Yn wynebu Ynys Môn, saif Caernarfon ar lan orllewinol y Fenai. Sefydlwyd caer gadarn, Segontium, yno gan y Rhufeiniaid i'w hwyluso i ddarostwng yr Ordoficiaid, y llwyth Celtaidd a drigai yn yr ardal bryd hynny. Yn rhyngwladol, mae'r dref hon yn fwyaf adnabyddus am ei chastell a adeiladwyd gan Edward I, brenin Lloegr, wedi cwymp Llewelyn ap Gruffudd yn 1282, ac fe atgyfnerthodd y dref yn ogystal a gwahardd unrhyw Gymry rhag byw o fewn ei muriau. Yn yr ugeinfed ganrif fe'i defnyddiwyd ar gyfer arwisgo dau o dywysogion Seisnig Cymru, y cyntaf yn 1911 a'r llall yn 1969.
Er i gymeriad y dref barhau'n weddol wledig yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe wnaeth agosrwydd Caernarfon at chwareli llechi Gogledd Cymru gyfrannu at ddatblygiad ei harbwr. Oddi yma, allforiwyd llechi o ansawdd uchel o bob lliw, maint a siâp i bedwar ban byd.
Daeth llawer o dwristiaid i Gaernarfon, naill ai i gael golwg ar adfeilion trawiadol y castell Normanaidd neu i fanteisio ar agosrwydd y dref i fynyddoedd Eryri. Yn 1828 fe wnaeth y Tywysog Herman von Pückler-Muskau gyflogi bachgen lleol a'i gar a cheffyl i fynd ag ef ar daith i Lanberis. Fe wnaethant gyrraedd yno mewn dim ond hanner awr oherwydd i'r bachgen ddehongli bloeddiadau'r tywysog o ofn fel anogaeth iddo ruthro ar hyd y ffyrdd troellog hyd yn oed yn gyflymach. Yn 1862 profodd y newyddiadurwr Ffrengig, Alfred Erny, y gymdogaeth ar gyflymder mwy hamddenol. Treuliodd ychydig ddyddiau yn y dref ei hun a chynhyrchu disgrifiad manwl o'i ymweliad â'r Eisteddfod a gynhaliwyd o fewn y castell. Cafodd syndod, fodd bynnag, o glywed y rhan fwyaf o'r areithiau cyhoeddus yn cael eu traddodi yn Saesneg, a hynny yn y gornel Gymreiciaf o'r wlad.
Vom Castell gingen wir zur Stadt hinab. Ein Theil der gegen die See zu angelegten Vertheidigungswerke derselben, aus hohen Mauern mit halbrunden Thürmen, in abgemessenen Entfernungen, bestehend, befindet sich noch jetzt in einem sehr guten Zustande. Zwischen diesen und dem Meere ist ein schöner, wohlgeebneter Spaziergang angelegt, welcher mit der in England zur Natur gewordenen Nettigkeit gehalten, und bei schönem Wetter von den Bewohnern der Stadt fleißig besucht wird. Eine steinerne Brüstung, die hie und da von Eisengittern unterbrochen wird, läuft am Meere hin, und ein großer viereckter, weit aus der Mauer hervorspringender, Thurm, auf beiden Seiten, nach dem Spaziergange hin, durchbrochen, öffnet sich nach der Seeseite in ein großes Thor, und bildet einen Eingang in die Stadt. – Die Aussicht über den Hafen und das gegenüberliegende Anglesea ist trefflich.
Der Stadtmauer, am Meere hin, folgend, kamen wir zu einer kleinen Kapelle, aus welcher uns der Ton der Orgel und der Gesang mehrerer Kinder entgegenhalte. Angelockt von diesem wandten wir uns um die Ecke der Mauer zu einem zweiten Thore hinein, und sahen nun eine kleine, freundliche, im neueren gothischen Geschmacke gebaute Kirche vor uns. Wir gingen auf einige Augenblicke hinein, und fanden sie mit wohlgekleideten Leuten, beiderlei Geschlechts, angefüllt, die mit großer Andacht sangen und durch unser Eintreten wenig oder gar nicht gestört zu werden schienen. Auf dieser (der östlichen) Seite der Stadt sind die Schiffswerfte, auf denen wir mehrere kleine und zwei oder drei größere Schiffe von 150–200 Tonnen halb fertig fanden. – Einige von den Thürmen in der Mauer, auf dieser Seite, schienen bewohnt zu seyn.
Durch das Hauptthor, das sich zwischen zwei großen runden Thürmen befindet, gelangten wir zum Mittelpunkte der Stadt. In dieser Gegend stehen mehrere alte Häuser, die durch ihre höchst sonderbare Bauart, welche der in deutschen Reichsstädten üblichen ähnlich ist, sich auszeichnen. Plas mawr house, der Inschrift zufolge 1691 ausgebessert, fällt unter ihnen besonders in die Augen. Der südliche Theil der, sich amphitheatralisch erhebenden, Stadt, ist der luftigste und freieste, und man hat, in der Nähe der letzten Häuser, eine schöne unbeschränkte Aussicht sowohl nach dem Meere, als nach den gegen Süden gelegenen Bergreihen zu.
O’r castell, disgynnwn i lawr tua’r dref. Mae’r rhan o’i amddiffynfeydd sy’n wynebu i gyfeiriad y môr, sef muriau uchel gyda thyrau ar ffurf hanner cylch ar bellter rheolaidd oddi wrth ei gilydd, yn parhau mewn cyflwr da iawn. Rhwng y muriau a’r môr mae tro prydferth a gwastad, wedi ei gadw â’r taclusrwydd sydd wedi dod yn naturiol i’r Saeson, a ddefnyddir yn helaeth gan drigolion y dref pan fo’r tywydd yn braf. Mae bronfur o garreg, gyda rheiliau haearn yn torri ar ei draws yma ac acw, yn rhedeg ar hyd glan y môr; ac mae tŵr mawr sgwâr, yn ymestyn allan ymhell y tu hwnt i’r mur, ac yn ymagor ar y ddwy ochr tuag at y tro, gyda phorth mawr ar ochr y môr, yn ffurfio mynedfa i’r dref. Mae’r olygfa dros yr harbwr a thuag at yr arfordir ar draws y dŵr ym Môn, yn wir hyfryd.
Gan ddilyn cwrs muriau’r dref ar hyd glan y môr, daethom at gapel bach, o’r hwn y deuai sain yr organ a lleisiau nifer o blant yn dilyn ei chyfeiliant. Wedi ein denu gan hynny, aethom o gwmpas cornel y mur ac i mewn drwy glwyd arall, a chael ein hunain o flaen adeilad bach taclus a hyfryd yn y dull Gothig. Aethom i mewn am ychydig eiliadau, a’i gael yn llawn o bobl o’r ddau ryw wedi’u gwisgo’n drwsiadus, a oedd yn canu gyda defosiwn mawr, ac na ymddangosent eu bod yn poeni fawr ddim ein bod wedi dod i mewn. Ar yr ochr hon i’r dref (yr ochr ddwyreiniol) y mae’r dociau, lle gwelsom sawl cwch bach a dau neu dri o longau mwy, yn pwyso tua 150 i 200 o dunelli, ar hanner eu hadeiladu. Ymddangosai fod pobl yn byw yn rhai o’r tyrau ar yr ochr hon.
Gan fynd i mewn drwy’r prif borth, gyda dau dŵr mawr crwn ar bob ochr iddo, cyraeddasom ganol y dref. Yn y rhan hon mae nifer o hen dai, gydag adeiladwaith arbennig sy’n debyg i adeiladwaith y tai yn nhrefi ymerodraethol yr Almaen. O blith y rhain, cafodd Plas Mawr, a atgyweiriwyd, yn ôl yr arysgrif arno, ym 1691, effaith arbennig arnom. Rhan ddeheuol y dref, sydd yn codi ar ffurf amffitheatr, yw’r un mwyaf agored a golau, a lle daw’r tai i ben mae golygfa hardd a dirwystr tuag at y môr ac at y cadwyni o fynyddoedd tua’r de.
Wir kamen gegen Abend nach Caernarvon, der Hauptstadt der Grafschaft gleiches Namens, und einer der größten Städte in Wales. Sie ist, wie die meisten Städte dieses Landes, von einheimischen Wälschen und von englischen Einwanderern bewohnt. Sie liegt unmittelbar an der Menai-Straße, und da sie rund umher wie Bangor und wie andere nordwälsche Orte, von „Slate-quarries“ (Thonschiefersteinbrüchen) umgeben ist, so besteht ihr Haupthandel in diesem scheinbar unbedeutenden Artikel, der aber eines gewissen Worts wegen, das man in allen englischen Fabrikorten und in allen Handelsstädten bei jeder Waare, nach deren Handelszielen man sich erkundigt, so oft als Antwort vernimmt, – ich meine das Wort: „All over the world!“ (über die ganze Welt hin!) – bedeutend geworden ist. Wenn man in Birmingham bei einem Knopfmacher nachfragt, wohin denn seine Knöpfe gehen, so antwortet er: „All over the world!“ (über die ganze Welt hin, Herr). – Fragt man einen Töpfer in den Staffordschen Potteries, wohin denn diese Art von Töpfen gehe, so heißt es: nach Amerika hin, nach Ostindien, nach Europa, „in fact, sir, aII over the world“ (in der That, Herr, über die ganze Welt), und erkundigt man sich hier in Caernarvon wieder, wohin die Slates gehen, so besinnt man sich auch nicht lange mit dem „All over the world!“
Die Schiefertafeln von Nordwales sind, wie gesagt, so vortrefflich, sie brechen in so großen Stücken, sie sind so elastisch und bröckeln so wenig, sie sind so schwarz und dabei erhält sich ihre Farbe, ohne zu grauen und zu verbleichen so beständig, daß man sie daher in aller Welt jetzt begehrt. Und namentlich in der allerneuesten Zeit sind sie so sehr begehrt, daß man ihre Ausfuhr und ihre Producierung in den Steinbrüchen als eben so im Zunehmen begriffen betrachten kann, wie die der Kohlen, und daß die Slates nicht nur die Hauptfrage für die Menai-Straße, sondern für diesen ganzen Theil von Nord-Wales geworden sind, eben so wie Eisen, seine Production und Ausfuhr die Hauptfrage für Südwales ist.
Roedd hi’n dechrau nosi pan gyraeddasom Gaernarfon, prif dref y sir, ac un o’r trefi mwyaf yng Nghymru. Fel y rhan fwyaf o drefi Cymru, mae iddi boblogaeth gymysg o breswylwyr brodorol Cymreig a mewnfudwyr Seisnig. Gan fod y dref wedi’i hamgylchynu â chwareli llechi, mae ei phrif fasnach yn y cynnyrch hwnnw, un sydd yn ymddangos yn ddisylw ond sydd, fel llawer o ganghennau gweithgynhyrchu Prydain, yn dod yn bwysig yn syth yn ein golwg pan glywn i lle mae’n cael ei gludo i’w werthu. Gofynnwch i wneuthurwr botymau yn Birmingham i lle mae ei fotymau yn mynd a’r ateb yn syth, mae’n debyg, fydd ‘Ledled y byd, syr.’ Gofynnwch gwestiwn tebyg wrth wneuthurwr crochenwaith yn Ardal y Crochendai yn Swydd Stafford a byddwch yn derbyn yr un ateb; ac yma yng Nghaernarfon, pan ofynnais i lle roedd y llechi’n mynd, dywedwyd wrthyf eto eu bod yn mynd ‘ledled y byd.’
Maent mor ragorol, fe ymddengys, maent yn torri’n ddarnau mor fawr, maent mor ystwyth, mor annhebygol o falurio, mor ddu, a’u lliw, ar yr un pryd, yn parhau gyhyd, fel bod galw amdanynt ‘ledled y byd’, yn enwedig yn y blynyddoedd diwethaf, gymaint felly fel bod llechi wedi dod yn brif gynnyrch y Gogledd fel y mae haearn yn Ne Cymru.
Caernarvon est une ville de 9253 habitants à 37 kil. 500 de Llandudno Junction et le chef-lieu du comté de même nom. Édouard I, le conquérant définitif du pays de Galles, en ordonnant en 1283 la construction du château destiné à paralyser toute velléité de révolte de la part de ses nouveau sujets, fit surgir en même temps les murs de la ville. Celle-ci est en train de se développer soit par le fait du commerce favorisé par son port, soit par le fait des carrières d’ardoises de ses environs, soit enfin parce qu’elle est la clef de la véritable région montagneuse qui attire de plus en plus les touristes. Sa vieille enceinte est encore debout en grande partie et sur l’une de ses portes on a bâti l’hôtel de ville sous lequel passe une rue qui débouche sur le port. ... Il y a dix ans j’eus le plaisir de voir à plusieurs reprises, à Caernarvon même, des femmes qui portaient encore le vieux costume gallois : jupes noires, manteau rouge, et chapeau de feutre haute-forme. Les flots civilisateurs l’on fait disparaître et l’ont refoulé dans le sud du pays sans rien lui substituer, et c’est fort dommage parce qu’il ne manquait pas de caractère.
Tref â phoblogaeth o 9,253 yw Caernarfon, sy’n 37.5 cilomedr o Gyffordd Llandudno ac yn brif dref y sir o’r un enw. Edward I, concwerwr terfynol Cymru, a orchmynnodd adeiladu’r castell ym 1283 gyda’r bwriad o sathru ar unrhyw syniad o wrthryfel ar ran ei ddeiliaid newydd, a gorchmynnodd adeiladu muriau’r dref yr un pryd. Mae’r dref yn datblygu drwy fasnach, diolch i’r porthladd, drwy’r chwareli llechi lleol a hefyd drwy fod yn borth i’r ardaloedd gwir fynyddig sydd yn denu mwy a mwy o ymwelwyr. Mae ei hen furiau gan fwyaf yn parhau’n gyflawn ac adeiladwyd neuadd y dref ar un o’r pyrth, gyda’r ffordd sy’n arwain at y porthladd yn rhedeg dani. ... Ddeng mlynedd yn ôl cefais y pleser lawer gwaith o weld, fel mae’n digwydd yng Nghaernarfon, wragedd yn parhau i wisgo’r wisg Gymreig hynafol: sgertiau duon, cotiau cochion a hetiau ffelt uchel. Mae llanw gwareiddiad wedi ei halltudio bellach i dde’r wlad, heb adael dim yn ei le, ac mae’n drueni mawr gan nad oedd y wisg heb ei chymeriad.
Ville renommée pour la salubrité de sa position, et très-fréquentée durant la belle saison, par les baigneurs valétudinaires. On fait un commerce considérable dans le port de Caernarvon; la seule exportation des ardoises expolitées dans le comté, surpasse une valeur de 50,000 livres sterling, c’est-à-dire plus de 1,250,000 francs. Ces ardoises sont amenées, avec la plus grande économie, jusqu’aux lieux d’embarquement, sur des chemins de fer.
Tref sy’n enwog am ei safle iach, ac sy’n brysur iawn gydag ymdrochwyr yn y môr sy’n gofalu am eu hiechyd yn ystod misoedd yr haf. Ceir masnachu sylweddol drwy borthladd Caernarfon, gydag allforio llechi, o chwareli’r sir, yn unig yn werth dros 50,000 punt, neu ragor na 1,250,000 ffranc Ffrengig. Cludir y llechi hynny i’r porthladd yn y modd mwyaf economaidd, sef ar reilffyrdd.