Dechreuodd y tŷ hwn gyda'i gerfwaith coed cyfoethog fel bwthyn cerrig syml, deulawr o'r enw Pen y Maes, a oedd yn tystio i'w leoliad ym mhen draw cae y tu allan i Langollen. Yn 1778 fe wnaeth y Ladis, Sarah Ponsonby (1755-1831) ac Eleanor Butler (1739-1829) rentu'r bwthyn a'i ail-enwi'n Plas Newydd.
Er iddynt ddod yn adnabyddus fel 'Ladis Llangollen', o Iwerddon y deuai Sarah ac Elearnor yn wreiddiol. Ar ôl iddynt gyfarfod gyntaf yn 1768, fe wnaethant ffurfio perthynas glos a gwneud cynlluniau i ddianc oddi wrth eu teuluoedd. Methiant fu eu hymgais gyntaf i ddianc yn y nos yn 1778. Wedi'u gwisgo mewn dillad dynion, yn cario gwn a chyda Mary Carryll, morwyn Eleanor yn gwmni iddynt, cawsant eu stopio yn Waterford. Oherwydd iddynt fynnu na fyddent byth yn rhoi'r gorau i'w ceisiadau i redeg i ffwrdd, fe wnaeth eu teuluoedd ildio o'u hanfodd i'w dymuniadau yn y diwedd. Ar ôl crwydro drwy Ogledd Cymru, ymgartrefodd y Ladis a'u morwyn yn y diwedd ym Mhlas Newydd, ymhell o fywyd trefol ffasiynol.
Prin oedd eu harian eu hunain, a dibynnai'r Ladis i raddau helaeth ar ewyllys da a chefnogaeth cyfeillion. Dros amser fe wnaethant gasglu llyfrgell, gohebu'n helaeth, ac yn raddol adnewyddu a helaethu eu tŷ a'r gerddi o'i amgylch. Trawsnewidiwyd Plas Newydd yn yr arddull Gothig drwy osod bwâu, ffenestri lliw a cherfiadau pren addurniedig, yn ogystal ag addurno eu gardd gyda'r fedyddfan o adfeilion Abaty Glyn y Groes gerllaw.
Er eu bod yn byw ar y cyrion i raddau helaeth, roedd gan y Ladis fywyd cymdeithasol prysur ac roeddent yn uchel eu parch ymysg trigolion Llangollen. Gan fod Llangollen ar un o'r llwybrau twristaidd cynharaf i Gymru, dechreuodd eu henwogrwydd rhyngwladol cynyddol dynnu mwy a mwy o ymwelwyr i'r tŷ. Yn 1809 cafodd y wraig fonheddig a'r ffoadur o Ffrainc, Madame Genlis, ei chadw'n effro'r nos gan y delyn Aeolaidd yr oedd y Ladis wedi'i gosod y tu allan i'r ffenestr ac, yn 1828, treuliodd y Tywysog Almaenig Puckler-Muskau brynhawn gyda hwy, ar ôl clywed gyntaf amdanynt pan oedd yn blentyn ddeng mlynedd ar hugain yn gynt.
Ar ei marwolaeth yn 1809, gadawodd Mary Carryll gae Aberadda i'r Ladis. Roedd Mary wedi prynu'r cae gyda'i chynilion oes a daliodd y Ladis ati i'w ffermio i gael incwm bychan. Fel arwydd o'u parch ati, cododd y Ladis gofeb iddi ym mynwent Llangollen ac fe'u claddwyd hwythau yn yr un bedd yn ddiweddarach.
Ar ôl eu marw, daliodd y tŷ i gael ei ddatblygu gan berchenogion diweddarach. Ychwanegodd y Cadfridog York yr addurn du a gwyn i'r ffasâd, a hefyd ychwanegwyd yr esgyll dwyreiniol a gorllewinol sydd wedi eu dymchwel bellach.
Bei Llangollen bildet die Dee viel schäumende Wirbel und steigt über ein breites Wehr unterhalb der alten Brücke, die mit ihren vier spitzen Bogen zu den sieben Wundern von Wales gezählt wird. Ein sehr hübsches Bild bietet sich von dieser Brücke auf den kleinen Ort in seiner grünen Bergumgebung und die Ruinen des alten Schlosses von Dinas Bran auf hohem Felsenhügel. Zum Schluß suchte ich auf dem Kirchhof noch das Grab der berühmten Ladies of Llangollen auf. Es waren dies zwei irische Fräulein, eine Lady Butler und eine Miß Sarah Ponsonby, die innige Freundschaft geschlossen, sich ein jungfräuliches Leben gelobten und 1778 ihre Heimat heimlich verließen und sich erst nach Denbigh, dann hierher zurückzogen, wo sie noch fünfzig Jahre lebten. Lady Eleanor war siebzehn Jahre älter als Sarah, starb neunzig Jahre alt 1829, ihre Freundin folgte ihr 1831. Sie hatten eine treue Magd Mary Carryl, die mit ihren Ersparnissen das Freigut Plas Newydd für sie gekauft hatte und schon 1809 starb. Alle drei liegen in einem gemeinsamen Grabe und jede der drei Seiten des pyramidenförmigen Denksteins darüber ist mit seiner Inschrift einer von ihnen gewidmet. Ihr Haus, entzückend von außen, mit guten, alten, nur leider schwarz bemalten Holzschnitzereien geschmückt, in einem herrlichen Garten ist jetzt als Eigentum eines Liverpooler Herrn nicht mehr wie früher zu besichtigen ohne seine Erlaubnis ....
Ger Llangollen, mae Afon Dyfrdwy’n creu llawer o chwyrliadau pefriog ac yn llifo uwchlaw cored lydan o dan yr hen bont sydd, gyda’i phedwar bwa pigfain, yn cael ei hystyried yn un o Saith Rhyfeddod Cymru. Mae’r bont yn cynnig golygfa wych o’r dref gyda’r bryniau gwyrddion o’i chwmpas a hen gastell adfeiliedig Dinas Brân ar ben craig uchel. Yn y diwedd, ymwelais yn y fynwent â bedd Boneddigesau enwog Llangollen. Dwy hen ferch o Iwerddon oeddent, sef y Foneddiges Butler a’r Fones Sarah Ponsonby, a oedd wedi meithrin cyfeillgarwch agos, wedi addo i’w gilydd y byddent yn aros yn ddi-briod ac wedi gadael eu mamwlad yn ddirgel ym 1779, i ymsefydlu gyntaf yn Ninbych cyn ymddeol yma, lle buont fwy am hanner can mlynedd arall. Roedd y Foneddiges Eleanor yn ddwy flynedd ar bymtheg hŷn na Sarah a bu farw yn ddeg a phedwar ugain oed ym 1829; fe’i dilynwyd gan ei ffrind ym 1831. Roedd ganddynt forwyn ffyddlon ym Mary Carryl a oedd wedi prynu rhydd-ddaliad Plas Newydd iddynt gyda’i chynilon ac a fuasai farw eisoes ym 1809. Mae’r tair yn rhannu’r un bedd ac mae un o dair ochr y garreg goffa siâp pyramid wedi ei chysegru i bob un ohonynt. Mae eu cartref, sydd wedi ei addurno’n hardd â hen gerfiadau pren wedi’u peintio, yn ddu yn anffodus, a’r ardd hyfryd bellach yn eiddo i ŵr bonheddig o Lerpwl ac ni ellir bellach ymweld â’r safle heb ei ganiatâd yntau ....
Ich stieg aus, und wurde schon an der Treppe von beiden Damen empfangen. Glücklicherweise war ich bereits gehörig auf ihre Sonderbarkeiten vorbereitet, sonst hätte ich schwerlich gute contenance erhalten. Denke Dir also zwei Damen, wovon die älteste, Lady Elleonor, ein kleines rüstiges Mädchen, nun anfängt, ein wenig ihre Jahre zu fühlen, da sie eben 83 alt geworden ist; die andere aber, eine große und imponirende Gestalt, sich noch ganz jugendlich dünkt, da das hübsche Kind erst 74 zählt. Beide trugen ihr, noch recht volles Haar schlicht herabgekämmt und gepudert, einen runden Mannshut, ein Männerhalstuch und Weste, statt der inexpressibles aber einen kurzen jupon, nebst Stiefeln. Das Ganze bedeckte ein Kleid aus blauem Tuch von ganz besonderem Schnitt, die Mitte zwischen einem Männer-Ueberrock und einem weiblichen Reithabit haltend. Ueber dieses trug aber Lady Elleonor noch Erstens: den grand cordon des Ludwigsordens über den Leib, zweitens: denselben Orden um den Hals, drittens: abermals ditto das kleine Kreuz desselben im Knopfloch, et pour comble de gloire eine silberne Lilie von beinahe natürlicher Größe als Stern – alles, wie sie sagte, Geschenke der Bourbon‘schen Familie. So weit war das Ganze in der That höchst lächerlich, aber nun denke Dir auch beide Damen wieder mit der angenehmen aisance, und dem Tone der großen Welt de I’ancien regime, verbindlich und unterhaltend ohne alle Affectation, französisch wenigstens eben so gut sprechend, als irgend eine vornehme Engländerin meiner Bekanntschaft, und dabei von jenem wesentlich höflichen, unbefangenen, und ich möchte sagen, naiv heitern Wesen der guten Gesellschaft damaliger Zeit, das in unserm ernsten, industriellen Jahrhunderte des Geschäftslebens fast ganz zu Grabe gekragen worden zu seyn scheint, und mich bei diesen gutmüthigen Alten wahrhaft rührend ansprach. Auch konnte ich nicht ohne lebhafte Theilnahme die ununterbrochene und doch so ganz natürlich erscheinende zarte Rücksicht bemerken, mit der die Jüngere ihre schon etwas infirmere ältere Freundin behandelte, und jedem ihrer kleinen Bedürfnisse sorgsam zuvor kam. Dergleichen liegt mehr in der Art, wie es gethan wird, in scheinbar unbedeutenden Dingen, entgeht aber dem Gefühlvollen nicht.
... Nicht nur die ehrwürdigen Jungfern, auch ihr Häuschen war voller Interesse, ja mitunter enthielt es wahre Schätze. Keine merkwürdige Person fast, seit dem vergangenen halben Jahrhunderte, die ihnen nicht ein Portrait, oder andere Euriosa und Antiquitäten als Erinnerung zugeschickt hätte. Diese Sammlung, eine wohl garnirte Bibliothek, eine reizende Gegend, ein sorgenfreies, stets gleiches Leben, und innige Freund- und Gemeinschaft unter sich – dies sind alle ihre Lebensgüter; aber nach ihrem kräftigen Alter und ihrem heitern Gemüth zu schließen, müssen sie nicht so übel gewählt haben.
Gadewais y cerbyd a chefais fy nghroesawu wrth y drws gan y ddwy foneddiges. Yn ffodus, roeddwn wedi clywed yn barod yn ail law am eu hynodion; fel arall efallai y byddai wedi bod yn anodd i mi beidio â dangos rhyw fath o syndod. Dychmygwch dwy foneddiges, y mae’r hynaf ohonynt, y Foneddiges Eleanor, gwraig fer, gadarn, sy’n dechrau teimlo ei hoed ychydig, gan ei bod bellach yn dair a phedwar ugain; y llall, sy’n wraig dal a gosgeiddig, yn ystyried ei hun eto’n ifanc, gan nad yw ond pedair ar ddeg a thrigain. Gwisgai’r ddwy eu gwallt, a oedd yn parhau’n drwchus, wedi ei gribo’n syth yn ôl a’i bowdro, het grwn dyn a chrafat a gwasgod dyn, ond yn lle’r dillad na chrybwyllir, pais fer ac esgidiau trymion: roedd y cyfan wedi’u gorchuddio â chot o frethyn glas, o ffurf eithaf rhyfedd – rhyw fath o hanner ffordd rhwng cot dyn a gwisg marchogaeth gwraig. Ar ben hynny, gwisgai’r Foneddiges Eleanor, yn gyntaf, grand cordon Urdd Sant Louis ar draws ei hysgwydd; yn ail, arwydd yr un urdd o gwmpas ei gwddw; yn drydydd, croes fach yr un urdd yn ei thwll botwm, a, ‘pour comble de gloire’, lili aur ymron o faint naturiol, fel seren, – y cyfan, meddai hi, yn rhoddion gan deulu Bourbon. Hyd yma, roedd yr holl argraff rywfaint yn chwerthinllyd. Ond yn awr, rhaid i chi ddychmygu’r ddwy foneddiges â’r ‘usance’ braf yna, ymdeimlad byd yr ‘ancien régime’, yn gwrtais ac yn ddifyr, heb unrhyw fursendod; yn siarad Ffrangeg gystal ag unrhyw Saesnes yr wyf yn ei hadnabod; ac, uwchlaw popeth, yn ymddwyn yn null cwbl gwrtais, di-ymdrech a dirodres o siriol cymdeithas dda yr oes honno, sydd, yn ein hoes ddwys, weithgar, fasnachol ninnau yn ymddangos ei bod yn dadfeilio’n llwyr. Roeddwn wir yn teimlo rhyw bleser trist wrth weld y gymdeithas honno ym mywydau’r ddwy hen wraig glên hyn, sydd ymhlith ei chynrychiolwyr olaf ar dir y byw; ac ni allwn, heb gydymdeimlo’n gynnes, sylwi ar y sylw di-dor, naturiol a charedig a dalai’r wraig iau i’w chyfaill a oedd rywfaint yn fwy bregus, gan ragweld ei holl anghenion. Mae swyn y fath weithredoedd i’w weld yn bennaf yn y ffordd y’u gwneir, – mewn pethau sydd yn ymddangos yn fach a dibwys, ond nad yw’r galon sy’n agored i’r fath bethau byth yn eu colli.
... Nid yn unig yr oedd y boneddigesau uchel eu parch yn hynod ddiddorol, ond felly hefyd eu cartref; yn wir, roedd ynddo nifer o drysorau hynod. Prin bod yna unrhyw berson o bwys o’r hanner canrif diwethaf nad yw wedi anfon llun neu ryw fath o gywreinbeth neu grair i gofio atynt. Casgliad o’r pethau hynny, llyfrgell gyfoethog, safle hyfryd, bywyd tawel, digyffro a’r cyfeillgarwch a’r uniad perffaith – dyma fu eu heiddo, ac os gallwn farnu o weld eu cadernid yn eu henaint a’u tymer siriol, ni wnaethant ddewis gwael.
Une très-belle bibliothèque, composée d’excellens libres anglois, françois et italiens, étoit pour elles une source inépuisable d’amusements et d’occupations variées et solides car la lecture n’est véritablement profitable que l’orsqu’on a le temps de relire. L’intérieur de la maison étoit ravissant par la juste proportion et la distribution des pièces, l‘élégance des ornemens et des meubles et la vue admirable que l’on découvre de toutes les fenêtres. Le salon étoit décoré de paysages charmans, dessinés et peints d’après nature par miss Ponsonby. Lady Élénore étoit très-bonne musicienne; l’une et l’autre avoient rempli leur habitation solitaire de broderies d’un travail merveilleux ....
Le lendemain matin tout ce mystère fut éclairci. En ouvrant ma fenêtre je trouvai sur le balcon, une espèce d’instrument qui m’étoit inconnu, que l’on appelle en Angleterre une harpe éolienne; instrument inventé pour rendre harmonieux le vent, qui, lorsqu’il frappe ces instrumens produit en effet des sons ravissans. Il est assez naturel qu’un tel instrument ait été inventé dans une île orageuse au sein des tempêtes dont il adoucit la tristesse ....
Je me promenai toute la matinée avec les deux amies. Rien n’égale la beauté des sites qui environnent, et que domine la montagne, dont elles occupoient le sommet. Il sembloit, à cette élévation, qu’elles étoient les souveraines de toute cette belle contrée. Au nord elles avoient la vue du village et d’une forêt; au midi une longue rivière baigne le pied de la montagne, et fertilise l’immenses prairies, au delà des collines chargées d’arbres et de rochers./ Au milieu de ce séjour sauvage, s’élève une tour majestueuse qui paroît être le phare de ce rivage et qui n’est qu’un débris d’un château magnifique, habité jadis par le prince souverain du pays. Toute cette côte solitaire étoit jadis florissante et peuplée; elle étoit alors livrée à la seule nature, on n’y voyoit plus que des troupeaux de chèvres et quelques pâtre dispersés, assis sur les rochers, et jouant de la harpe irlandoise. En face de ce tableau agreste et mélancolique les deux amies avoient fait poser un siège de verdure, ombragé par deux peupliers; et c’étoit la, me dirent-elles, que souvent en été elles venoient relire les poésies d’Ossian.
Roedd llyfrgell brydferth iawn, yn cynnwys llyfrau rhagorol yn Saesneg, Ffrangeg ac Eidaleg, iddynt hwy yn ffynhonnell ddihysbydd o ddifyrrwch a mwynhad amrywiol a dwys, gan nad yw darllen wir yn broffidiol onid oes gennych yr amser i ailddarllen. Roedd y tu mewn i’r tŷ yn brydferth oherwydd mesuriadau perffaith a lleoliad yr ystafelloedd, ceinder yr addurniadau a’r dodrefn a’r olygfa ragorol sydd i’w darganfod o bob ffenestr. Roedd yr ystafell groeso wedi’i haddurno â thirluniau swynol, wedi eu llunio a’u peintio o natur gan y Fones Ponsonby. Roedd y Foneddiges Eleanor yn gerddor da iawn; roedd y ddwy wedi llenwi eu cartref unig â brodwaith hardd ei wead ....
Fore drannoeth, eglurwyd ... ddirgelwch. Wrth agor fy ffenestr, canfûm, ar y balconi, math o offeryn cerdd na wyddwn beth oedd, ac a elwir yn Lloegr yn delyn awelon; offeryn a ddyfeisiwyd i wneud y gwynt yn gerddor, fel pan fydd y gwynt yn chwythu arnynt bydd yr offerynnau hyn yn cynhyrchu seiniau prydferth. Mae’n ddigon naturiol bod y fath offeryn wedi’i ddyfeisio ar ynys ddrycinog yng nghanol stormydd y mae’n lleddfu eu tristwch ....
Cerddais drwy’r bore gyda’r ddwy gyfeilles. Nid oes dim mor brydferth â’r safleoedd sydd o’u cwmpas ac y mae’r mynydd maent yn byw ar ei gopa yn tra-arglwyddiaethu arnynt. Ymddangosai, o’r uchder hwn, mai hwy oedd breninesau’r cyfan o’r wlad hardd hon. I’r gogledd, roedd ganddynt olygfa o’r pentref a choedwig; i’r de, mae afon hir yn trochi troed y mynydd ac yn gwrteithio dolydd mawrion, y tu hwnt i’r bryniau a orchuddir â choed a chreigiau. Yng nghanol y lle gwyllt hwn, cwyd tŵr mawreddog, sy’n edrych fel goleudy ar yr arfordir, ond sydd mewn difrif yn olion castell gwych lle trigai tywysog y wlad ymhell yn ôl. Roedd yr holl lannau unig hyn unwaith yn ffyniannus a llawn o bobl; bellach, natur sy’n teyrnasu a’r cwbl sydd i’w weld yw heidiau o eifr ac ambell fugail o gwmpas y lle, yn eistedd ar greigiau, yn canu telynau Gwyddelig. Yn wynebu’r olygfa wledig a thrist hon roedd y ddwy gyfeilles wedi gosod sedd werdd o dan gysgod dwy goeden poplys; ac yno, meddent hwy wrthyf fi, y byddent yn dod yn aml yn yr haf i ailddarllen cerddi Osian.
Arrivés à la petite ville de Llangollen, deux milles au-delà, nous avons appris que l’hermitage fameux des deux amies, lady Eleanor Butler et miss Ponsonby était dans le voisinage, et après nous être informés de l’étiquette, nopus avong dépêché un billet pour demander la permission de voir le jardin (grounds), nous annonçant, dans la vue d’appuyer nos prétentions à cette faveur, comme des voyageurs américains. Les belles dames se sont montrées cruelles; il ne leur convenait pas de laisser voir leur habitation ce jour-là. La maîtresse de l’auberge, qui probablement nous avait entendu parler français, a remarqué que ces dames aimaient la langue française, et que si elles eussent su que nous la parlions, nous aurions été admis. L’avis était venu trop tard. Après dîner, nous nous sommes fait conduire près de l’hermitage, et nous en avons fait le tour. La maison, qui est sur un chemin public, n’a rien de remarquable: elle est en retard du bon goût des cottages, si universel aujourd’hui en Angleterre; et quant au jardin, qui est fort petit et que l’on voit presque en entier d’une hauteur qui le domine, nous n’avons pu rien y découvrir qui nous fit regretter de n’y avoir pas été admis. Un de nos prédécesseurs dans la carrière des voyages, et je crois que c’est madame de Genlis, en donne une description enchanteressse; mais pour nous les raisins nétaient pas mûrs. Le lecteur français désirera savoir quelque chose de ces dames. Il faut savoir que riches, belles et femmes de qualité, il leur vint, il y a un demi-siècle, l’idée romanesque de consacrer le reste de leur vie à la pure amitié; loin du monde et de ses vanités, de ses peines et de ses plaisirs. Se dérobant à leurs familles, elles s’enfuirent de l’Irlande, leur patrie, avec une fidèle gouvernante, qu’elles ont perdue tout récemment, et vinrent s’ensevelir dans la profonde solitude de cette vallée du pays de Galles. On dit qu’une inscription dans le jardin dévoile ainsi le secret de leur cœur:
Consacrer dans l’obscurité
Ses loisire à l’étude, à l’amitié sa vie,
Voilà des jours dignes d’envie.
Être chéri vaut mieux qu‘être vanté.
Ar ôl cyrraedd Llangollen, ddwy filltir ymhellach, deallasom fod encilfa enwog dwy gyfeilles, sef y Foneddiges E. Butler a Miss Ponsonby, yn y cyffiniau; ac ar ôl canfod beth oedd moesau’r lle, anfonasom nodyn yn gofyn am ganiatâd i weld y gerddi, gan nodi, yn y gobaith o gryfhau’n cais, mai teithwyr o America oeddem. Bu’r boneddigesau hardd, fodd bynnag, yn greulon, gan ateb nad oedd yn gyfleus caniatáu gweld eu cartref y diwrnod hwnnw. Dywedodd gwraig y dafarn, a oedd, mae’n debyg, wedi’n clywed yn siarad Ffrangeg, fod y boneddigesau yn hoff o’r Ffrangeg, a phe byddent wedi cael gwybod ein bod yn ei siarad, y byddem wedi ein derbyn yno. Daeth y cyngor yn rhy hwyr. Ar ôl bwyta, fodd bynnag, cawsom ein gyrru i gyffiniau’r feudwyfa a chawsom edrych o gwmpas. Mae’r tŷ ar ffordd gyhoeddus ac nid oes dim yn arbennig amdano; mae’n ar ei hôl hi o safbwynt chwaeth dda bythynnod, sydd mor gyffredin yn Lloegr heddiw. Mae’r ardd yn fach iawn ac, o’i gweld yn ei chyfanrwydd o fryn uwchlaw iddi, ni allem weld dim i beri i ni fod yn edifar na chawsom fynd iddi. Mae ymwelydd blaenorol (Madame de Genlis yr wyf yn credu) yn rhoi disgrifiad swynol ohono, ond i ninnau, roedd y grawnwin yn rhai surion. Efallai bydd y darllenydd o Ffrainc yn dymuno dysgu rhywbeth am y boneddigesau hyn. A hwythau’n gefnog, yn hardd, ac yn wragedd o gefndir da, cawsant y syniad rhamantus, hanner canrif yn ôl, o gysegru gweddill eu hoes i gyfeillgarwch pur, ymhell oddi wrth y byd a’i wagedd, ei bleserau a’i loes. Rhedasant i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd a dianc o Iwerddon, ynghyd â morwyn ffyddlon, a fu farw’n ddiweddar, ac ymguddiasant yn y dyffryn hwn yng Nghymru. Dywedir bod arysgrif yn yr ardd yn datgelu cyfrinach eu calonnau:
Consacrer dans l’obscurité
Ses loisire à l’étude, à l’amitié sa vie,
Voilà des jours dignes d’envie.
Être chéri vaut mieux qu‘être vanté.
[Cyfieithiad: Cysegru, i ffwrdd o’r goleuni,
Dy hamdden i astudio, a’th fywyd i gyfeillgarwch,
Dyma ddyddiau i eiddigeddu wrthynt.
Gwell yw cariad na chanmoliaeth.]