BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Caergybi

Caergybi - Trosolwg

Caergybi, ar Ynys Gybi, yw tref fwyaf Ynys Môn ac mae'n borthladd pwysig gyda chyswllt fferi i Iwerddon. Mae'r gornel hon o'r ynys yn frith o weddillion cytiau crynion, siambrau claddu a meini hirion sy'n tystio fod pobl wedi byw yma o leiaf ers y cyfnod Neolithig. Adeiladwyd caer yma gan y Rhufeiniaid yn y bedwaredd ganrif, a oedd, mae'n debygol, yn gysylltiedig â chaer fwy Segontium (ger Caernarfon). Yn y chweched ganrif sefydlodd Sant Cybi eglwys a mynachlog ar safle'r hen gaer Rufeinig. Mae'r enw Caergybi felly'n tystio i wreiddiau Rhufeinig a Christnogol cynnar y dref.

Am ganrifoedd lawer bu Caergybi'n gyswllt pwysig ag Iwerddon, ond gydag adeiladu ffordd A5 Telford, yn cynnwys y bont grog dros y Fenai, a dyfodiad rheilffordd Caer a Chaergybi yno yn 1844, fe dyfodd y dref yn gyflym. O ganlyniad i'r cynnydd yn nhraffig y môr bu'n rhaid datblygu harbwr newydd a allai gynnwys hyd at 1000 o longau. Adeiladwyd morglawdd Caergybi yr un amser i ddiogelu'r llongau yn yr 'Harbwr Newydd' hwn rhag stormydd. Hwn yw morglawdd hiraf Prydain ac mae'n 3km o hyd.

Mae goleudy Ynys Lawd, a saif ar ynys greigiog fechan o dan glogwyni uchel, nid yn unig yn tystio i bwysigrwydd hanesyddol Caergybi ym myd morwriaeth, ond hefyd i'r creigiau peryglus sydd dan wyneb y môr gerllaw. Fe'i hadeiladwyd yn wreiddiol yn 1809 ac mae'n dal i weithredu ac yn agored i ymwelwyr. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd nythfeydd mawr o adar môr ar y creigiau hyn a deuai llawer o dwristiaid i oleudy Ynys Lawd i fwynhau'r olygfa drawiadol o filoedd o wylanod swnllyd yn troelli drwy'r awyr.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch