Tref fechan yn Sir Ddinbych yw Llangollen a daw ei henw o Sant Collen, yr honnir iddo sefydlu eglwys yno ar lannau afon Dyfrdwy yn y chweched ganrif. Mae'r bont garreg ysblennydd o'r unfed ganrif ar bymtheg dros y Ddyfrdwy yno yn un o Saith Rhyfeddod Cymru gynt.
Fe wnaeth ffordd yr A5 drwy Langollen ddatblygu o'r briffordd hanesyddol drwy Ogledd Cymru. Awdurdodwyd y peiriannydd sifil Thomas Telford gan Ddeddf Seneddol yn 1815 i foderneiddio'r ffordd gan mai dyma'r prif lwybr post rhwng Iwerddon, tref borthladd Caergybi ar Ynys Môn, a Llundain. Am y rheswm hwn cadwodd Telford oleddf y ffordd yn hynod isel fel y gallai cerbydau'r post deithio'n gyflym ar ei hyd. Golygodd moderneiddio'r ffordd ei bod yn haws a chyflymach hefyd i ymwelwyr ddod i Langollen. Yn 1828 canmolodd y Tywysog Herman von Pückler-Muskau harddwch Dyffryn Llangollen ac ymwelodd â'r Merched enwog yno, Sara Ponsonby ac Eleanor Butler. Flwyddyn yn ddiweddarach, loes i galon Felix Mendelssohn Bartholdy oedd clywed caneuon Beethoven yn cael eu chwarae'n sâl gan delynor yn ei westy. Prysurodd wedyn i ymweld â'r ardal gyfagos gan fynd i Gastell Dinas Brân ac Abaty Glyn y Groes.
Un o brif atyniadau diwylliannol Llangollen heddiw yw'r Eisteddfod Ryngwladol flynyddol, gŵyl gyfeillgar sy'n dathlu cân a dawns o bedwar ban byd. Mae gwreiddiau'r ŵyl yn mynd yn ôl i 1943 gydag ymwelwyr rhyngwladol yn teithio i'r Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd ym Mangor y flwyddyn honno. Er 1947 mae'r Eisteddfod Ryngwladol chwe niwrnod wedi cael ei chynnal yn Llangollen gan dynnu miloedd o gantorion a dawnswyr o bob rhan o'r byd i'r dref.
Das Bergstädtchen Llangollen gewährt nach einigen Stunden ein köstliches Ruheplätzchen, und ist mit Recht seiner lieblichen Gegend wegen so häufig besucht. Die schönste Aussicht hat man vom Kirchhofe, neben dem Gasthaus, wo ich vor einer halben Stunde, auf ein Grabmonument geklettert, stand, und mich, mit herzlicher Frömmigkeit, glückselig des schönen Anblicks freute. Unter mir blühte ein terrassenförmiges Gärtchen mit Wein, Jelänger-jelieber, Rosen und hundert bunten Blumen, die wie zum Bade bis an den Rand des schäumenden Flusses hinabstiegen; rechts verfolgte mein Blick die emsig murmelnden gekräuselten Wellen zwischen dicht herabhängendem Gebüsch; vor mir erhob sich eine doppelte Waldregion, durch Wiesenflächen mit weidenden Kühen abgetheilt, und über alles hoch oben die kahle conische Spitze eines vielleicht ehemaligen Vulkans, den jetzt die düstern Ruinen der uralten welschen Burg Castel Dinas Bran, zu deutsch: die Krähen-Veste, wie eine Mauerkrone, decken; links zerstreuen sich die steinernen Häuser des Städtchens im Thal, und neben einer malerischen Brücke bildet der Fluß hier einen ansehnlichen Wasserfall; dicht hinter diesen angelehnt aber stellen sich, gleich Riesenwächtern, drei große Bergkolosse majestätisch vor, und verschließen dem Auge alle fernern Geheimnisse der wunderbaren Gegend.
Ychydig filltiroedd ymhellach, mae tref fechan Llangollen yn cynnig lle gwych i orffwyso ac yn haeddu bod yn gyrchfan i lawer.
Mae golygfa brydferth o’r fynwent ger y dafarn: yno dringais ar feddfaen a sefyll am hanner awr gan ymhyfrydu’n ddwys a diolchgar yn y prydferthwch a ledaenai mewn modd mor gyfoethog o’m blaen. Yn union oddi tanaf blodeuai gardd derasau, yn llawn o winwydd, gwyddfid, rhosod a chant o flodau lliwgar, gan dyfu hyd at fin ffrwd ewynnog. Ar yr ochr dde, dilynai fy llygaid y tonnau ewynnog yn eu dwndwr diddiwedd dan y dryslwyn islaw; o fy mlaen, gwelid dau stribed o goedwig gyda dôl rhyngddynt yn llawn o wartheg yn pori; ac uwchlaw’r cyfan, codai copa moel a main mynydd gydag adfeilion hen gastell Cymreig Dinas Brân [eglurir yr enw] ar ei frig. Ar y chwith, mae tai o waith carreg y dref wedi’u gwasgaru ar hyd y dyffryn; mae’r afon yn pistyllio’n rhaeadr gref ger y bont ddeniadol, tra bod tair craig anferth yn codi’n union y tu ôl iddi fel cewri’n ei gwarchod, gan guddio rhyfeddodau pellach yr ardal hudol hon.
Einen ganz andern Charakter, südlicher in seinen Farben, weicher in seien Formen, hat das Thal und die Stadt Llangollen .... Aus dem Felsenpaß der Snowdonia tritt man hier in das lieblichste Idyll; – das üppich bewaldete Pengwern- und Berwyn-Gebirge, in weichem Schwunge von Kuppe zu Kuppe steigend, umschließt das Thal, das wohl mit Recht „das süßeste der Thäler“ und „das glückliche Thal“ genannt wird. Hier ladet Alles zum Frieden, zu genießender Ruhe, zu beschaulicher Einkehr in sich selber ein. Es ist eine wunderbare Harmonie in diesem Gedichte der Natur, eine sanfte Musik der Landschaft – eine frauenhafte Weichheit. Und wie sonderbar, daß es auch nur Frauen sind, an deren Namen und Andenken sich die Traditionen von Llangollen knüpfen! Die eigenthümlichsten dieser Frauengestalten, deren Bilder noch heute zu den Penaten dieses glücklichen Ortes gehören, sind die unter dem Namen der „Damen von Llangollen“ („the ladies of Llangollen“) ihrer Zeit hochgefeierten Lady Eleanor Butler und Miß Ponsonby, die sich um das Jahr 1778 hier ansiedelten und bis tief in unser Jahrhundert hinein in einem reizenden Häuschen, das man noch heute zeigt, ein Leben lebten, welches ganz und ausschließlich der treuesten Freundschaft gewidmet war.
Mae i ddyffryn a thref Llangollen gymeriad cwbl wahanol, yn fwy deheuol eu lliwiau ac yn dynerach eu ffurfiau .... O fwlch creigiog Eryri, byddwch yn dod i mewn yma i wlad delynegol, brydferth. Mae mynyddoedd Pengwern a’r Berwyn, dan eu coedwigoedd trwchus, gan godi’n ystwyth o gopa i gopa, yn amgylchynu’r dyffryn a elwir, yn addas iawn, ‘yr hyfrytaf o’r holl ddyffrynnoedd’ a’r ‘dyffryn dedwydd’. Mae popeth yma’n ennyn tangnefedd ac yn ysgogi gorffwys braf a chymundeb â’r hunan. Mae cynghanedd ryfeddol yn y gerdd hon o waith natur, rhyw gerddoriaeth dyner yn y dirwedd – tynerwch benywaidd. Ac onid yw hi’n rhyfedd mai ond wrth enwau a choffadwriaeth gwragedd y mae Llangollen yn cysylltu ei thraddodiadau! Y mwyaf arbennig o’r cymeriadau benywaidd hyn, y mae eu delweddau’n parhau i berthyn i nodweddion y lle dedwydd hwn, yw’r Foneddiges Eleanor Butler a’r Fones Ponsonby, a gofir dan yr enw ‘Boneddigesau Llangollen’. Ymsefydlasant yma o gwmpas y flwyddyn 1778 a buont fyw ymhell i mewn i’n canrif ninnau mewn bwthyn hyfryd, y gellir ymweld ag ef hyd heddiw, gan gysegru eu bywydau’n gyflawn ac yn llwyr i gyfeillgarwch o’r mwyaf ymroddedig.
Ce village [Llangollen] n’a pas la riche apparence des autres villages de l’Angleterre, mais rien n’égale la propreté de l’intérieur des maisons, et c’est là, parmi les paysans, la véritable preuve de l’aisance. Langollen entouré d’ombrages et de prairies délicieuses, par la fraîcheur de leur verdure, est situé au pied de la montagne des deux amies [les dames de Llangollen], qui forme là une majestueuse pyramide couverte d’arbres et de fleurs.
Nid oes i’r pentref hwn [Llangollen] yr olwg gyfoethog sydd i bentrefi eraill yn Lloegr, ond nid oes dim tebyg i lanweithdra’r tu mewn i’r tai, ac yno, ymysg gwerinwyr, y gwelir gwir brawf cyfoeth. Lleolir Llangollen, wedi’i hamgylchynu gan gysgodion a dolydd hyfryd a chan ireidd-dra eu gwyrddni, wrth droed mynydd y ddwy gyfeilles [Ledis Llangollen], sydd yno’n ffurfio pyramid trawiadol wedi’i orchuddio â choed a blodau.
Llangollen aussi est une station d’été en pleine montagne, au fond d’un étroit et mélancolique ravin où coule la Dee, se dirigeant vers Chester, traversée par un curieux vieux pont fait de trois arches en ogive et une en plein cintre. Cette petite ville de cinq mille âmes, irrégulière et toute noire d’ardoises, a été rendue célèbre par « les dames de Llangollen », Lady Eleanor Butler et miss Ponsonby, qui pour faire les hommes et le mariage, disaient-elles, s’y sont retirées du monde et y ont vécu plus d’un demi-siècle dans une solitude absolue, sans en jamais sortir et y jamais recevoir que des lettres de leur amis de régions civilisées. [Continues to describe the ladies, then moves on to describe house] la petite maison, d’ailleurs fort curieuse avec ses boiseries sculptées en chêne noir, fragments disparates de portes et de bahuts, de bois de lit et de battants d’armoire, de huches de cuisine et de retables d’église, est montrée aux étrangers avec autant de componction que s’il s’agissait d’un pélerinage à la demeure de deux saintes.
Mae Llangollen hefyd yn gyrchfan haf ymhell yn y mynyddoedd ym mhen draw ceunant cul a thywyll ar hyd yr hwn y rhed Afon Dyfrdwy ar ei ffordd i Gaer o dan hen bont ryfedd gyda thri bwa â phwynt ac un sy’n grwn. Gwnaed y dref fach hon o bum mil o eneidiau, yn anniben ac yn ddu gan lechi, yn enwog oherwydd ‘Ledis Llangollen’, sef y Foneddiges Eleanor Butler a’r Fones Ponsonby, a wnaethant, er mwyn osgoi dynion a phriodas, ymneilltuo yno oddi wrth y byd gan fyw yno am ragor na hanner canrif mewn unigrwydd llwyr, heb erioed adael y lle na derbyn mwy na llythyrau gan ffrindiau a oedd yn byw mewn lleoedd gwâr. [D]angosir y tŷ bychan, sy’n ddigon o ryfeddod gyda’i gerfiadau mewn derw du, ei ddarnau amrywiol o ddrysau a chistiau, o fframiau gwely a drysau wardrobau, o gistiau cegin a darnau o allorau eglwysi, i ddieithriaid gyda’r un dwyster a phe byddai’n fater o bererindota i breswylfa dwy santes.