BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Pont ar Fynach a Gwesty Hafod Arms

Pont ar Fynach a Gwesty Hafod Arms - Trosolwg

Daw enw'r pentref bychan hwn gyda'i raeadr trochionog o'r isaf o dair pont dros yr afon Mynach, a adeiladwyd fesul cam un ar ben y llall. Dywed chwedl leol mai'r Diafol a adeiladodd y bont hon mewn un noson, ar ôl taro bargen gyda hen wraig yr oedd ei buwch werthfawr wedi ei dal ar ochr arall yr afon. Yn dâl am gael ei hanifail yn ôl, roedd yn rhaid iddo addo i'r Diafol y rhoddai'r enaid byw cyntaf i groesi'r bont iddo. Fodd bynnag, fe wnaeth y ddynes ei dwyllo drwy daflu torth o fara dros y bont a gadael i'w chi redeg ar ei hôl. Roedd ar y Diafol gymaint o gywilydd fel na ddangosodd ei wyneb wedyn - neu dyna'r stori beth bynnag.

Mae'r bont gyntaf, sy'n fychan ac wedi'i hadeiladu o gerrig, bron yn sicr yn dyddio o'r oesoedd canol, ac efallai iddi gael ei hadeiladu gan fynaich o abaty Sistersaidd Ystrad Fflur gerllaw. Adeiladwyd yr ail bont dros hon yn 1753, ac ychwanegwyd parapetau haearn ati yn 1814. Yn 1901 y codwyd y drydedd bont a'r olaf. Pont o rwyllwaith haearn yw hon ac mae'r ffordd fodern yn mynd drosti. Bob tro roedd y ffordd yn cael ei lledu, ei lefelau a'i gwella, gan adlewyrchu'r gwelliant graddol yn isadeiladd Ceredigion dros y canrifoedd diwethaf.

Yn hanesyddol, roedd y bont ar y briffordd rhwng Llangurig ac Aberystwyth, gan alluogi twristiaid i fedru mynd at y rhaeadrau a'r enwog 'Bowlen y Diafol' yn rhwydd. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif roedd twristiaid a oedd yn chwilio am dirweddau gwyllt Cymru yn heidio yno. O ganlyniad, adeiladodd perchennog y tir o amgylch, Thomas Johnes, luest hela ar fin y ffordd yn 1787. Yn 1839 helaethwyd y lluest gan ei pherchennog newydd, Syr Henry Houghton, a'i hailagor fel Gwesty Hafod Arms, a enwyd ar ôl ystâd gyfagos Hafod Uchdryd.

Ychydig flynyddoedd ar ôl i'r gwesty agor ei ddrysau, arhosodd Carl Carus a Friedrich August II, Brenin Sacsoni, yno am ychydig ynghanol y glaw yn ystod eu taith o Aberhonddu i Aberystwyth. Ar ôl sychu eu dillad a chynhesu eu cyrff blinedig wrth danllwyth o dân yn y parlwr, aethant i lawr i gael golwg ar yr hafn ryfeddol dan y pontydd. Heddiw, does dim rhaid i dwrisitiaid ddibynnu ar goets fawr wlyb a sgyrtiog i'w cludo yno. Yn hytrach, gallant fwynhau taith at y pontydd a'r rhaeadr ar Reilffordd Dyffryn Rheidol o Aberystwyth, a agorodd yn 1902.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch