Datblygiad y diwydiant llechi yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg roddodd fodolaeth i Flaenau Ffestiniog. Cyn hynny, roedd yr ardal fynyddig hon yn denau ei phoblogaeth gyda dim ond ychydig ffermydd yma ac acw ar y llechweddau.
Dechreuwyd cloddio am lechi ar raddfa fechan yn y 1760au, ond dechreuodd y cloddio diwydiannol cyntaf mewn tri lleoliad ar Allt-fawr. Sefydlwyd nifer o wahanol gwmniau ac erbyn y 1840au roedd y llechi ar yr wyneb wedi eu dihysbyddu ac felly dechreuwyd cloddio dan y ddaear. Yn 1878 fe wnaeth perchen yr Allt-fawr, W.E. Oakeley, gyfuno'r chwareli'n un busnes, Chwarel yr Oakeley, y gloddfa lechi dan ddaear fwyaf yn y byd. O hynny ymlaen, ymddangosodd nifer o gloddfeydd a chwareli llechi yn gyflym ar hyd yr ardal, gyda chwareli mawr yn Llechwedd, Maenofferen, a Foty a Bowydd.
Gyda ffyniant mawr y 1860au a'r 1870au, a gynyddodd y galw am ddulliau diogel o gludo'r llechi gorffenedig i'r porthladdoedd dosbarthu yn ogystal â dod â'r gweithlu sylweddol i mewn, fe adeiladwyd ffyrdd newydd i'r chwareli. Cynyddodd tref Blaenau Ffestiniog yn gyflym a daeth yn ganolbwynt i'r pentrefi chwarelyddol llai ar ei chyrion. Gwelir fframwaith grid amlwg i gynllun y dref o hyd, sy'n tystio i ddatblygiad strategol y dref gyda'i sgwariau a'i therasau. Bryd hynny hefyd yr adeiladwyd yr ysgol gyntaf, yr eglwys a chapeli. Dim ond ychydig dan 3,500 o bobl a drigai ym Mlaenau Ffestiniog yn 1850, ond erbyn 1881 roedd y nifer wedi cynyddu i dros 11,000.
Pan ymwelodd yr anturiaethwraig o'r Almaen, Sophie Döhner, â'r dref yn nechrau'r ugeinfed ganrif, cafodd ei synnu'n fawr o weld fod bron bob eitem yno wedi ei gwneud o lechi: tai, toeau, grisiau, ffensys, a hyd yn oed y palmant. Bryd hynny, roedd cynhyrchu llechi ym Mlaenau Ffestiniog yn dechrau dirywio wrth i ddeunyddiau rhatach ddod ar gael mewn mannau eraill. Wrth i'r chwareli llechi gau wedi'r Ail Ryfel Byd, symudodd y chwarelwyr oddi yno'n raddol ac erbyn heddiw mae poblogaeth Blaenau Ffestiniog rywbeth yn debyg i'r hyn oedd yn niwedd y 1850au. Y diwydiant twristiaeth yw'r cyflogwr mwyaf erbyn hyn, wrth i'r hen chwareli a chloddfeydd gael eu hailddatblygu'n amgueddfeydd a safleoedd antur, megis y trampolîn tanddaear mwyaf yn y byd.
Während des Aufenthaltes besieht man sich die kleine Stadt und die riesigen Scheiferbrüche, welche sie umgeben. Der Betrieb ist hier bergwerksartig von innen; aber auch von außen kann man die hinaufführenden Treppen und die Unmassen der Schieferabfälle sehen. Alles ist hier aus Schiefer, die Häuser, die Treppen, die Zäune, die Fußplatten der Straße. Eine Schmalspurbahn, ursprünglich nur für den Transport des Schiefers an den Hafen Port Madoc, mit nur sechzig Zentimeter Spurweite, wurde später auch für den Personenverkehr geöffnet; diese Toy Railway führt immer dicht an der Felswand dreizehn Miles in einer Stunde hinab.
Yn ystod yr arhosiad, bydd yr ymwelydd yn edrych o gwmpas y dref fach a’r chwareli llechi anferth o’i chwmpas. Maent yn gweithredu yn debyg i fwyngloddiau, ond yn barod o’r grisiau awyr agored sy’n arwain i fyny’r llethr gellir gweld pentwr ar ôl pentwr o wastraff llechi. Mae popeth yma wedi ei wneud o lechfaen: tai, grisiau, ffensiau a phalmentydd y strydoedd. Bwriadwyd y rheilffordd fach gul gydag ond 60 centimedr rhwng y cledrau i gludo’r llechi i’r harbwr ym Mhorthmadog, ond fe’i hagorwyd yn ddiweddarach i gludo teithwyr hefyd. Rhed y rheilffordd degan hon 13 milltir i lawr i’r dref honno gan lynu’n agos at wyneb y graig a chyrraedd yno mewn awr.