BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Castell Biwmares

Castell Biwmares - Trosolwg

Castell Biwmares oedd y castell olaf i'w adeiladu fel rhan o gylch Edward I o amddiffynfeydd o amgylch Gogledd Cymru. Dechreuwyd ei adeiladu yn 1295, ond araf fu'r cynnydd ac ni orffennwyd rhannau uchaf y tyrau a'r ward mewnol, sy'n golygu bod y castell yn is ac yn edrych yn llai bygythiol na'i gymheiriaid.

Fe wnaeth y lleoliad strategol a'r rheolau masnach caeth a oedd yn gysylltiedig â sefydlu Biwmares gyfrannu at ddatblygiad y dref a'r porthladd yn ganolfan ariannol a llongau Sir Fôn tan yr ail ganrif ar bymtheg. Er na orffennwyd y castell, roedd ei safle tactegol yn ei wneud yn darged i wrthdaro arfog. Cipiodd rhai o filwyr Owain Glyndŵr Fiwmares yn 1403 a'i dal am ddwy flynedd ac am dair blynedd yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr amddiffynwyd y castell dros y Brenin gan y teulu Bulkeley lleol.

Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y ffos o amgylch Castell Biwmares wedi llenwi â mwd a'r muriau i raddau helaeth o'r golwg dan eiddew. Er gwaetha'r dadfeilio allanol, roedd y Tywysog Hermann von Pückler-Muskau yn falch o weld bod yr ystafelloedd y tu mewn i'r porthdwr a'r capel mewn cyflwr da. Roedd yn gandryll, fodd bynnag, gyda'r cyrtiau tenis yr oedd y Bulkeleys, y cyn amddiffynwyr, wedi ei llunio ar y lawnt yn iard y castell. Mae'r castell bellach yn safle treftadaeth byd UNESCO.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch