Sefydlwyd y dref fechan hon yn ystod blynyddoedd concwest Edward I o Gymru yn y 1280au. Y castell carreg, a adeiladwyd yma ar orchymyn Edward I, oedd y gyntaf o'r ceyrydd a sefydlwyd ar hyd arfordir Cymru gyda'r bwriad o wastrodi'r brodorion Cymreig. Yno, yn Awst 1399, yr ymostyngodd Richard II i Henry Bolingbroke, a ddaeth yn fuan wedyn yn frenin Harri'r IV, ar yr amod yr arbedid ei fywyd ar ôl iddo ildio'r orsedd.
Daeth llawer o incwm Y Fflint a'r ardal gyfagos o gloddio am blwm a'i brosesu rhwng diwedd yr oesoedd canol a dechrau'r cyfnod Fictoraidd, pan gaeodd yr olaf o'r gweithfeydd smeltio. Bryd hynny datblygodd canghennau eraill o ddiwydiant trwm, yn cynnwys cloddio am lo, a chynhyrchu papur a chemegau.
Felly, roedd llawer o'r ymwelwyr rhyngwladol yn y dref nid fel pobl ar wyliau ond am resymau proffesiynol. Wrth deithio ar droed drwy siroedd Gogledd Cymru yn 1846, disgrifiwyd Y Fflint gan Franz von Löher fel tref arfordirol a oedd yn gartref i forwyr anturus a hefyd i bobl a enillai fywoliaeth lai peryglus drwy gasglu cocos ar drai.
Dann zeigte sich Flint: die breite Burgruine von der Fluth bespült, die Schiffe und Böte, die alterthümlichen Häuser und Hütten weithin zerstreut, das Holzwerk am Strande, mancherlei Volk dazwischen, das alles, von Ruhe und feuchtem Glanz umflossen, machte einen wunderbaren Eindruck. Die Seele ging mir auf. All die Land und Seeräuber-Romantik hob sich aus ihren dunkeln Gründen hervor: hier die ewige Meeresfluth, am Gestade die Forts, von denen herab die normännischen Herren die Wälschen bezwangen, dort die tiefen Bergschluchten, aus denen die Weißmäntel [ein Pariser Mönchsorden, 1257-1299] hervorbrachen. Weil es eben Ebbe war, ging man über eine Strecke Meeresboden zum Lande, die Seekrebschen schlüpften mir unter den Füßen weg.
Das Castle Inn (Gasthaus an der Burg) war vortrefflich, voll von See- und Handelsleuten, und dennoch höchst sauber und gemächlich eingerichtet für andere Reisende. Zur Nacht reichte man mir ungefordert Schlafmütze und ein feines Nachthemde. Der Kaffee war so gut, wie bei uns an Brunnenorten, was für England viel sagen will, und die mancherlei Fischgerichte wirklich köstlich. Ich unterhielt mich des Abends lange mit einem Schiffscapitän aus Memel, einem Pommer, dessen Eltern und Verwandten immer Schiffer gewesen, und der in diesem seinem Lebensberufe mit seinen Gedanken und Ansichten fest gewachsen war. Sein Schiff, welches Salz geladen hatte, lag am Ufer und hatte Gebrech. Ich lernte von ihm mancherlei über die Städte und Frachten der Ostsee, über den Sund, und die preußische und englische Rhederei.
Am andern Morgen, den 17ten [Juli 1846], besuchte ich sein Schiff, und stöberte dann am Seestrande nach seltsamen Gewächsen und Thieren. Muschelsucher gingen weit vom Ufer mit ihren Körben in der See herum, denn der Strand ist hier sehr flach; es sieht seltsam aus, man meint, die Leute wandelten auf dem Meere.
Yn nesaf, ymddangosodd y Fflint gyda’r llanw’n llepian yn erbyn adfail eang y castell, y llongau a’r cychod, y tai a’r cytiau hynafol yr olwg wedi’u gwasgaru o gwmpas, y gwaith pren ar lan y môr gydag amryw bobl o gwmpas – gwnaeth hyn oll, gyda’r awyrgylch llonydd a llewyrch llaith, argraff wych. Llamodd fy enaid. Codai holl ramant ysbeilwyr a morladron o ddyfnderoedd tywyll y tir; yma llanw tragwyddol yr eigion a chaerau’r glannau o’r rhai y bu i’r arglwyddi Normanaidd ddarostwng y Cymry, acw’r hafnau mynyddig dyfnion o’r rhai y cododd y Clogau Gwynion [urdd Barisaidd o fynachod, 1257-1299]. Gan fod y llanw allan ar y pryd, cerddais dros ran o wely’r môr tua’r lan gyda chrancod môr bychan bach yn sgrialu i ffwrdd o dan fy nhraed.
Roedd Tafarn y Castell yn rhagorol ac yn llawn o forwyr a masnachwyr, ond eto’n parhau’n lân iawn ac wedi’i dodrefnu’n gysurus ar gyfer teithwyr eraill. Heb ofyn am hynny, rhoddwyd i mi gap nos a gŵn nos braf. Roedd y coffi gystal â’r coffi sydd i’w gael yn ein trefi sba ninnau (sydd yn dweud llawer am Loegr) ac roedd y prydau pysgod amrywiol yn wirioneddol flasus. Cefais sgwrs â chapten llong Pomeranaidd o Afon Memel y bu ei rieni a’i berthnasau yn forwyr erioed ac yr oedd ei feddyliau a’i safbwyntiau’n llwyr gysylltiedig â’i broffesiwn. Roedd ei long a’i llwyth o halen yn gorwedd ar y lan oherwydd iddi ddioddef difrod. Dysgais oddi wrtho lawer am drefi a busnes masnachu Môr Llychlyn, ynghylch Culfor Denmarc ac ynglŷn â chwmnïau llongau masnach Prwsia a Lloegr.Fore drannoeth, 17 [Gorffennaf 1846], ymwelais â’i long ac yna chwilio o gwmpas y traeth am blanhigion ac anifeiliaid diddorol. Gan fod y traeth yn wastad iawn yma, roedd y casglwyr pysgod cregyn yn cerdded gyda’u basgedi ger y môr ymhell iawn o’r lan. Roedd yn olygfa ryfedd, fel petaent yn cerdded ar y môr.