BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Aberhonddu

Aberhonddu - Trosolwg

Saif y dref farchnad hon, a fu ar un adeg yn dref sirol Sir Frycheiniog, lle mae'r afon Honddu yn llifo i'w Wysg. Sefydlodd y Rhufeiniaid ganolfan i ŵyr meirch yma wrth iddynt ymwthio ymhellach i'r hyn sydd bellach yn Gymru. Adeiladwyd castell gan y Normaniaid yma yn yr unfed ganrif ar ddeg, drachefn oherwydd lleoliad strategol pwysig y dref ar un o'r ychydig rydau dros yr afon. Codwyd cylch o furiau o amgylch y dref yn y drydedd ganrif ar ddeg. Ychydig iawn o'r rhain sydd i'w gweld bellach gan iddynt gael eu dinistrio yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr. Mae gwreiddiau Eglwys Gadeiriol Aberhonddu'n mynd yn ôl i'r unfed ganrif ar ddeg fel eglwys wedi'i chysegru i Sant Ioan. Dyma'r eglwys gadeiriol fwyaf diweddar yng Nghymru. Daeth yn sedd Esgob Abertawe ac Aberhonddu yn 1923 yn dilyn datgysylltu'r Eglwys yng Nghymru dair blynedd yn gynharach.

Oherwydd ei lleoliad ffafiol i'r gogledd o Fannau Brycheiniog mae Aberhonddu wedi bod yn boblogaidd gyda thwristiaid ers cryn amser. Gyda'r gwelliant graddol ym mhriffyrdd Cymru yn niwedd y ddeunawfed a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth yn fan aros canolog hefyd i goetsys y post. O ganlyniad i'r datblygiad hwn, ymwelodd llawer o dwristiaid â'r dref. Yn 1844, arhosodd Carl Carus a Friedrich August II, Brenin Sacsoni, yma am gyfnod byr i newid ceffylau a mwynhau prysurdeb y farchnad a harddwch y wlad gyfagos tra ar eu daith ddiwrnod o Ferthyr Tydfil i Aberystwyth.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch