BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Caerfyrddin

Caerfyrddin - Trosolwg

Mae gwreiddiau tref Caerfyrddin, ar afon Tywi, yn mynd yn ôl i gaer Rufeinig Moridunum, a adeiladwyd yn 75Oc. Mae gwaith cloddio yno wedi datgelu gweddillion adeiladau dinesig ac amffitheatr.

Yn ôl y traddodiad Cymreig, enwyd y dref ar ôl Myrddin, a oedd yn nodedig am ei farddoniaeth broffwydol. Mae'n debygol mai ef sydd tu ôl i ffigwr Myrddin yn y chwedl Arthuraidd. Yn ei lyfr, Brut y Brenhinedd, a ysgrifennwyd yn 1138, honnodd Sieffre o Fynwy, mai yng Nghaerfyrddin y ganwyd Myrddin.

Mae'r Afon Tywi, sy'n llifo heibio'r dref, yn nodedig am ei physgotwyr cwryglau. Cwch bychan o wiail, wedi'u goruchuddio â chynfas, yw'r cwrwgl. Lle i un sydd ynddo a rhaid iddo fod yn ddigon ysgafn i'w gario. Mae disgrifiadau a darluniau o'r cychod bychain hyn yn mynd yn ôl cyn belled â'r ddeuddegfed ganrif.

Yn y cyfnod Rhamantaidd, daeth parhad eu defnydd gan y pysgotwyr lleol i gael ei ystyried yn ryfeddod hanesyddol. Talodd twristiaid fel y newyddiadurwr Almaenaidd, Francis Broemel, deyrnged i fedrusrwydd mawr pysgotwyr cwryglau Caerfyrddin: mae llywio'r cychod bychain, dal pysgod a dychwelyd yn ddiogel i dir sych yn edrych yn llawer haws nag ydyw mewn gwirionedd! Dim ond ychydig o bysgotwyr cwrwgl sy'n gweithredu yng Nghaerfyrddin heddiw ond, wedi blynyddoedd o ymgyrchu caled, fe wnaeth y Comisiwn Ewropeaidd gydnabod eu crefft yn 2017, a chafodd sewin (math o frithyll) a ddelir o gwryglau statws Enw Bwyd Gwarchodedig.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch