und Dampfbäder sehr mittelmäßig, und, wie sich in England von selbst versteht, ist Alles Eigenthum von Privaten. Der Strand ist schlecht, steinig, der Wellenschlag gut. In der Nähe ist eine eisenhaltige Quelle. Zu den Vergnügungen der Gäste gehören Lesezimmer, Theater, wöchentliche assemblies mit Kartenspiel, Ruderböte, und vor allem Spazierengehen. Auch von hier nahm ich Seewasser mit, dessen Temperatur bei Ostwind war +4 °R [5 °C], die der Luft 6 °R [7,5 °C]. – Es fror des Nachts sehr stark, ich musste mit einem offnen Post-Gig 34 englische Meilen machen, denn die regelmäßigen stage-coaches oder die mail gehen hier im Winter nicht.
Gyda thua 3,000 o drigolion, Aberystwyth bellach yw’r dref glan y môr sy’n gweld y mwyaf o ymwelwyr yng Nghymru. Mae’r dref mewn safle dymunol ac mae ei phrif stryd, Glan y Môr, yn ffurfio hanner cylch yn nesaf at y môr ac yn union gerllaw’r traeth ymdrochi. Bydd dynion a gwragedd yn ymdrochi mewn safleoedd gwahanol; mae tri ar hugain o gabanau ymdrochi symudol ar gael, ond nid ydynt yn rhai arbennig o dda; yn yr un modd, digon cyffredin yw safon y baddonau cawod a’r baddonau ager cynnes, ac, fel sy’n hunanamlwg yn Lloegr, mae popeth mewn dwylo preifat. Gwael yw’r traeth o gerrig mân; mae’r tonnau mawrion yn dda. Ceir ffynnon haearn gerllaw. Ymhlith y cyfleusterau i ddifyrru ymwelwyr mae ystafell ddarllen, theatr, cynulliadau wythnosol gyda gemau cardiau, cychod rhwyfo ac, uwchlaw popeth, cyfleoedd i fynd am dro. Casglais sampl o ddŵr y môr yma hefyd; ei dymheredd oedd +4 °R [4 °C] a thymheredd yr aer yn 6 °R [7.5 °C]. Bu barrug trwm yn ystod y nos a bu raid i mi deithio 34 milltir yn y trap post agored gan nad yw’r coetsys mawr arferol na’r cerbydau bost yn gweithredu yma yn ystod y gaeaf.
Les ruines du château se dressent majestueusement au S.O. de la ville et occupent le sommet d’un promontoire élevé, contre lequel, à chaque marées, s’élancent avec une extrême fureur les vagues de l’Océan. Les falaises d’ardoises elle-mêmes ont de la peine à soutenir un pareil choc, et le tout est menacé d’être un jour ou l’autre balayé par la mer. ...
Au nord du château s’étend, à quelques centaines de mètres, une grève d’un niveau assez égal, mais à cette grève succède une longue chaîne de rochers, dans lesquels l’action impétueuse de la mer a creusé des grottes et des cavernes. Au milieu des ruines, il est une promenade qui, par son élévation, domine toute la ligne des côtes formant la baie de Cardigan.
Aberystwith s’élève à peu près au centre de cette baie, et de la ville elle-même on peut suivre de l’œil la côte de Merioneth se prolongeant vers la mer par le long promontoire montagneux de Carnavon,que termine l’île de Bardsey. Cette mer elle-même, qui se développe dans toute son étendue et toute sa majesté, chargée de vaisseaux à voiles, de bateaux à vapeur, de barques de pêche, offre un panorama grandiose et varié.
Cwyd adfeilion y castell yn urddasol i’r de-orllewin o’r dref ar gopa penrhyn uchel, yn erbyn yr hwn y bydd tonnau’r eigion yn dwrdio mor wyllt gyda phob llanw. Prin y gall y clogwyni llechfaen wrthsefyll y fath guriadau ac mae’r cyfan dan fygythiad o gael ei ysgubo i’r môr rhyw ddiwrnod. I’r gogledd o’r castell, mae’r traeth yn ymestyn yn wastad gan fwyaf am ychydig gannoedd o fetrau, ond y tu hwnt i hwnnw gwelir cadwyn hir o greigiau y bu i weithgaredd didostur y môr gerfio ogofau a thyllau ynddynt. Ymhlith yr adfeilion hynny mae promenâd sydd, oherwydd ei uchder, yn tra-arglwyddiaethu ar holl arfordir Bae Ceredigion. Saif Aberystwyth fwy neu lai yng nghanol y bae hwnnw, ac o’r dref ei hun gall y llygaid ddilyn arfordir Sir Feirionnydd yn ymestyn i’r môr ar hyd penrhyn mynyddog Sir Gaernarfon gydag Ynys Enlli oddi ar ei ben pellaf. Mae’r môr ei hun, sydd yma yn amlygu ei holl ehangder a mawredd, yn llawn o gychod hwylio, cychod ager a chychod pysgota, yn cynnig panorama mawreddog ac amrywiol.
On a dit d’Aberystwith qu’elle est une sorte de Brighton dans la principauté de Galles. Les baigneurs s’y rendent en effet en grand nombre pendant l’été : aussi les logements garnis y abondent. Les meilleurs sont situés sur la Terrasse, en face de laquelle se trouvent réunies les voitures pour les baigneurs et les bains chauds d’eau de mer. La grève est célèbre pour les cailloux précieux aue l’on y rencontre, cornélienne, onyx, etc. Les baigneurs et surtout les nageurs feront pourtant bien de prendre leurs précautions. Il est imprudent de s’avancer trop loin dans les eaux, car la marée accourt quelquefois avec une violence soudaine et peut donner lieu à de graves accidents. Le caractère particulier d’Aberystwith est qu’elle réunit tous les avantages et les agréments d’une ville de bains, sans le bruit, l’éclat et les plaisirs fastueux qui troublent trop souvent ces sortes d’endroits. Les marchés et les boutiques sont bien approvisionnés en vue des visiteurs; les hôtels jouissent d’une certaine célébrité à cause de leur aménagement et de leurs prix modérés; les logements garnis sont en rapport avec tous les rangs et toutes les bourses.
Dywedwyd am Aberystwyth ei bod fel rhyw fath o Brighton yng Nghymru. Aiff nifer fawr o bobl i ymdrochi yno yn yr haf, mae’n wir, ac mae digonedd o lety wedi’i ddodrefnu ar gael. Fe welir y gorau ohono ar hyd stryd Glan y Môr, ar draws y ffordd i’r peiriannau ymdrochi â’r baddondai dŵr môr wedi’u cynhesu. Mae glan y môr yn enwog am y cerrig gwerthfawr sydd i’w canfod yno: carnelian, onics ac yn y blaen. Byddai’n dda i ymdrochwyr, ac yn arbennig nofwyr, gymryd gofal. Nid yw’n ddoeth mentro’n rhy bell i’r dŵr gan y gall y llanw weithiau lifo’n rymus yn sydyn, gan arwain at ddamweiniau difrifol. Nod amgen Aberystwyth yw gallu cynnig holl fanteision ac atyniadau tref glan y môr heb y sŵn, y coegwychder a’r gwag bleserau sydd yn rhy aml yn anharddu lleoedd o’r fath. Mae yn y marchnadoedd a’r siopau nwyddau i wasanaethu’r ymwelydd yn dda; mae i’r gwestai enw eithaf da diolch i’w dyluniad da a’u prisiau rhesymol; gall unrhyw un rentu’r llety wedi’i ddodrefnu ac mae lleoedd i siwtio pob poced.