Sefydlwyd abaty Sistersaidd helaeth Glyn y Groes yn 1201 gan Madog ap Gruffudd Maelor, tywysog Powys Fadog, ac mae 2km i'r gogledd o dref Llangollen. Bu tân yn yr abaty yn 1236 ac mae arysgrif yn uchel uwchben y ffenestr orllewinol yn nodi i'r rhan hon o'r adeilad gael ei chwblhau gan yr Abad Adda (1330-44). Yn ystod ail hanner y bymthegfed ganrif, daeth Glyn y Groes i fri ar sail ei hysgolheictod, ei nawdd i'r beirdd a'i chasgliad o lawysgrifau llenyddol Cymraeg.
Fodd bynnag, erbyn cyfnod diddymu'r mynachlogydd ym Mhrydain, yn ystod teyrnasiad Harri'r VIII yn 1537, roedd yr abaty eisoes yn edwino. Wedi'r diddymu, aeth yr ystâd gyfan i feddiant Syr William Pickering a chafodd ef orchymyn i dynnu'r plwm gwerthfawr oddi ar doeau'r adeiladau a'i roi i'r Goron. Dirywiodd Glyn y Groes yn gyflym yn dilyn y difrod hwn i'r to a chario cerrig oddi yno ar raddfa fawr.
Erbyn dechrau'r ddeunawfed ganrif roedd Glyn y Groes wedi newid perchenogaeth sawl gwaith cyn iddi ddod i feddiant ystâd Coed Helen. Er gwaethaf cyflwr adfeiliedig yr adeiladau, trowyd y cabidyldy yn dŷ fferm yn 1800 a defnyddiwyd yr hen ffreutur fel ysgubor. Cwynai llawer o dwristiaid a ddeuai i weld yr adfeilion trawiadol yn y cyfnod Rhamantaidd bod rhaid iddynt ddringo dros domennydd o dail!
Dechreuwyd cloddiadau archaeolegol yng Nglyn y Groes yn y 1850au ac mae'r safle'n cael ei warchod gan Cadw yn awr.
Die Fenster des Chores stehn noch hoch und schön da, von außen umwuchert sie die dichteste Fülle des Efeus. Im rechten Seitenschiff – man kann nemlich die einzelnen Theile der Kirche aus ihren Bruchstücken entziffern – sieht man noch die Kreuzbögen mit gar zierlichen Rosetten. Kein Beter kommt mehr in diese Kirche. Aber uralte Bäume im Efeukleide neigen ihre Häupter vor jedem Winde dessen, dem dieses Haus erbaut war und der es zerstört hat. Hinter den Mauern liegt ein freundliches Gärtchen mit Teich und Wasserfall unter Erlengebüsch; in einem weißen Häuschen, ganz mit Immergrün bekleidet, lebt Miss Lloyd ein stilles, beschauliches Leben. Sie führt die Fremden durch die Ruinen der Abtei. Ich habe mich gern mit ihr unterhalten und viel von ihr gelernt. Denn sie kannte die Sprache, die Poesie und Geschichte ihres Landes ganz genau. Valle Crucis Abbey (Abtei vom Kreuzthal), errichtet um 1200 und zerstört 1535, in der Zeit wo die Sitze des Katholicismus vor dem Feuereifer der Reformation zusammenstürzten, heißt so nach einem rohen Grabkreuz „der Pfeiler Elisegs“, welches auf einem alten Hügel in einer nicht fernen Haide Llwyn-y-Groes dem Andenken Eliseg’s, dessen Sohn Brochwel Ysgythrog in den Grenzkriegen gegen die Sachsen 607 bei Chester fiel, von seinem Urenkel Cyngen ab Cadell errichtet worden ist. Dieser Pfeiler Elisegs ist, wie man annimmt, das älteste Steinkreuz mit eingehauener Inschrift in ganz Britannien.
Mae ffenestri’r côr yn parhau i sefyll yn uchel a hardd ac mae eiddew hynod drwchus wedi tyfu drostynt. Yn yr ystlys dde – gellir dirnad gwahanol rannau’r eglwys o’i hadfeilion – mae’r croes-fwâu gyda’u rhosglymau cain i’w gweld o hyd. Ni ddaw neb i addoli yn yr eglwys hon bellach. Ond mae hen, hen goed yn eu gwisgoedd o eiddew yn plygu eu pennau gyda phob anadliad o eiddo’r hwn yr adeiladwyd y tŷ hwn ar ei gyfer ac a’i dinistriodd. Tu ôl i’r muriau hyn mae gardd fach groesawgar a rhaeadr o dan brysgwydd gwern. Mewn tŷ bach gwyn wedi’i orchuddio’n llwyr gan ddail bytholwyrdd, mae Mrs Lloyd yn byw bywyd tawel a myfyrgar. Hi sy’n tywys ymwelwyr drwy adfeilion yr abaty. Mwynheais sgwrsio â hi a dysgais lawer ganddi gan ei bod yn llwyr gyfarwydd â iaith, barddoniaeth a hanes ei gwlad. Enwir Abaty Valle Crucis (Abaty Glyn y Groes), a sefydlwyd oddeutu 1200 ac a ddinistriwyd ym 1535, yr adeg pan ddymchwelodd canolfannau Catholigrwydd o dan sêl danllyd y Diwygiad Protestannaidd, ar ôl croes feddfaen arw, ‘Piler Eliseg’. Fe’i codwyd ar dwmpath hynafol heb fod ymhell ar waun Llwyn-y-groes i goffáu Eliseg, y lladdwyd ei fab Brochwel Ysgythrog ger Caer yn rhyfeloedd y ffin yn erbyn y Sacsoniaid yn 607, gan ei or-ŵyr Cyngen ab Cadell. Tybir mai Piler Eliseg yw’r groes hynaf ym Mhrydain sydd ag arysgrif arni.
Der Eintritt in das Thal selbst wird durch die Umgebungen desselben sehr reizend: hohe Berge, mit grünem Rasen überzogen, schließen es zu beiden Seiten ein, und Bäume aller Art stehen in malerischen Gruppen innerhalb desselben. Zwischen ihnen halb versteckt liegt die Valle-Crucis-Abtei, ein Gebäude, das durch die unzähligen Darstellungen desselben von den geschicktesten englischen Landschaftsmalern (seit Pennants Zeiten, der zuerst darauf aufmerksam machte) in England als eine der malerischsten Trümmer bekannt geworden ist. Am besten erhalten ist das Schiff der Kirche, mit den sich gegenüberstehenden großen Ost- und West-Fenstern. Das letztere besteht aus zwei Abtheilungen über einander, von denen die untere ein, die obere aber drei, durch dünne Pfeiler von einander abgesonderte, Fenster hat. Die Mauer selbst ist von kleineren Backsteinen gebaut, die Fenstereinfassungen aber von Sandstein, so wie auch die inneren Verzierungen, welche bei den oberen Fenstern noch vollständig erhalten sind. Das Ostfenster ist dem westlichen in Hinsicht der architektonischen Anordnung gleich, (mit der Ausnahme, daß unten drei Fenster und oben zwei kleinere sind) aber weniger gut erhalten, indem die inneren Fensterverzierungen sämmtlich fehlen. Die Ueberbleibsel der Bogen im Innern des Schiffs zeigen, daß dieß in dem rohesten sächsischen Stile erbaut war: die Pfeiler sind sehr stark und die Capitäler ganz in der Art ausgefüllt, wie man sie an den Bauwerken der früheren sächsischen Zeit sieht. Eine Thür, welche in die Abtei selbst führte, hat einen vollkommen runden, nach sächsischer Art verzierten Bogen. – Eine ganz eigenthümliche malerische Ansicht erhalten die Trümmer durch die hohen Eschen, welche sowohl im Schiffe der Kirche selbst, als außerhalb derselben, nahe bei dem Westfenster emporgewachsen sind, und die Trümmer in der Entfernung zwischen sich hindurchblicken lassen. Eben so nachtheilig, als diese Umgebungen vortheilhaft sind, ist der Gebrauch, den man von diesen herrlichen Ueberresten gemacht hat. Man hat nämlich die eigentliche Abtei, welche sich von dem Ostfenster nach Süden ausdehnt, in ein Wirthschaftsgebäude verwandelt, und Pferde- und Kuhställe an dieselbe herangebaut, so daß das Ganze jetzt einen viereckten, von Gebäuden umgebenen, Hof bildet, dessen nördlichen Flügel die Kirche macht, und über den man gehen muß, um von der Seite über Düngerhaufen hinweg in dieselbe zu gelangen.
Mae’r fynedfa i’r dyffryn ei hun yn hyfryd iawn oherwydd y golygfeydd sydd o gwmpas. Mae mynyddoedd uchel, wedi eu gorchuddio mewn gwyrddni, yn eu hamgylchynu ar y ddwy ochr, ac o fewn y dyffryn mae coed o bob math wedi eu gwasgaru yn y grwpiau mwyaf deniadol. Wedi ei hanner guddio ymysg y coed hynny fe welir abaty Glyn y Groes, adeilad sydd, oherwydd ei ddarlunio’n ddiddiwedd gan yr arlunwyr tirwedd Seisnig gorau ers dyddiau Pennant (a dynnodd sylw’r cyhoedd tuag ato gyntaf), wedi dod yn enwog fel un o’r adfeilion mwyaf deniadol yn Lloegr. Corff yr eglwys, gyda’r ffenestri dwyreiniol a gorllewinol gyferbyn â’i gilydd, yw’r rhan sydd fwyaf cyflawn. Mae ffenestr y gorllewin yn cynnwys dwy ran, un uwch y llall, gyda’r rhan isaf ag un ffenestr a’r rhan arall â thair ffenestr ar wahân, wedi’u rhannu un oddi wrth y llall gan bileri main. Mae’r mur ei hun wedi’i wneud o friciau bach, ond mae fframiau’r ffenestri’n dywodfaen, ac felly hefyd yr addurniadau mewnol, sydd yn parhau mewn cyflwr da yn y ffenestri uchaf. Mae ffenestr y dwyrain yn debyg i’r un orllewinol o safbwynt pensaernïaeth, heblaw ei bod yn dair rhan isod a dwy ran sy’n llai uchod, ond nid yw mewn cyflwr cystal, gyda’r holl addurniadau mewnol wedi mynd. Gellir gweld o olion y bwâu mewnol bod yr abaty wedi’i adeiladu yn y dull mwyaf cyntefig o bensaernïaeth Sacsonaidd; mae’r pileri’n gryf iawn , ac mae capanau’r colofnau wedi’u gorffen yn union ddull yr adeiladau Sacsonaidd cynharaf. Mae gan ddrws o fewn yr abaty ei hun fwa cwbl gylchog, wedi ei addurno yn y dull Sacsonaidd. Mae i’r adfeilion hyn olwg arbennig oherwydd y coed ynn sy’n tyfu yng nghorff yr eglwys ac ar y tu allan ger y ffenestr orllewinol, drwy’r rhai yr ymddengys yr adfeilion wrth i ni agosáu. Mae’r adfeilion hyn yn dioddef gymaint o’r defnydd a wneir ohonynt ag y maent yn elwa ar y golygfeydd o’u cwmpas. Mae’r abaty gwirioneddol, sy’n ymestyn o’r ffenestr ddwyreiniol tua’r de, wedi cael ei drawsnewid yn dafarn, ac mae stablau ar gyfer ceffylau a gwartheg wedi cael eu hychwanegu ato; fel bod y cyfan erbyn hyn yn gwrt petryal, wedi’i amgylchynu ag adeiladau, gyda’r eglwys yn ffurfio’r asgell ogleddol, fel ei bod yn ofynnol croesi’r sgwâr a throedio dros domennydd tail er mwyn ei chyrraedd.
[L]a vallée de Llangollen (prononcée Llangothlen), plus renommée encore que sa voisine [c’est-à-dire la vallée de Clwyd]: elle nous a semblé plus profonde; nous y sommes descendus par une pente longue et rapide. Au plus bas, le long d’un clair ruisseau, sur un niveau gras, noir, fécond et ombragé, nous avons bientôt découvert, à notre gauche, les ruines de l’abbaye de Valle Crucis, et sur une hauteur sourcilleuse, perchés dans nes nuages, les murs, encore debout, du château de Dinas Bran ou des Corneilles, qui semble menacer cette paisible vallée, dont l’abbaye a l’air de jouir. De grands frênes croissent parmi les débris, et s’élèvent par-dessus les ruines gothiques de Valle Crucis, troncs, racines, et ruines, si intimement unis et entremêlés, que les pierres semblent en quelques endroits sortir du corps des arbres autant que les arbres des pierres. Quelques familles de paysans habitent encore ce qui reste du cloître; les vaches et les cochons, les poulets et les enfans gravissent et perchent parmi tout cela, et l’on voit une paire de cornes, une hure ou une petite tête mal peignée, se montrer ça et là à la fenêtre, au milieu des ciselures gothiques et du feuillage vert. Cromwell et le temps sont de grands paysagistes. Le ruisseau passait par la cuisine de cette grasse abbaye, et formait un vivier encore entier, et qui a du poisson.
Mae Dyffryn Llangollen [nodir yr ynganiad], yn fwy enwog fyth na’i chymydog [hynny yw, Dyffryn Clwyd]. Ymddangosai i ni yn ddyfnach na Dyffryn Clwyd, ac roedd y llwybr i lawr yn hir a serth. Daethom yn fuan at fan gysgodol, lle gwelir adfeilion abaty Glyn y Groes yng nghanol caeau ffrwythlon, sy’n wastad, yn gyfoethog ac yn isel, gyda ffrwd glir yn rhedeg ar eu traws. Ar gopa bryn cyfagos, gan fygwth y dyffryn yr ymddangosai’r Abaty i’w fwynhau, safai muriau Dinas Brân. Cwyd coed ynn tal ymysg y darnau maluriedig, ac maent yn uwch nag adfeilion Gothig Glyn y Groes. Mae’r gwreiddiau wedi cydwau cymaint â’r adfeilion fel bod cerrig yn ymddangos fel petaent yn tyfu allan o’r coed a choed allan o’r cerrig. Mae rhai teuluoedd gwerinol yn trigo yng nghanol olion y cloestrau; mae gwartheg a moch, ieir a phlant, yn dringo ac yn clwydo ar y coed a’r adfeilion, a gwelwch yma bâr o gyrn, acw ben plentyn blêr ei wallt, yn llygadu drwy’r ffenestri, ymysg cerfiadau Gothig a changhennau gwyrddion. Mae Cromwell a’r tywydd yn gerfwyr tirwedd gwych. Llifai’r nant drwy gegin yr abaty cyfoethog hwn, gan ffurfio pysgodlyn sy’n parhau’n gyflawn, ac sydd â physgod ynddo hyd heddiw.
Autour de Llangollen abondent les buts d’excursion, particulièrement les cascades et cascatelles dont sont inondées les montagnes galloises, où l’eau de source, soit dit en passant, est à une température aussi voisine que possible de glace. L’abbaye de Valle Crucis, qu’il est d’obligation de visiter, consiste en un écroulement incohérent de ruines vaguement gothiques, entourées d’un cimetière vénérable où les dalles funéraires portent des inscriptions encore lisibles, mais absolument imprononcables. Ces noms effoyablement barbares sont encore aggravés par leur longueur prodigieuse – ainsi celui du saint patron de l’église de Llangollen: Collen ap Gwynog ap Clyddwg ap Cowrda ap Caradac Freichfras ap Llyr Merini ap Einion Yrth ap Cunedda Wlegdid. Tout près de la ville, au sommet d’une colline de schiste, achève de s’effondrer le château du Corbeau, encore imposant à distance. C’est là que la très belle princesse Myfanwy Fechan aima le barde Hoel ap Eeinion Llygliw.
O gwmpas Llangollen nid oes prinder o leoedd i ymweld â hwy, yn enwedig y rhaeadrau mawr a bach sy’n llifo drwy fynyddoedd Cymru, lle mae dŵr y ffynhonnau, rhaid dweud, cyn agosed ag y gellir at rew mewn tymheredd. Mae Abaty Glyn y Groes, y mae’n rhaid ymweld ag ef, yn cynnwys pentyrrau digyswllt o adfeilion lled Gothig, wedi’u hamgylchynu â mynwent hynafol lle mae’r arysgrifau ar y beddfeini’n parhau’n ddarllenadwy, er na ellir fyth eu hynganu. Mae hyd ryfeddol yr enwau dychrynllyd o farbaraidd hyn yn eu gwneud yn waeth – megis enw nawddsant eglwys Llangollen: Collen ap Gwynog ap Clyddwg ap Cowrda ap Caradoc Freichfras ap Llŷr Merini ap Einion Yrth ap Cunedda Wledig. Yn agos iawn at y dref, ar gopa bryn o siâl, mae Castell y Frân yn dadfeilio, ei fod eto’n drawiadol o bell. Yma y cwympodd y dywysoges hynod hardd Myfanwy Fechan â’r bardd Hywel ap Einion Llygliw mewn cariad.