BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Pont Britannia

Pont Britannia - Trosolwg

Adeiladwyd Pont Britannia gan y peiriannydd sifil Robert Stephenson fel pont diwbaidd i gludo'r rheilffordd dros y Fenai. Comisiynwyd Pont Britannia yn dilyn agor Pont Grog Thomas Telford ym Mhorthaethwy, a oedd wedi hwyluso teithio ar y goets fawr rhwng Caergybi a Llundain yn fawr iawn. Gyda'r cynydd cynyddol yn nifer teithwyr rhwng Iwerddon a Chymru, fodd bynnag, daeth yn angenrheidiol adeiladu rheilffordd ar draws y culfor. Dechreuwyd gweithio ar y bont yn 1846 ac agorodd i'r cyhoedd bedair blynedd yn ddiweddarach.

Roedd adeiladu pont o'r rhychwant hwn, yn cynnal pwysau dau drac rheilffordd, yn gryn dasg. Hefyd, fel y bont grog a gynlluniwyd gan Telford, roedd yn rhaid i bont rheilffordd Stephenson hefyd fod yn ddigon uchel i alluogi llongau i hwylio o dani ar bob adeg. Meddyliodd Stephenson am gynllun tiwbaidd newydd a fyddai'n addas i bont gyda rhychwant pur fawr, ac arbrofodd gyda'i gynllun drwy adeiladu'r bont reilffordd lai dros aber Afon Conwy, a agorwyd yn 1849. Defnyddiwyd patrymau o'r hen Aifft ar waith cerrig Pont Britannia, ac mae pedwar llew enfawr, drachefn mewn arddull Eifftaidd, yn addurno'r mynedfeydd i'r bont ar y ddwy ochr.

Fel Pont y Borth, heidiodd lluoedd o dwrisitiaid i weld Pont Britannia drwy gydol cyfnod ei hadeiladu ac ar ôl iddi gael ei hagor. Am gyfnod hir, caniateid i ymwelwyr fynd i mewn i'r tiwbiau hyd yn oed i gael golwg iawn arnynt! Ceir un disgrifiad cyffrous gan Rudolph Delbrück, teithiwr o'r Almaen. Dywed sut y sychodd to pren y tiwbiau yn ystod haf arbennig o sych a phoeth gan fynd ar dân oddi wrth wreichion o'r trenau'n mynd heibio. Yna, fe wnaeth y tiwbiau'n llosgi achosi i'r paciau a oedd yn cael eu cario ar dop y trên hefyd fynd ar dân.

Aeth y bont yn wenfflam yn 1970 ac yn dilyn hynny tynnwyd y tiwbiau gwreiddiol oherwydd credid eu bod wedi mynd yn ansefydlog o ganlyniad i wres y tân. Cafodd y bont ei hail-lunio a nawr mae ganddi ddau ddec. Mae'r un uchaf yn dal i gludo trenau dros y Fenai, tra bo'r un isaf yn cario ffordd yr A55. Mae'r pileri carreg gwreiddiol yn dal i gynnal y fframwaith newydd ac mae'r llewod cerrig yn dal yn eu lle.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch