BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Y Bala

Y Bala - Trosolwg

Tref fechan ym mhen gogleddol Llyn Tegid yw'r Bala wedi'i hamgylchynu gan fryniau a mynyddoedd. Ni ellir bod yn gwbl sicr o ddechreuadau hanesyddol Y Bala. Mae olion presenoldeb Rhufeinig yn yr ardal, ond mae bron yn sicr fod Tomen y Bala, twmpath crwn gydag ochrau serth iddo, yn dyddio o'r ddeuddegfed ganrif. Fe'i cysylltir â llys cwmwd Penllyn a chofnodwyd iddo gael ei goncro yn 1202. Yn 1310 sefydlwyd bwrdeisdref wedi'i chynllunio. Yn 1324 derbyniodd y gymuned fechan ei siarter fwrdeisdref gyntaf a dechreuodd treflan ymledu ar hyd yr hyn sy'n Stryd Fawr heddiw.

Heddiw, cysylltir Y Bala'n bennaf â chynnydd Anghydffurfiaeth yn ystod y ddeunawfed ganrif a gafodd effaith barhaol ar y dref. Yn 1800, cerddodd Mary Jones, geneth 16 oed o Lanfihangel-y-pennant, 25 milltir i'r gorllewin, yr holl ffordd i'r Bala i brynu beibl gan Thomas Charles, sefydlydd ysgol leol a chlerigwr a oedd yn un o arweinwyr y Methodistiaid Calfinaidd. Fe wnaeth ei phenderfyniad i gael beibl gymaint o argraff ar Charles fel yr aeth ati, gyda nifer o gyfeillion dylanwadol, i sefydlu'r Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Yn 1837 sefydlwyd Coleg y Bala i'r Methodistiaid Calfinaidd yno gan Lewis Edwards. Yn ddiweddarach yn y ganrif, sefydlwyd Bodiwan, coleg diwinyddol yr Annibynwyr Cymraeg. Mae prifathro Coleg Annibynnol y Bala o 1855, Michael D. Jones, yn fwyaf adnabyddus fel sefydlydd Y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Pan arhosodd yr ieithydd Almaenig enwog, Hugo Schuchardt, yn Y Bala am bythefnos yn 1875, roedd wrth ei fodd gydag ansawdd llyfrgelloedd y colegau a mwynhaodd ymarfer ei Gymraeg gyda'r trigolion lleol, y myfyrwyr a'r darlithwyr diwinyddiaeth fel ei gilydd. Rhwng sgyrsiau, treuliodd Schuchardt ei amser yn chwilio am yr afanc dirgelaidd a drigai yn ôl y sôn yn nyfroedd Llyn Tegid, a bu'n crwydro o gwmpas y wlad gyfagos hefyd ar drywydd barddoniaeth a mytholeg Gymreig.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch