BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Rhaeadr Abergwyngregyn

Rhaeadr Abergwyngregyn - Trosolwg

Mae Rhaeadr Aber ym mhen draw Dyffryn Aber ddwy filltir i'r de o bentref bychan Abergwyngregyn. Mae cysylltiad annatod rhwng yr ardal hon â hanes Gwynedd ac roedd gan dywysogion Gwynedd lys yma yn y drydedd ganrif ar ddeg.

Oherwydd ei leoliad yn agos at y briffordd drwy Ogledd Cymru a'r brif linell rheilffordd, ynghyd â harddwch naturiol eithriadol y dyffryn, mae llif cyson o ymwelwyr wedi ymweld â'r pentref a'i raeadr ers y cyfnod Rhamantaidd. Efallai mai'r disgrifiadau mwyaf hoffus o grwydradau i fyny'r dyffryn ac o'i gwmpas yw'r rhai a ysgrifennwyd yn y 1850au gan Julius Rodenberg, newyddiadurwr o'r Almaen. Fel mae teitl ei lyfr enwog, An Autumn in Wales, yn dangos, treuliodd Rodenberg hydref 1856 yn yr ardal a bu'n crwydro ar hyd a lled y fro gyda help y plant o fferm gyfagos lle'r arhosodd drwy gydol ei ymweliad. Yn ei farn ef, Rhaeadr Aber oedd yr harddaf iddo ei weld erioed, er na allai gymharu efallai â mawredd rhaeadrau llawer mwy a chyfoethocach.

Yn ei ddyddiau ef roedd yn rhaid i Rodenberg ddringo dros greigiau a cherdded llwybrau coediog i gyrraedd y rhaeadr, ond erbyn heddiw mae llwybr da iawn yn arwain at Raeadr Aber o faes parcio cyfagos.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch