BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Abermaw / Y Bermo

Abermaw / Y Bermo - Trosolwg

Fel mae ei henw'n tystio, saif Abermaw wrth aber yr afon Mawddach. Mewn arolwg yn 1565 cofnodwyd mai pentref bach o bedwar tŷ oedd yno, ac nid oes fawr yn hysbys am y dref cyn y ddeunawfed ganrif. Wrth i longau arfordirol gynyddu yn niwedd y ddeunawfed ganrif, datblygodd Abermaw yn ganolfan adeiladu llongau, gyda'r harbwr yn cynnal diwydiant pysgota ac allforio gwlân o ffermydd defaid Meirionnydd. Er gwaethaf ei hamgylchedd hardd, dim ond yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg y datblygodd yr isadeiledd ar gyfer ymdrochi môr yno.

Gyda dyfodiad Rheilffordd y Great Western o'r Amwythig i ddechrau, ac yn ddiweddarach Rheilffordd Aberystwyth ac Arfordir Cymru o'r de, dechreuodd mwy a mwy o dwristiaid gyrraedd, gan ei gwneud yn angenrheidiol i'r dref ehangu. Oherwydd bod y clogwyni uchel mor agos i'r arfordir, adeiladwyd y tai gwyliau newydd ar derasau'n codi yn erbyn y creigiau. Dywedai twristiaid yn aml ei bod yn bosibl edrych o'r tai uchaf i lawr simneiau'r tai yn y strydoedd o danynt. Yn wahanol i drefi glan môr poblogaidd eraill yng Nghymru, ni wnaeth Abermaw erioed ddatblygu pensaerniaeth amlwg y cyrchfannau hynny, ond cadwodd ei hapêl i rai a oedd eisiau profiad syml a phictiwresg.

Yn ystod un swae arbennig o gyfareddol ar hyd y traeth yng ngolau'r lleuad yn y 1880au, bu'r ymwelydd o'r Almaen, Johann Jakob Honegger, yn dyst i rywbeth prin iawn, sef gweld môr llaethog yn hemisffer y gogledd.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch