Dechreuwyd y diwydiant llechi ar raddfa fawr yn Chwarel y Penrhyn yn 1770 dan berchenogaeth Richard Pennant, a oedd wedi etifeddu ystâd y Penrhyn drwy ei wraig, Ann Warburton. Dros y ganrif nesaf, datblygodd i fod yn chwarel lechi fwya'r byd, gan gyflogi tua 3,000 o bobl ac roedd ei phrif geudwll bron i filltir o hyd. Gosodwyd rheilffordd o'r chwarel i Borth Penrhyn ar gyrion Bangor i hwyluso cludo'r llechi a oedd yn cael eu hallforio i bedwar ban byd. Oherwydd eu hansawdd uchel ac amrywiaeth eu lliwiau, roedd llechi Cymreig yn cael eu hystyried y deunydd toi gorau a oedd ar gael. Defnyddiwyd y llechfaen hefyd fel deunydd ffensio ac adeiladu a cherrig llorio, ac i wneud dodrefn cadarn a cherrig beddau addurnedig.
Roedd yr amodau gwaith yn y chwareli'n eithriadol beryglus gan fod y chwarelwyr yn hongian ar raffau ar wyneb y graig wrth ei thyllu ac yn defnyddio ffrwydron i ryddhau talpiau mawr o gerrig. Hyd yn oed os na fyddent yn colli aelodau neu hyd yn oed eu bywydau, roedd llawer o'r chwarelwyr yn datblygu clefyd y llwch (silicosis), wrth i ronynnau bychain o lwch o hollti llechi aros yn eu hysgyfaint.
Oherwydd yr amodau gwaith caled a'r cyflogau eithriadol isel a delid i'r chwarelwyr, gwelodd Chwarel y Penrhyn nifer o streiciau at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gan barhau o 1900 tan 1903, y Streic Fawr oedd yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain. Amcangyfrifir iddi effeithio ar bron i chwarter poblogaeth Gogledd Cymru. Wedi tair blynedd o wrthsefyll, daeth adnoddau'r chwarelwyr i ben ac fe'u gorfodwyd i ddychwelyd i'r gwaith ar gyflogau llawer is. Yn sgîl y streic, gwelwyd gostyngiad sylweddol yn y galw am lechi Gogledd Cymru. Ers hynny mae cynhyrchu llechi wedi edwino'n raddol.
Drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd maint enfawr Chwarel y Penrhyn a'i miloedd gweithwyr yn tynnu nifer fawr o dwristiaid yno. Roedd cael mynd am reid mewn wagenni llechi agored yn rhuthro i lawr yr incleiniau ar gyflymder mawr yn dipyn o hwyl a sbri i ymwelwyr Fictoraidd. Erbyn heddiw diflannodd y wagenni agored, ond mae twristiaid yn dal i chwyrlio dros y ceudwll agored yn sownd wrth wifrau'r atyniad diweddaraf.
Ein sehr romantischer Weg brachte mich, erst durch den Park, dann am Saum eines schön bewaldeten Bergstroms hin, in einer Stunde nach dem Schieferbruch, der 6 Meilen vom Schloß im Gebürge liegt. ... Fünf bis sechs hohe Terrassen von großem Umfang steigen an den Bergen empor, und auf ihnen wimmelt alles von Menschen, Maschinen, Prozessionen von hundert aneinander gehängten, schnell auf Eisenbahnen hinrollenden Wagen, Lasten heraufziehenden Krahnen, Wasserleitungen, und so weiter. Ich brauchte ziemlich lange, um das Ganze nur flüchtig zu besehen. Um zu einem entfernteren Theile des Werks zu gelangen, wo man eben die Felsen mit Pulver sprengte, was ich zu sehen wünschte, mußte ich mich auf einem der kleinen Eisenwagen, die zum Transport des Schiefers dienen, durch eine pechschwarze, nur vier Fuß hohe und vierhundert Schritt lange, durch den Felsen gehauene Gallerie auf dem Leibe liegend fahren lassen. Dies geschah vermittelst einer Winde. Es ist eine böchst fatale Empfindung, sich durch diese schmale Schlucht mit tausend unregelmäßigen Zacken, welche man, am Eingange wenigstens, deutlich sieht, bei ägyptischer Finsterniß mit großer Schnelle durchreißen zu lassen, welches Fremde auch gewöhnlich ablehnen. Man kann sich des Gedankens nicht erwehren, daß wenn man, ohngeachtet der beruhigenden Versicherung des Führers, der zuerst voraus fährt, nun dennoch an irgend eine dieser Zacken anstieße, man auch unfehlbar ohne Kopf an der andern Seite ankäme. Nach Passirung dieser Gallerie mußte ich noch auf einem, nur zwei Fuß breiten Wege ohne Geländer, am Abgrunde hinwandern, bis ich durch die zweite niedrige Höhle endlich zu dem gewünschten, in der That schaudervoll prächtigen Ort, gelangte. Hier schien man sich schon in der Unterwelt zu befinden! Die mehrere hundert Fuß hohen, spiegelglatten, abgesprengten Schieferwände ließen vom blauen Himmel kaum so viel noch sehen, um Tag von Dämmerung unterscheiden zu können. Der Boden, auf dem wir standen, war gleichfalls abgesprengter Felsen, und in der Mitte bereits ein tiefer Spalt, von ohngefähr sechs bis acht Fuß Breite, schon weiter herunter gearbeitet. Ueber diese Schlucht amüsirten sich einige Kinder der Steinarbeiter, halsbrechende Sätze zu machen, um ein paar Pence dafür zu verdienen; an den Felsenwänden aber hingen überall Bergleute, gleich schwarzen Vögeln mit ihren langen Eisen pickend, und Schieferblöcke mit Geprassel herunter werfend. Doch jetzt schien das ganze Gebürge zu wanken, lauter Warnungsruf erschallte von mehreren Seiten, die Pulvermine sprang. – Ein großer Felsen löste sich nun von hoch oben langsam und majestätisch ab, stürzte gewaltig in die Tiefe, und während Staub und abspringende Steinstückchen die Luft gleich dickem Rauch verfinsterten, hallte der Donner im wilden Echo rings um uns wieder. Diese, fast täglich an verschiedenen Orten des Steinbruchs nothwendigen, Operationen sind so gefährlich, daß, nach der eignen Versicherung des Direktors, man bei dem ganzen Werk im Durchschnitt jährlich auf 150 Verwundete und 7 bis 8 Todte rechnet! Ein zu diesem Behuf eignes bestimmtes Hospital nimmt die Blessirten auf, und ich selbst begegnete beim Herreiten, ohne es zu wissen, der Leiche eines vorgestern Gebliebenen, car c’est comme une bataille. Die Leute waren so aufgeputzt und mit Bergblumen geschmückt, daß ich die Prozession im Anfang für eine Hochzeit hielt, und fast erschrack, als auf meine Frage, wo der Bräutigam sey, einer der Begleiter schweigend auf den nachfolgenden Sarg wieß. ...
Da wir selbst von dem Foyer nicht zu weit entfernt standen, so benutzte ich den Wink, und machte wieder linksum, durch die höllische Gallerie, um mir die friedlicheren Arbeiten zu besehen. Diese haben vielfaches Interesse. So kann z. B. Papier nicht zierlicher und schneller beschnitten werden, als hier die Schiefertafeln, und kein Kienblock kann leichter und netter spalten, als die Steinblatten, die der Arbeiter mit geringer Mühe durch einen einzigen Schlag des Meißels in Scheiben wie die dünnste Pappe, und von 2 bis 4 Fuß im Durchmesser, zertheilt.
Dilynais ffordd ramantus iawn, a’m harweiniodd drwy’r parc, ac wedyn ar hyd lan nant fynyddig dan goed prydferth, ac ymhen tuag awr, cyrhaeddais y chwarel lechi, sydd yng nghanol y mynyddoedd, tua chwe milltir o’r castell. ... Cwyd pump neu chwech o bonciau uchel un uwchlaw’r llall ar ochr y mynydd; ac yn heidio ar hyd y rhain mae dynion, peiriannau, trenau o gant o wagenni wedi’u cysylltu â’i gilydd ac yn rholio’n gyflym ar hyd y rheilffyrdd haearn, craeniau’n codi llwythi trymion, dyfrgyrsiau ac ati. Cymerodd gryn amser i mi gymryd hyd yn oed cipolwg brysiog ar yr olygfa brysur a chymhleth hon. Er mwyn cyrraedd rhan anghysbell o’r gwaith, lle roeddent ar y pryd yn ffrwydro creigiau â phowdr gwn – proses yr hoffwn yn fawr ei gweld – bu’n rhaid i mi orwedd ar waelod un o’r wagenni bach haearn a ddefnyddir i gludo’r llechi, ac a dynnir gan winsh drwy geudwll a gloddiwyd drwy’r graig solet. Roedd y ceudwll yn bedair troedfedd o uchder, pedwar can cam o hyd, ac yn dywyll fel y fagddu. Mae’n deimlad mwyaf annifyr cael eich llusgo drwy’r dramwyfa gul hon, yn hynod gyflym, ac mewn tywyllwch Eifftaidd, ar ôl cael digon o gyfle i weld wrth y fynedfa’r mil o bigau cwta miniog sydd yn eich amgylchynu. Prin yw’r dieithriaid sy’n gwneud yr arbrawf, er gwaethaf addewidion cysurlon y tywysydd sy’n teithio o’ch blaen. Mae’n amhosibl cael gwared ar y syniad y byddech, petaech yn taro unrhyw un o’r pwyntiau miniog hynny, yn ôl pob tebyg yn dod allan y pen arall heb ben. Ar ôl teithio trwy’r ceudwll hwnnw, bu raid i mi gerdded ar hyd llwybr ar ochr clogwyn, nad oedd ond dwy droedfedd o led a heb unrhyw ganllaw nac amddiffyniad; wedyn cerdded drwy geudwll isel arall i gyrraedd safle arswydus wych y gweithrediadau.
Yr oedd fel byd tanddaearol! Uwchlaw muriau ffrwydredig y llechfaen, a oedd yn llyfn fel drych ac yn rhai cannoedd o droedfeddi o uchder, nid oedd prin ddigon o’r wybren las i’w gweld i mi allu gwahaniaethu rhwng golau canol dydd a’r gwyll. Craig ffrwydredig oedd y ddaear y safem arni hefyd; ymron yn y canol roedd agen ddofn chwech i wyth troedfedd ar ei thraws. Roedd rhai o blant y gweithwyr yn difyrru eu hunain drwy neidio ar draws yr agendor honno, er mwyn ennill ychydig geiniogau. Roedd dynion ynghrog ar yr ochrau unionsyth, gan edrych fel adar duon, yn taro’r graig â’u ceibiau hirion, ac yn taflu i lawr ddarnau mawr o lechfaen, a syrthiai gyda sŵn trystfawr. Ond yn sydyn, roedd fel petai’r holl fynydd yn gwegian, adleisiai rhybuddion uchel o sawl pwynt – ysgwydodd y gloddfa. Ymddatododd darn enfawr o graig yn araf ac yn urddasol oddi uchod, gan gwympo’n drwm, a thra tywyllai llwch gwyn a fflawiau’r awyr fel mwg, rhuai’r daran mewn adleisiau gwylltion. Mae’r gweithrediadau hyn, sy’n gorfod digwydd bron yn ddyddiol mewn rhyw ran neu’i gilydd o’r chwarel, mor beryglus fel, yn ôl yr hyn a ddywedodd y goruchwyliwr ei hun, amcangyfrifir bod ar gyfartaledd gant a hanner o ddynion yn cael eu clwyfo a saith neu wyth yn cael eu lladd mewn blwyddyn. Bydd ysbyty, sydd yn llwyr at ddefnydd y gweithwyr ar y safle hwn, yn derbyn y clwyfedig; ac ar fy ffordd roeddwn wedi cyfarfod, heb fod yn ymwybodol o hynny, gorff un a gwympodd echdoe; ”car c’est comme une bataille”. Roedd y bobl a oedd yn hebrwng y corff wedi’u gwisgo mor drwsiadus ac wedi’u haddurno i’r fath raddau â blodau, fel y cymerais ar y cyntaf mai priodas oedd yr orymdaith, a chefais sioc pan, mewn ateb i’m cwestiwn ynghylch pwy oedd y priodfab, y bu i rywun oedd gerllaw bwyntio heb ddweud dim at yr arch a ddilynai gryn bellter ar ôl y gweddill o’r fintai. ...
Gan nad oeddem ninnau’n ddigon pell i ffwrdd o’r ‘cyntedd’, ufuddheais yn syth i’r arwydd, gan droi i’r chwith drwy’r ceudwll uffernol, i archwilio’r gweithgareddau mwy heddychlon: mae’r rheini’n amrywiol a diddorol iawn. Ni ellir torri papur yn fwy lluniaidd a chyflym nag y torrir llechi yma; ac ni fydd unrhyw floc o bren yn ymrannu mor rhwydd a thaclus na’r blociau llechfaen y bydd y dynion yn eu hollti’n dafelli, tair i bedair troedfedd ar eu traws, mor denau â’r pasbord teneuaf, ag un trawiad o’r ordd.
Die meisten Arbeiter verließen die Steinbrüche, um ihr Mittagsmahl einzunehmen. Wir kamen noch gerade zur rechten Zeit an, um das Sprengen einiger großen Steinmassen mitanzusehen. Dasselbe findet jede Stunde Statt. Eine kleine rothe Fahne wird dann als Warnungszeichen so lange ausgesteckt; nach kurzer Zeit hörten wir krachende Schüsse, die durch ein vielfaches Echo unter den steilen Abhängen verstärkt wurden. An verschiedenen Stellen bemerkt man dann Rauch aufsteigen und große Steinmassen in das Thal hinabrollen. „Hurtig mit Donnergepolter entrollte der tückische Marmor.“ Die Höhe mag circa 300 Fuß betragen. Die unten beschäftigten Arbeiter erscheinen klein wie die Ameisen. Den Schieferbrüchen entlang befinden sich viele Absätze und Wege, auf denen Arbeiter gingen, und andere an Stricke befestigt arbeiteten.
Das Imposanteste sind zwei in der Mitte der Steinbrüche ganz freistehende, kegelförmige Pfeiler von der Höhe von 250 – 300 Fuß.
Wie zwei Säulen erscheinen sie den Augen aus der Ferne; die Waterloosäule in Hannover und die Vendomesäule in Paris würden gegen diese Naturproducte kleinlich in ihren Dimensionen erscheinen. Mit Absicht hat man diese Säulen stehen lassen. Und in der That trägt ihr Anblick sehr dazu bei, das Majestätische der ganzen Scenerie zu erhöhen. Der durch die gesprengten Felsenstücke gewonnene Kessel wird natürlich von Tag zu Tag weiter. Das Schieferlager soll sich aber noch mehrere Meilen in’s Land hineinstrecken, so daß bis jetzt nichts ferner liegt als der Gedanke, es würde einmal eine Zeit kommen, wo es mit der Ausnützung dieses Industriezweigs vorbei sei. An diesen beiden Säulen, da sie nach allen Seiten frei stehen, und natürlich ganz zu umgehen sind, kann man die verschiedenen Lager des Schiefers auf’s Schönste studiren. Er erscheint als grauer, grünlicher und röthlicher Schiefer und ist von einigen weißen Quadern und gelblichen Streifen durchzogen.
Später besuchten wir noch mehrere Arbeiter in ihren Werkstätten, sahen ihnen zu, wie sie die Schiefersteine spalteten und zu schnitten. Wir bewunderten ihre große manuelle Geschicklichkeit. Viele Hunderte von Arbeitern werden in diesen Brüchen beschäftigt.
Reich belohnt durch die imposanten Natureindrücke und die durch diesen blühenden Industriezweig uns gewordenen Anregungen, fuhren wir nach einigen Stunden nach Bangor zurück.
Roedd y rhan fwyaf o’r gweithwyr yn gadael y chwareli i gael eu cinio. Roeddem wedi cyrraedd yn union mewn pryd i weld ffrwydro llwythi enfawr o graig, proses sy’n digwydd pob awr. Trwy gydol yr amser, codir baner goch fach fel rhybudd. Ar ôl ychydig, clywsom ffrwydradau’n taranu, gyda’r adlais o dan y clogwyni serth yn chwyddo’r sŵn. Wedyn, mae mwg yn dechrau codi o sawl lle ac mae llwythi anferthol o greigiau’n cwympo i’r dyffryn. ‘A’r llwyth / Ruthrai eto, yn gyndyn, tuag at y gwastadedd.’ Amcangyfrifir bod uchder y cwymp o oddeutu 300 troedfedd. Ymddengys y gweithwyr prysur yn y gwaelod mor fach â morgrug. Ym mhobman drwy’r chwareli llechi, mae llwybrau ar hyd y rhai y teithia’r gweithwyr a chlogwyni lle gweithia eraill ynghlwm wrth raffau.
Yr olygfa fwyaf trawiadol yw dau biler siâp côn, 250 i 300 troedfedd o uchder, yn sefyll heb ddim i’w cynnal yng nghanol y chwareli.
O’u gweld o bell, maent yn edrych fel colofnau; o gymharu â’r cynhyrchion naturiol hyn, byddai Colofn Waterloo yn Hanover a Cholofn Vendôme ym Mharis yn ymddangos o faint bach iawn. Gadawyd y colofnau hyn i sefyll yn fwriadol. Ac yn wir, mae eu ffurf yn cyfrannu’n helaeth at yr olwg rwysgfawr sydd ar yr holl dirwedd. Gan ddeillio o’r gwaith ffrwydro creigiau, mae’r crochan yn naturiol yn tyfu’n fwy llydan bob dydd, a dywedir bod y dyddodion llechfaen yn ymestyn lawer o filltiroedd ymhellach i’r tir, felly nid oes dim ymhellach o’r meddwl na dychmygu amser pryd y bydd y defnydd ar y gangen hon o ddiwydiant wedi dod i ben. Mae’n bosibl astudio’r amrywiol ddyddodion llechfaen yn brydferth iawn drwy gerdded o gwmpas y ddau biler sy’n sefyll ar eu pen eu hunain, gyda’r dyddodion yn amlwg ar bob ochr iddynt. Mae’r llechfaen ei hun yn ymddangos yn llwyd, yn wyrdd ac yn goch, gyda llawer o giwbiau gwynion a stribedi lliw hufen.
Yn ddiweddarach, fe wnaethom ymweld â rhai gweithwyr yn eu cabanau hollti, eu gwylio’n hollti’r llechi, a rhyfeddu at eu deheurwydd arbennig. Cyflogir cannoedd lawer o weithwyr yn y chwareli hyn.
Wedi’n cyfoethogi’n fawr gan olygfeydd trawiadol natur ac wedi’n symbylu gan y gangen ffyniannus hon o ddiwydiant, dychwelsom i Fangor ar ôl ychydig oriau.
Pour avoir une idée de ce centre immense et qui n’a pas son pareil dans le monde, il faut se figurer une montagne de 600 pieds anglais de hauteur, au faîte de laquelle on a commencé les travaux d’exploitation en taillant des gradins en hémicycle de 40 pieds de hauteur, jusqu’au niveau des eaux. Cette disposition donne au tout l’aspect d’un cirque immense. ...
Lorsque les explosions commencent à se faire entendre, on croirait assister à un siège en règle. On peut voir alors, au milieu des nuages de fumée, rouler pêle-mêle du haut des gradins, des blocs d’ardoise de grosseurs diverses détachés et lancés par la poudre. Quand tout ce bruit cesse, il y a un moment de silence et d’attente, quelque mine peut n’être pas partie, et il ne faut pas s’aventurer. Au bout de quelques minutes, on entend un coup de trompe et on voit des centaines d’hommes sortir de tous les coins où ils s’étaient abrités, ainsi que du petit bâtiment, et en un rien de temps tout est de nouveau en activité pour recommencer deux heures après.
J’ai assisté deux fois à ce spectacle du haut de l’exploitation, et je n’ai jamais rien vu qui puisse lui être comparé.
La propriétaire de Penrhyn a fait construire tout un village pour loger ses ouvriers; j’ai admiré la symétrie, la propreté et le bon goût de ces maisons, leur parfait alignement, la largeur de la rue principale. De loin, l’ensemble de ces constructions, pour ainsi dire neuves, offre l’aspect d’un de ces villages suisses qu’on ne se lasse pas de voir. Près de là se trouve le château rarement habité du maître, au milieu d’un parc qui ne cède rien à nos plus beaux parcs français.
Quand on vu Penrhyn, on se demande si on n’a pas tout vu, et s’il est utile d’aller ailleurs.
I gael syniad ynghylch y ganolfan anferth hon nad oes ei thebyg drwy’r byd, mae’n rhaid i chi ddychmygu mynydd sy’n 600 troedfedd o uchder, gyda phonciau ar hanner cylch sy’n 40 troedfedd o uchder, wedi’u cerfio i mewn iddo yr holl ffordd o’i gopa hyd at lefel y dŵr. Mae’r cynllun hwn yn rhoi i’r cyfan ffurf amffitheatr enfawr. ...
Pan glywir y ffrwydradau, gallech feddwl eich bod yn tystio i warchae gwirioneddol. Wedyn byddwch yn gweld, yng nghanol y cymylau o fwg, yn rholio’n bendramwnwgl o ben uchaf y ponciau, flociau o lechfaen o amrywiol faint a gafodd eu rhyddhau a’u taflu gan y powdr. Pan fydd yr holl sŵn yn gorffen, bydd ennyd o ddistawrwydd a disgwyl: gallai un o’r llenwadau powdr fod wedi methu â ffrwydro, ac ni ellir cymryd unrhyw risg. Ar ôl ychydig funudau, clywir sŵn corn a daw cannoedd o ddynion allan o bob twll a chornel lle buont yn llochesu, yn ogystal ag o’r adeilad bach, ac ymhen dim amser, bydd popeth yn brysur unwaith eto hyd i’r holl beth ddigwydd drachefn ymhen dwyawr.
Rwyf wedi bod yn dyst i’r olygfa hon ddwywaith o ben uchaf y chwarel, a heb weld dim y gellir ei gymharu â hi.
Trefnodd perchennog y Penrhyn adeiladu pentref cyfan i gartrefu ei weithwyr; gwerthfawrogwn gymesuredd, taclusrwydd a chwaeth y tai hyn, sydd wedi’u trefnu’n berffaith o gwmpas prif stryd lydan. O’u gweld o bell mae’r adeiladau hyn, y gellid eu galw’n newydd, yn edrych yn debyg i un o’r pentrefi yna yn y Swistir na fyddwch byth yn blino eu gweld. Gerllaw mae’r castell, y bydd y meistr ond yn anaml yn preswylio ynddo, yn sefyll mewn tiroedd sydd bob modfedd cystal â’n hystadau harddaf yn Ffrainc.
Pan fyddwch wedi gweld y Penrhyn, rydych yn meddwl tybed a ydych bellach wedi gweld y cyfan ac yn amau a oes pwynt mynd i unrhyw le arall.
L’exploitation en colline est très repandue, ainsi qu’on peut s’en rendre compte par l’examen de la disposition des couches sur la coupe générale. C’est par cette méthode que sont exploitées les deux plus grandes ardoisières du North-Wales. La plus ancienne, Penrhyn Slate Quarry, dont l’origine remonte au temps de la reine Elisabeth, est située à 6 kilomètres environ au sud-est de Bangor, à 1,500 mètres au delà du village de Bethesda. ...
Chaque mois, le manager fixe, s’il y a lieu, la valeur du poundage ou indemnité d’avancement propre à chaque chantier, suivant les accidents qu’il a rencontrés (crych, post, sparry vein).
Le roulage des matières utiles ou stériles se fait par chemins de fer desservant chaque niveau et aboutissant: d’un côté, aux ateliers de fente, de l’autre, au hottoir.
Des plans inclinés automoteurs descendent les ardoises fabriquées des différents étages et remontent les wagons vides. Les wagons pleins sont formés en trains et remorqués par locomotives, soit à Port-Penrhyn pour y être embarqués, soit à l’atelier de sciage.
Le service des gradins inférieurs, très voisins du fond de la vallée, a exigé un aménagement spécial. Afin de remonter sans frais les matières au niveau actuel des hottoirs, où sont établis les ateliers de fente et se débarrasser de l’épuisement des eaux, on a creusé au dernier banc un puits relié par un long coupement à une balance hydraulique. Ce coupement sert à la fois à l’écoulement des eaux et à la circulation des wagonnets; une galerie, placée à un niveau inférieur, évacue sur le flanc de la montagne les eaux de la carrière et celle de la balance alimentée par un cours d’eau capté à la surface; ce même cours d’eau sert à actionner les moteurs des ateliers de réparation.
Cafodd y llethr ei hecsploetio i raddau helaeth iawn, fel y gellir gweld o edrych ar safle’r haenau yn y croestoriad. Yn y dull hwn y caiff y ddwy chwarel lechi fwyaf yng Ngogledd Cymru eu cloddio. Mae’r hynaf o’r ddwy, sef Chwarel Lechi’r Penrhyn, sy’n deillio o gyfnod y Frenhines Elisabeth, ryw 6 o gilomedrau i’r de-ddwyrain o Fangor, 1,500 metr y tu hwnt i bentref Bethesda. ...
Bob mis, bydd y rheolwr yn dynodi, os bydd angen, gwerth y pwysdal, neu’r taliad sydd yn berthnasol i bob gweithle yn dibynnu ar ba ffurfiau a ganfu yno (crych, post, gwythïen grisfeiniog).
Cludir y defnydd da a’r ysbwriel ar reilffyrdd sy’n gwasanaethu pob lefel, yn rhedeg rhwng y cabanau hollti ar un pen a’r pentwr ysbwriel ar y llall.
Drwy reilffyrdd ar osgo, bydd y llechi gorffenedig yn disgyn o’r gwahanol lefelau a chaiff wagenni gweigion eu tynnu i fyny’n awtomatig. Ffurfir y wagenni llawn yn drenau a’u tynnu gan locomotifau un ai i Borth Penrhyn i’w llwytho ar long yno neu i’r sied lifio.
Mae gwasanaethu’r ponciau isaf, yn agos iawn at waelod y dyffryn, wedi gorfodi defnyddio trefn benodol iawn. Er mwyn cludo’r deunydd yn ddi-gost hyd at lefel bresennol y pentyrrau ysbwriel, lle mae’r gweithdai hollti wedi’u sefydlu, ac i gael gwared â’r dŵr wedi’i bwmpio [hynny yw, dŵr dros ben], cloddwyd ffynnon yn y lefel olaf, sy’n cysylltu â chlorian ddŵr ar hyd dyfrffos hir. Mae’r ddyfrffos hon yn gweithredu fel sianel ar gyfer y dŵr a hefyd fel lefel tramffordd ar gyfer y wagenni; mae ceudwll, a grëwyd ar lefel is, yn gadael i ddŵr y chwarel a’r glorian lifo ar hyd ochr y mynydd, wedi’i fwydo gan ffrwd o ddŵr wyneb; mae’r un dŵr hwnnw’n gyrru’r olwynion dŵr yn y gweithdai trwsio.