BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Pont Grog Conwy

Pont Grog Conwy - Trosolwg

Mae pont grog Thomas Telford, a adeiladwyd rhwng 1822 a 1826 i fynd â ffordd Caer - Caergybi dros afon Conwy, yn un o'r rhai hynaf o'i bath sy'n dal mewn bodolaeth. Mae'r bont yn 99.5m o hyd, gyda dec y ffordd yn crogi ar ddwy set o bedair cadwyn sy'n ymestyn o ddau dŵr castellog. Wrth gynllunio ei bont, talodd Thomas Telford sylw arbennig i Gastell Conwy a muriau'r dref gerllaw fel y byddai'r bont fodern yn ymdoddi â'r bensaernïaeth Normanaidd sydd mor amlwg yno. Mae porthdy un ystafell ceidwad y bont yn efelychu arddull Normanaidd y castell yn yr un modd. Cyn caniatáu i bobl groesi, byddai'r ceidwad hwn yn codi toll arnynt. Codid gwahanol brisiau am groesi ar droed, ar gefn ceffyl neu mewn coets fawr. Yn 1896 gosodwyd dec haearn yn lle'r un pren gwreiddiol, ac yn 1904 ychwanegwyd llwybr i gerddwyr ar ochr ogleddol y bont.

Bu'r bont yn cario cerbydau tan 1958, pan adeiladwyd pont newydd wrth ei hochr, ac ers hynny dim ond cerddwyr sy'n cael mynd dros y bont grog. Daeth dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1965 ac yn 1981 cafodd bwthyn y ceidwad ei restru'n adeilad Gradd I gan Cadw.

Wrth iddo deithio drwy Gymru yn fuan ar ôl i'r bont grog gael ei chwblhau, fe wnaeth ei chynllun cain atgoffa'r awdur Ffrengig, Basil-Joseph Ducos, o rwydi pysgod wedi'u hongian i fyny i sychu yn y gwynt a theimlai ei fod yn cael ei gludo i fyd hud a lledrith.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch