BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Betws-y-Coed

Betws-y-Coed - Trosolwg

Mae gwreiddiau Betws-y-Coed yn mynd yn ôl i'r chweched ganrif pan sefydlwyd mynachlog fechan yno, a than i fwyngloddio plwm ddechrau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, arhosodd yn bentref bychan gydag economi amaethyddol. Yn Nhŷ Mawr Wybrnant, gerllaw Betws-y-Coed, y ganed William Morgan, y cyntaf i gyfieithu'r Beibl cyfan i'r Gymraeg yn y 1580au. Yn 1815, fel rhan o broject ffordd Llundain i Gaergybi, adeiladodd Thomas Telford Bont Waterloo o haearn bwrw dros afon Llugwy ym mhen deheuol y pentref. Adeiladwyd y bont o un bwa o asennau haearn bwrw, ac ar y sbandrelau allanol ar bob ochr ceir y geiriau ‘THIS ARCH WAS CONSTRCUTED IN THE SAME YEAR THE BATTLE OF WATERLOO WAS FOUGHT’, ynghyd â symbolau cenedlaethol Cymru, Lloegr, Iwerddon a'r Alban.

O ganlyniad i'r ffordd newydd hon daeth y pentref yn ganolfan bwysig i'r goets fawr a datblygodd twristiaeth yn gyflym yno. Cyrhaeddodd y rheilffordd o Landudno yno yn 1868, a arweiniodd at ddatblygiad pellach ym maint y dref.

Drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, denodd y pentref nifer fawr o arlunwyr tirlun o fri rhyngwladol. Yn 1844, John Cox oedd yr arlunydd tirlun cyntaf o Brydain i aros yng Ngwesty'r Royal Oak. Yn ystod un o'i ymweliadau niferus diweddarach fe wnaeth hyd yn oed baentio arwyddfwrdd y gwesty. Mae'n cael ei arddangos o hyd, er ei fod dan do bellach i'w warchod. Bu'r arlunydd o Norwy, Hans Frederik Gude, yn byw yno gyda'i deulu am ychydig flynyddoedd yn ystod y 1860au a dychwelodd Onorato Carlandi o'r Eidal dro ar ôl tro am ddeng mlynedd ar hugain yn dilyn ei ymweliad cyntaf yn 1880.

Mae pensaerniaeth y pentref wedi cadw llawer o'i chymeriad Fictoraidd. Heddiw, daw prif incwm Betws-y-Coed oddi wrth dwristiaeth awyr agored ar sail y coedwigoedd niferus, yr afonydd a'r rhaeadrau sy'n britho'r tirwedd.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch