Mae mynydd Cader Idris ychydig i'r de o afon Mawddwy ger Dolgellau yng Ngwynedd, a gelwir ei gopa, sy'n 893 metr o uchder, yn Penygader. Dywed chwedl werin, a gofnodwyd ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, y byddai unrhyw un a dreuliai noson ar gopa'r mynydd yn deffro yn y bore naill ai'n fardd neu'n wallgof. Treuliodd y Parchedig Evan Evans, sy'n fwy adnabyddus efallai wrth ei enwau barddol, Ieuan Fardd neu Ieuan Brydydd Hir, noson ar y copa fel arbrawf i ddarganfod a oedd yna unrhyw wirionedd yn y chwedl hon. Nid aeth yn wallgof ond ni chafodd lawer o hapusrwydd mewn bywyd ar ôl hynny chwaith.
Ers y cyfnod Rhamantaidd, mae llawer o dwristiaid wedi heidio i fynyddoedd Eryri a chan fod Cader Idris yn hygyrch o Ddolgellau a'r Bermo, mae wedi bod yn gyrchfan boblogaidd ers amser i dripiau diwrnod. Yn niwedd y 1880au disgrifiodd Friedrich Althaus o'r Almaen sut y dringai twristiaid i'r copa o'r Bermo gerllaw gyda help tywysydd lleol a'u fulod. Mae'n parhau'n hynod boblogaidd gyda cherddwyr mynyddoedd a cheir llwybrau o amrywiol anhawsedd ar ei lethrau gogleddol a deheuol.
Tri Greicnyn, die drei Sandkörner.
Am Ufer des Sees unter dem Cadair Idris liegen drei gigantische Steine, welche das Volk tri Greicnyn, die drei Sandkörner nennt. Dem Riesen Idris, welcher seinen Sitz auf Cadair Idris hatte, waren sie nämlich einst beim Herniedersteigen in die Schuh gekommen, und da sie ihn drückten, so zog er dieselben hier aus und warf die Steine dahin, wo sie noch heut liegen. ...
Auf der genannten Bergkuppe [des Cader Idris] wird ein Stein gezeigt, welcher der Sitz des sagenberühmten Riesen, Astrologen und Barden Idris (aus dem 3. oder 4. Jahrhundert) gewesen sein soll. Wer eine Nacht auf diesem Stein schläft, wird mit poetischem Genius begabt. Hier soll vor nicht gar zu langer Zeit der walisische Dichter Evan Evans, von Ruhmbegierde getrieben, eine Nacht zugebracht haben, danach aber wahnsinnig geworden sein.
Tri Greicnyn
Ar lannau’r llyn islaw Cader Idris gwelir tri maen enfawr y bydd y bobl leol yn eu galw’n Tri Greicnyn, y tri gronyn tywod. Roeddent wedi syrthio i mewn i esgidiau’r cawr Idris, a oedd wedi sefydlu ei sedd ar Gader Idris, wrth iddo ddod lawr o’r mynydd, a chan eu bod yn ei boeni, diosgodd ei esgidiau, a gwasgaru’r meini yn y man lle gorweddant hyd heddiw. ...
Ar y copa a nodwyd [sef Cader Idris] mae carreg o ffurf arbennig i’w gweld, a dywedir mai hi oedd sedd y cawr, y sêr ddewin a’r bardd chwedlonol, Idris, a drigai yn ystod y drydedd neu’r bedwaredd ganrif. Bydd y sawl a dreulia noson ar y garreg hon yn cael ei fendithio ag athrylith farddol. Heb fod ymhell yn ôl, dywedir i’r bardd o Gymro Evan Evans, wedi’i gymell gan chwant am enwogrwydd, dreulio un noson yma, ond fe aeth yn wallgof.
Im reichbewaldeten Thal zwischen den Flüßchen Aran und Wnion am Fuße des majestätischen Cader Idris, ist Dolgelly Centralpunkt einer ansehnlichen Reihe von prachtvollen Excursionen, ringsum von zahlreichen Landhäusern und Villen flankirt. Es sind auf der ganzen Route die gleichen Formen, die wir schon kennen, aber in einem so überraschenden Wechsel der Gruppierung, in einer so reichen Fülle von Combinationen und Variationen, als hätte ein Dichtergenius in seinen schöpferischen Stunden sie spielend über- und durch- und widereinander geworfen und aus seinen luftigsten Gebilden Steine gemacht. Die Sonne hatte sich heut in einen dichten Schleiher gehüllt, graue Nebelwolken flogen auf undab, einen Höhenzug um den andern, Gelände um Gelände umflorend; wir stiegen langsam der höhern Bergregion entgegen, und ebenso langsam, Schritt um Schritt, sanken die Nebeldecken auf unsere Schultern herab und entluden sich endlich in schweren, secundenweis fallenden Tropfen. Ich habe selten mit den reich wechselnden Schattierungen der Lichttöne in so klar abzumessenden Zeitmomenten ein grandioses Nebelbild sich verdichtend, rings uns einhüllend, sich zusammenziehen und, wenn wir wieder tiefer stiegen, ebenso gemessen sich lichten und lösen sehen, als wirkten da oben an ihren luftigen Florgewänden geschäftige Feenhände. Es war etwas Mysteriös-Bestrickendes, Geheimnisvolles in dem stillen Thun. Das sind die Stunden, wo ich in Wales das Land der schweren grauen Sagen und der markig erschütternden Lieder und Balladen erkenne. Die alten Helden und Räuber und Heidengötter steifen auf, in bunter Tracht, gewappnet und kampfbereit; die Elfen flüstern, und die Kobolde kichern. Wir sollten diesen Abend noch durch Liederton in jene gewaltigen Zeiten der Heroensage zurückversetzt werden. Kinder des Dorfes, denen wir zu ihrem großen Vergnügen unsere kleinen Münzen zuwarfen, sangen uns dafür vor, was sie an ihren altwalisischen Volksweisen konnten; freilich mußten auch neuere englische Melodien aushelfen, denn auch da scheint der alte Dialekt und was er in volksthümlichen Producten geschaffen allmählich im Verschwinden.
Yn y dyffryn coediog hardd rhwng afonydd Aran a Wnion, wrth droed Cader Idris osgeiddig, mae Dolgellau’n ganolfan ar gyfer gwibdeithiau godidog, gyda maenordai a phlastai di-rif yn y cyffiniau. Ar hyd y ffordd gwelwn ffurfiau a welsom o’r blaen, ond yn syndod o amrywiol eu trefn a chyda’r fath gyfoeth o gyfuniadau ac amrywiaeth â phe byddai athrylith o fardd, yn ystod un o’i byliau creadigol, wedi eu taflu o gwmpas a’u cymysgu mewn ffordd chwareus a thrawsnewid ei weledigaethau awenyddol yn feini. Y diwrnod hwnnw, roedd yr haul yn cuddio y tu ôl i len drom ac ymlwybrai cymylau o niwl i fyny ac i lawr y llethrau gan lapio o gwmpas bryn a dyffryn. Dringasom yn araf tua’r mynydd-dir uwchlaw a’r un mor araf, gan ein dilyn bob cam, suddai’r niwl fel blanced am ein hysgwyddau. Eiliad wrth eiliad roedd y niwl yn cronni mewn dafnau trymion. Anaml fu i mi weld y fath gyfoeth o oleuni o liwiau amrywiol yn ymffurfio’n dirwedd eang o niwl, a hynny mewn amser y gellid ei fesur, gan ein hamgylchynu ar bob ochr, gwasgu o’n cwmpas ac yna, wrth i ni ddod lawr, codi a gwasgaru eto fel petai dwylo prysur rhyw dylwyth teg wedi bod yn gwau eu gynau ysgafn, sidanaidd, yn yr uchelfannau. Roedd rhyw hudoliaeth ddirgel, rhywbeth cyfrinachol, yn y gwaith tawel hwnnw. Dyma’r adegau y byddaf yn adnabod Cymru fel gwlad y chwedlau llwydion, trymion a’r caneuon a’r baledi i oeri’r gwaed. Bydd yr hen arwyr a herwyr a’r duwiau paganaidd yn gorymdeithio o gwmpas mewn gwisgoedd amryliw, yn arfog ac yn barod at y gad; bydd y tylwyth teg yn sibrwd a’r ellyll yn clegar. Ein tynghedfen heno oedd cael ein cludo’n ôl i gyfnodau pwysfawr yr epig arwrol. Er mawr lawenydd iddynt, taflasom ein ceiniogau at blant y pentref ac ymatebodd hwythau drwy ganu i ni eu hen donau gwerin Cymreig. Wrth gwrs, roedd raid i alawon Seisnig gyfrannu hefyd, gan yr ymddengys fod yr hen dafodiaith a’r holl draddodiadau gwerin a greodd yn dechrau diflannu.
Après Tal-y-Llyn, la route, de plus en plus pittoresque, entre dans ce qu’on appelle la passe de Cadair-Idris, qui me rappelle beaucoup celles de Pyrénées. Des collines noires et stériles sont comme suspendues au-dessus de la vallée, et d’énormes blocs de rocher semblent à chaque instant prêts à crouler sur votre tête. Pendant une demi-heure, on longe un précipice, au fond duquel un torrent gronde et forme une ligne argentée jusqu’au petit lac de Tal-y-Llyn, déjà perdu dans le brouillard, qui, en Galles, moins épais qu’aux bords de la Tamise, voile légèrement les objets sans en cacher les contours. Près d’un petit lac appelé Llyn-Tri-Graenen, ou la mare des Trois-Cailloux, gisent quelques blocs de pierre que le géant Idris ôta, dit-on, de ses souliers, parce qu’ils le gênaient pour marcher; ces blocs roulèrent dans la vallée et y restèrent afin de montrer de quelles dimensions devaient être des bottes qui contenaient de tels cailloux. Idris, suivant les Triades, était un poète, un astronome et un philosophe, d’un esprit aussi vaste que son corps, et Cader ou Cadair veut dire siège (cathedra). Ce géant faisait son observatoire favori du sommet de la montagne. Vers le sommet de la passe, on remarque plusieurs points intéressants; l’un s’appelle Llam y Lladron, ou le Saut du Voleur: c’est la roche tarpéienne du pays de Galles; l’autre, la Tête de la reine Victoria. Tout auprès, on peut noter un rocher nommé Pen y Telyn, d’après sa ressemblance avec une harpe.
Ar ôl Tal-y-llyn mae’r ffordd, gan ddod yn fwyfwy hardd, yn arwain i mewn i’r hyn a elwir yn Fwlch Cadair Idris, sy’n fy atgoffa’n fawr o fylchau ym Mynyddoedd y Pyreneau. Mae bryniau duon noeth, sydd fel petaent yn crogi uwchlaw’r dyffryn, a chreigiau fel blociau enfawr, yn ymddangos fel pe gallent unrhyw eiliad ddymchwel ar eich pen. Am hanner awr, rhed y ffordd ar rimyn clogwyn, a gwelir ar ei waelod genllif yn rhuo, gan ffurfio llinell arian hyd at lyn bach Tal-y-llyn. Mae’r llyn eisoes ar goll yn y niwl sydd, yng Nghymru, gan ei fod yn llai trwchus nag ar lannau Tafwys, yn gosod llen ysgafn dros wrthrychau yn hytrach na chuddio eu ffurfiau’n llwyr. Ger llyn bach o’r enw Llyn-Tri-Graenen, neu lyn y tair carreg, gorwedd blociau o gerrig y dywedir i’r cawr Idris eu tynnu, meddent hwy, o’i esgidiau gan eu bod yn ei rwystro rhag cerdded; rholiodd y blociau hynny i lawr y dyffryn ac aros yno fel ag i ddangos pa mor fawr y byddai esgidiau a oedd yn cynnwys y fath gerrig. Roedd Idris, yn ôl y Triawdau, yn fardd, yn seryddwr ac yn athronydd, gyda meddwl cymaint â’i gorff, ac ystyr Cader neu Cadair yw sedd (cathedra). Hoff wylfan y cawr oedd copa’r mynydd hwn. Ger pwynt uchaf y bwlch mae sawl peth i sylwi arnynt; gelwir un yn Llam y Lladron [eglurir yr enw]: dyma Graig Tarpeia Cymru; y llall yw Pen y Frenhines Victoria. Yn union gerllaw mae craig a elwir Pen y Delyn oherwydd ei bod yn edrych yn debyg i delyn.
La série des paysages grandioses s’ouvre de ce côté par le fier sommet du Cadair-Idris (890 mètres), qui commande d’une part le comté de Merioneth, et de l’autre celui de Montgomery. Le district à travers lequel on chemine et à l’horizon duquel on le voit se dresser, sitôt que l’on dépasse à gauche le port précité d’Aberystwyth, est beaucoup plus âpre et accidenté que la région située en deçà, et plus on s’avance, plus les lieux revêtent un caractère solitaire et sauvage. Après avoir été l’asile des derniers défenseurs de la nationalité galloise, cette partie de la presqu’île devint, au XVIe siècle, le quartier général d’une célèbre bande de brigands, les « hommes rouges », qui était la terreur des populations. Chaque soir, dit-on, les fermiers plaçaient des faux dans leurs cheminées pour empêcher les malandrins d’entrer chez eux par cette voie. Il fallut mettre sur pied tout un corps de troupes pour purger la contrée de ces écumeurs, auxquels s’étaient joints, comme il arrive toujours en pareil cas, des soldats débandés à la suite de la dernière guerre, celle des Deux-Roses, et des mécontents de toute sorte. Le Cadair-Idris, ou ‚siège d’Idris‘, tient son nom d’un certain géant Idris, analogue à notre Gargantua, qui habitait jadis son sommet. Le col par lequel on franchit la montagne ressemble à un port pyrénéen. D’énormes blocs de rocher, menaçant de s’écrouler sur la tête du touriste, enserrent des deux côtés le défilé, au fond duquel, dans un précipice, gronde un torrent aux ondes laiteuses.
Mae cyfres o dirweddau mawreddog yn ymagor ar yr ochr hon ger copa balch Cadair Idris (890 metr), sydd â golygfeydd ar un ochr tuag at Sir Feirionnydd ac ar y llall tuag at Sir Drefaldwyn. Mae’r ardal yr ydym yn teithio drwyddi, lle gwelwn y copa’n dod i’r amlwg ar y gorwel (cyn gynted ag y byddwn wedi mynd heibio porthladd Aberystwyth, y cyfeiriwyd ato eisoes, ar y chwith), yn llawer garwach a llai gwastad na’r ardal islaw – po bellaf yr ydym yn teithio, po fwyaf unig a gwyllt y daw cymeriad y lleoedd o’n cwmpas. Wedi bod yn lloches i amddiffynwyr olaf cenedligrwydd Cymru, daeth y rhan hon o’r penrhyn, yn yr unfed ganrif ar bymtheg, yn bencadlys i giwed enwog o ysbeilwyr, y ‘gwylliaid cochion’ a fu’n arswydo’r boblogaeth. Dywedwyd y byddai ffermwyr bob nos yn gosod pladuriau yn eu simneiau i rwystro’r herwyr rhag dod i mewn i’w cartrefi’r ffordd honno. Bu’n rhaid sefydlu uned gyfan o filwyr i waredu’r tir rhag y lladron hyn, y bu, fel sydd yn digwydd bob amser mewn achosion o’r fath, i filwyr a ddadfyddinwyd yn dilyn y rhyfela diwethaf, sef Rhyfeloedd y Rhosynnau, a phobl anfodlon o bob math ymuno â hwy. Enwir Cadair Idris ar ôl cawr o’r enw Idris, yn debyg i’n Gargantua ninnau, a drigai ar y copa amser maith yn ôl. Mae’r bwlch yr eir drwyddo i gyrraedd y mynydd yn debyg i port yn y Pyreneau. Mae talpiau anferth o garreg, sy’n bygwth dymchwel ar ben yr ymwelydd, yn cau o gwmpas dwy ochr y ceunant, ac ar ei waelod, o dan glogwyn, rhua cenllif gyda thonnau llaethog.