BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Capel Curig

Capel Curig - Trosolwg

Mae Capel Curig ar ffordd goets fawr hanesyddol Thomas Telford, yr A5 erbyn hyn. Saif y pentref bychan mewn dyffryn rhwng copa Crimpiau i'r gogledd-ddwyrain a Llynnau Mymbyr i'r de-orllewin. Nid yw gwreiddiau'r pentref yn gwbl glir, ond mae cloddiadau archeolegol wedi dod ar draws brics a sment Rhufeinig, sy'n dystiolaeth efallai fod garsiwn fechan wedi bod yno unwaith ar lannau afon Llugwy. Mae'r enw Capel Curig yn deillio o'r eglwys fechan a sefydlwyd yma yn y chweched ganrif gan Sant Curig, esgob Celtaidd. Heddiw mae'r eglwys hon wedi'i chysegru i'r Santes Julitta.

Yn niwedd y ddeunawfed ganrif, adeiladodd Richard Pennant y briffordd gyntaf rhwng Bangor a Chapel Curig ac, yn 1801, adeiladodd Dafarn Capel Curig, a elwir heddiw yn Plas y Brenin. Flwyddyn yn ddiweddarach, cyrhaeddodd ffordd newydd Thomas Telford, a oedd yn cysylltu Caergybi a Llundain, Gapel Curig, ac o 1808 roedd ffrwd gyson o goetsys mawr yn dod â llawer o dwristiaid i'r dyffryn.

Drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y pentref, gerllaw dau lyn cysylltiedig ac ynghanol mynyddoedd Eryri, yn denu pysgotwyr, arlunwyr a mynyddwyr fel ei gilydd. Yn ystod y 1850au, cyfareddwyd y newyddiadurwr a'r awdur llyfrau taith o'r Almaen, Julius von Rodenberg, gan yr obsesiwn Prydeinig o bysgota am frithyll ac eogiaid ym mhob math o dywydd wrth iddo sylwi ar ei gyd-dwristiaid yn wlyb socian ger Llynnau Mymbyr. At ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dychwelodd yr arlunydd Eidalaidd, Onorato Carlandi, i Gapel Curig dro ar ôl tro i ddarlunio’r tirwedd ac i wylio ei gyd-arlunwyr yn cerdded o gwmpas yr ardal gyda chynfasau mawr ar eu cefnau.

Mae Capel Curig yn gartref i gymuned Gymraeg ei hiaith at ei gilydd ac yn parhau'n gyrchfan arbennig i ddringwyr a chaiacwyr.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch