Yn wreiddiol, roedd y dref gaerog ganoloesol boblogaidd hon, yn safle abaty Sistersaidd Aberconwy a sefydlwyd yn 1199 gan Lywelyn ab Iorwerth. Yn 1284, wedi iddo goncro Cymru, fe wnaeth Edward I, brenin Lloegr, sefydlu Castell Conwy a'i dref gaerog gysylltiedig a daeth yr abaty'n Eglwys y Santes Fair, gyda'r mynaich yn cael eu symud i safle newydd ym Maenan yn Nyffryn Conwy. Bum canrif yn ddiweddarach, ymwelodd y tywysog Almaenig Herman von Pückler-Muskau â'r eglwys a chafodd gryn ddifyrrwch wrth weld yr arysgrif ar garreg fedd Nicholas Hookes, a nodai ei fod yn unfed plentyn a deugain ei dad a bod ganddo ef ei hun saith ar hugain o blant. Yn ystod teyrnasiad Edward I ymsefydlodd masnachwyr a chrefftwyr Seisnig yn y dref, y rhan fwyaf ohonynt o siroedd Caer a Chaerhirfryn.
Tŷ Aberconwy, sy'n dyddio o'r bymthegfed ganrif, yw'r unig enghraifft sydd ar ôl bellach o dŷ masnachwr a adeiladwyd o fewn muriau'r dref. Yn 1401 llwyddodd dau gefnder i Owain Glyndŵr i gipio'r dref a'r castell a'u dal am bedwar mis dan warchae. Yn ystod y cyfnod hwn fe wnaethant lwyddo i ddinistrio'r pontydd a'r gatiau ar hyd muriau'r dref.
Yn ystod y cyfnod Tuduraidd, ymsefydlodd mwy o deuluoedd Cymreig o fewn muriau'r dref. Yn eu plith roedd y masnachwr cyfoethog Robert Wynn a'i deulu. Yn ystod tri chyfnod adeiladu, rhwng 1576 a 1585, fe adeiladodd ei dŷ tref ysblennydd, Plas Mawr. Er y rhoddwyd y gorau i'w ddefnyddio fel tŷ teulu erbyn diwedd yr ail ganrif ar bymtheg, cadwyd yr adeilad yn gyfan i bob pwrpas. Am gyfnod is-osodwyd Plas Mawr yn nifer o fflatiau, bu hefyd yn ysgol i ferched ac, erbyn y 1880au, roedd yn gartref i'r Academi Gelf Frenhinol. Pan ymwelodd yr anturiaethwraig a'r awdur llyfrau taith, Sophie Dohner, o Hamburg, â'r ystafelloedd arddangos, roedd yn hael ei chanmoliaeth i ansawdd celf Gymreig fodern, yn ogystal ag i'r adeilad hynod hwn a'i hanes maith.
Unvergessliche Stunden verlebte ich später in dem nahen Conway, dessen malerische Schloßruine mit der großen Zugbrücke über den Meeresarm mich bei der ersten Vorbeifahrt schon gelockt hatte. Conway selbst ist ein altertümliches Städtchen, das noch ganz von mittelalterlichen Mauern mit festen Rundtürmen umgeben ist, auch besitzt es einen alten Palast aus der Zeit Elisabeths ..., der noch völlig in alter Weise erhalten ist. Der jetzige Besitzer dieses Plas Ma[w]r (Großer Platz) hat ihn der königl. Cambrischen Akademie der schönen Künste verpachtet, die gerade eine Gemäldeausstellung in den alten Räumen veranstaltet hatte, welche viel Gutes enthielt. Das Interessanteste war aber natürlich der alte Palast selber mit seinen großen Kaminen, kleinen in Blei gefaßten Butzenscheiben, Eichenpaneelen, alten Möbeln und den Stuckornamenten, die überall Wände und Decken überziehen in geometrischen Figuren, zwischen denen die Wappenschilder, Wappentiere und Namenszeichen der Erbauer und Besitzer sich befinden. So hauptsächlich die des Robert Wynne, der 1577 den Palast erbaute, später eines Robert G[w]yder .... Früher waren diese Ornamente bemalt und vergoldet, jetzt sind sie nur weiß getüncht. Auch die Königin Viktoria hat das Haus betreten durch das Eingangstor mit dem lateinischen Spruch: Sustine et abstine, Leide und meide, und Carmen Sylva hat in der schönen Empfangshalle einmal Tee getrunken.
Yn ddiweddarach, treuliais rai oriau bythgofiadwy yng Nghonwy gerllaw, lle roedd adfeilion deniadol adfeilion y castell a’r bont godi ar draws yr aber wedi fy nenu eisoes pan euthum heibio gyntaf. Mae Conwy ei hun yn dref fach, hynafol sydd â muriau canoloesol a thyrau crynion caerog yn parhau i’w hamgylchu. Mae yn y dref hefyd balas o oes Elisabeth ... y mae ei nodweddion hynafol wedi cael eu diogelu’n berffaith. Mae perchennog newydd Plas Mawr [eglurir yr enw] wedi ei osod i Academi Celf Frenhinol Cymru sydd newydd gynnal arddangosfa o ddarluniau yn yr hen ystafelloedd, gan arddangos llawer o weithiau gwych. Y rhan mwyaf diddorol, fodd bynnag, oedd yr hen balas ei hun gyda’i leoedd tân mawrion, ei ffenestri o wydr crwm plwm, paneli o goed derw, hen ddodrefn ac addurniadau stwco’n gorchuddio’r holl furiau a’r nenfydau. Ymysg y siapiau geometrig, gosodwyd arfbeisiau, anifeiliaid herodrol a blaenlythrennau ei adeiladwyr a’i berchnogion blaenorol. Yn amlwg yn eu plith mae’r rhai sy’n perthyn i Robert Wynn, a adeiladodd y palas ym 1577, a rhai’r Robert o Wydir diweddarach .... Yn y dyddiau gynt, byddid yn peintio ac yn euro’r addurniadau hyn, ond bellach ni fyddir ond yn eu gwyngalchu. Bu i hyd yn oed y Frenhines Victoria ymweld â’r tŷ, gan fynd i mewn i’r safle drwy’r prif borth gyda’i arwyddair Lladin ‘Sustine et abstine’ (Dioddefa ac ymatalia), a bu i Carmen Sylva fwynhau ei the bach unwaith yn y cyntedd hardd.
Nach einer Stunde erreichte ich Conway, dessen Lage eine der reizendsten ist. Hier befindet sich das größte jener festen Schlosser, die alle Eduard gebaut und Cromwell zerstört bat. Es ist zugleich das, welches durch Umgebung wie eigne Schönheit, am romantischsten erscheint.
Die Umfangsmauern, obwohl verfallen, stehen noch sämmtlich, mit allen ihren Thürmen, deren man bis 52 zählt. Die ganze neuere Stadt, ein seltsames aber nicht unmalerisches Gemisch von Altem und Neuem, findet Platz im Bezirk dieser Mauern. Seit Kurzem hat man über den Fluß Conway, an dessen Felsenufern das Schloß steht, eine Kettenbrücke, mit Pfeilern in Gestalt gothischer Thürme, gebaut, die das Grandiose und Fremde des Anblicks noch vermehrt. Die Umgegend ist herrlich, bewaldete Berge stehen den Ruinen gegenüber, und noch höhere ragen über sie hervor. Mehrere Landhäuser zieren die Abhänge, unter andern eine allerliebste Villa, die eben zum Verkauf ausgeboten ist, und den verführerischen Namen „Zufriedenheit“ (Contentment) führt. ... Auch in der Stadt befinden sich sehr merkwürdige alte Gebäude, mit wunderbaren, phantastischen Holzhieroglyphen. Das eine dieser Häuser wurde, wie ein Grabstein in der Kirche besagt, von einem gewissen Hookes im 14ten Jahrhundert erbaut, welcher der ein und vierzigste Sohn seines Vaters war, in der Christenheit ein seltnes Beispiel! Ein großes Winkelkind, von einem Storche getragen, und in altem Eichenbolz geschnitzt, war daher auch so oft wie möglich als Zierrath auf den Wänden angebracht. In gastronomischer Hinsicht ist Conway ebenfalls preiswürdig. Es giebt hier einen Fisch, dessen eben so zartes, als festes Fleisch äußerst wohlschmeckend ist. Er heißt Place (Platz) ein recht passender Name, als rief er: Platz für mich, der besser ist als ihr übrigen! Auch wünschte ich ihm öfter den Ehrenplatz an meinem Tische einräumen zu können. – Noch bei guter Zeit verließ ich Conway, über die Kettenbrücke fahrend, der das zerstörte Schloß zum ehrwürdigen Stützpunkte dient. Die ungeheuren Ketten verlieren sich so abentheuerlich in den felsenfesten Thürmen, daß man das Neue kaum bemerken würde, wenn nicht unglücklicherweise gegen über ein Chausseehaus, ebenfalls in der Form einer diminutiven Burg, aufgebaut worden wäre, das sich wie der Harlekin der großen ausnimmt.
Ymhen awr, cyrhaeddais Gonwy, y mae ei safle’n hynod brydferth. Yma y saif y mwyaf o’r cestyll cadarn a adeiladodd Edward ac a ddinistriodd Cromwell. Y castell hwn hefyd yw’r mwyaf nodedig am harddwch deniadol ei leoliad a’i strwythur.
Mae’r muriau allanol, er wedi dadfeilio, yn parhau i sefyll, ynghyd â’u holl dyrau y mae, fe ddywedir, ddeuddeg a deugain ohonynt. Mae’r holl dref, sydd yn gyfuniad rhyfedd, er nid anneniadol, o’r hen a’r newydd, yn sefyll o fewn cylch y muriau hyn. Mae pont gadwyni, gyda phileri ar ffurf tyrau Gothig, wedi’i chodi’n ddiweddar dros Afon Conwy, ar lannau’r hon y saif y castell: mae’r bont yn ychwanegu at rwysg a dieithrwch yr olygfa. Mae’r wlad o gwmpas yn wych: cwyd bryniau coediog gyferbyn â’r adfeilion, gyda mynyddoedd uwch fyth y tu ôl iddynt. Mae nifer helaeth o faenordai’n harddu llethrau’r bryniau; yn eu plith mae fila hynod hardd, sydd ar werth, ac sy’n dwyn yr enw hudolus ‘Bodlondeb’. ...
Mae’r dref hefyd yn cynnwys hen adeiladau hynod iawn, gyda dyfeisiau rhyfedd ac anarferol o bren. Adeiladwyd un o’r tai hyn, fel y tystia carreg fedd yn yr eglwys, yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, gan ddyn o’r enw Hooke, unfed mab a deugain ei dad – enghraifft brin yng Ngwledydd Cred. Cerfiwyd plentyn mawr mewn cadachau, yn cael ei gludo gan giconia, mewn derw, ac mae i’w weld mewn sawl rhan o’r adeilad. Mae Conwy yn fan i’w ganmol o safbwynt gastronomegol. Ceir digonedd o bysgodyn arbennig yno, ac mae cnawd cadarn ond tyner hwnnw’n amheuthun. Fe’i gelwir (yn Saesneg) ‘Place’ [sic], fel y gellid dweud, ‘Lle i mi, sydd fwyaf haeddiannol!’ Ac i’r pysgodyn hwn y byddaf bob amser yn falch o roi safle anrhydeddus wrth fy mwrdd.
Gadewais Gonwy’n gynnar, gan yrru ar draws y bont gadwyn, sy’n gweithredu fel ffwlcrwm hynod bendefigaidd i’r castell adfeiliedig. Mae’r cadwyni anferth yn asio mewn ffordd mor rhamantaidd â’r tyrau cadarn creigiog fel mai prin y sylweddolir pa mor newydd ydynt – pe na fyddai yna yn anffodus dollty ar yr ochr arall, wedi’i adeiladu’n union ar ffurf castell bach, ac yn edrych fel rhyw harlecwin yn dynwared y llall.
La situation de Conway est des plus délicieuse. Là se trouve le plus grand des châteaux bâtis par Édouard et détruits par Cromwell. Ses murs d’enceinte, quoique dégradés, sont encore debout avec toutes leurs tours, qui sont au nombre de trente-deux. La ville neuve tout entière, qui offre un mélange de vieux et de neuf assez bizarre, mais cependant agréable, est contenue dans l’enceinte de ces mêmes murs. Sur la rivière de Conway, au bord de laquelle la ville est assise, on a jeté un pont suspendu dont les piliers ont la forme de tourelles gothiques. On voit encore les restes imposants de l’ancien hall du château avec ses deux énormes cheminées, et des appartements royaux. Dans le cabinet de la reine on admire un prie-Dieu fort bien conservé et richement travaillé, ainsi qu’une forte belle fenêtre cintrée. La ville présente plusieurs anciens édifices très-remarquables, remplis de bizarres sculptures en bois. On apprend d’une pierre tumulaire qui se trouve dans l’église, qu’une de ces maisons a été bâtie dans le quatorzième siècle par le nommé Hookes, qui était le quarante et unième fils de son père, exemple assez rare dans la chrétienté. En conséquence on voit répété dans tous les recoins de la maison un grand enfant au maillot porté par une cigogne, sculpté comme ornement dans la boiserie. Je ne connais pas de pays où la manie du gothique soit poussée si loin. Un cabaret situé sur la route qui conduit à Saint-Asaph était garni de herses, de meurtrières et de créneaux.
Mae safle Conwy’n un hynod braf. Yma y saif y mwyaf o’r cestyll a adeiladodd Edward ac a ddinistriodd Cromwell. Mae ei furiau amgylchynol, er yn dadfeilio, yn parhau i sefyll, ynghyd â’u holl dyrau, o’r rhai y mae deuddeg ar hugain. Mae’r cyfan o’r dref newydd, sydd yn gyfuniad rhyfedd braidd, ond eto’n brydferth, o’r hen a’r newydd, yn sefyll o fewn cylch y muriau hyn. Adeiladwyd pont grog dros Afon Conwy, ar lannau’r hon y saif y dref, gyda phileri ar ffurf tyrau Gothig. Mae olion trawiadol hen neuadd y castell gyda’i ddau le tân anferth a’i hystafelloedd brenhinol i’w gweld hyd heddiw. Yn ystafell ddarllen y Frenhines gallwch edmygu desg weddïo sydd wedi’i chadw’n dda ac wedi’i haddurno’n gyfoethog, yn ogystal â ffenestr fwaog tra phrydferth. Mae’r dref yn cynnwys llawer o hen adeiladau hynod drawiadol, sydd yn llawn o gerfiadau pren rhyfedd. Mae carreg fedd yn yr eglwys yn tystio i un o’r tai hyn gael ei adeiladu yn y bedwaredd ganrif ar ddeg gan ddyn o’r enw Hooke, a oedd yn unfed mab a deugain ei dad – rhywbeth sydd yn eithaf prin yng Ngwledydd Cred. Ac o’r herwydd, canfyddir cerfiadau pren o blentyn mawr mewn cadachau yn cael ei gludo gan giconia ym mhob twll a chornel o’r tŷ. Ni wn am unrhyw wlad lle mae’r chwant am bethau Gothig wedi mynd mor bell. Mae tafarn ar y ffordd i Lanelwy wedi’i haddurno â phorthcwlisiau, cloerdyllau a bylchfuriau.
Quand on est à la pointe de Beaumaris, on aperçoit de l’autre côté de la mer, à l’horizon, les murs crénellés de l’enceinte de Conway. ... Nous voici en wagon, puis dans le tube. Deux minutes après, le bras de mer est ainsi traversé.
En une heure nous sommes à Conway, ville remarquable par son cachet antique, les murailles qui entourent la ville, ses tours et ses vieilles maisons.
On nous avait tant vanté la ville, son port sur la rivière Conway, large d’un demi-mille, que nous avions pris la résolution d’y passer le samedi soir et le dimanche britannique, si difficile à occuper en Angleterre.
Mais le spleen nous prend dès que nous sommes dans Castle hôtel, excellent hôtel cependant, mais privé d’air et de vue, comme toute la ville de Conway. – Les murailles, partout les murailles.
Nous nous raidissons, nous voulons rester.
– Où est, madame l’hôtesse, l’église catholique?
– A Llandudno.
Pan fyddwch ar bwynt Biwmares, gellir o brin weld ar y gorwel, yr ochr arall i’r môr, y muriau caerog sy’n amgylchynu Conwy. ... Yn awr rydym ar y trên, yna yn y tiwb. Dau funud yn ddiweddarach, mae’r darn o fôr wedi’i groesi.
Mewn awr, rydym yng Nghonwy, tref sy’n enwog am ei chymeriad hynafol, y muriau sy’n ei hamgylchynu, ei thyrau a’i hen dai.
Roeddem wedi clywed cymaint am y dref, gyda’i phorthladd ar Afon Conwy, sy’n hanner milltir o led, fel y penderfynasom aros yno nos Sadwrn a thros y Sul Prydeinig, y mae hi mor anodd ei lenwi yn Lloegr.
Ond cawsom ein goddiweddyd gan y pruddglwyf cyn gynted ag y cyraeddasom Westy’r Castell, gwesty rhagorol ond heb awyr na golygfa, yn union fel y gweddill o dref Conwy – muriau, muriau ym mhobman.
Ymwrolasom, roeddem eisiau aros.
– Ble, madam letywraig, mae’r Eglwys Gatholig?
– Yn Llandudno.