Sefydlwyd caer Rufeinig Segontium ar gyrion tref fodern Caernarfon fel rhan o'r ymgyrch i wastrodi'r Ordoficiaid yn OC77. Crybwyllir y gaer hon yn y chwedl 'Breuddwyd Macsen Wledig', a geir yn y Mabinogion, sy'n gasgliad o straeon Cymreig o'r oesoedd canol. Yn dilyn y Goncwest Normanaidd, adeiladodd Hugh d'Avranches, Iarll Caer, dri chastell ar hyd Gogledd Cymru, yn cynnwys un yng Nghaernarfon, ond erbyn 1115 roedd y Cymry wedi cipio Castell Caernarfon ynghyd â theyrnas Gwynedd.
Yn 1283, wedi concwest Gwynedd, dechreuodd y brenin Edward I ailadeiladu Castell Caernarfon ar raddfa fawr, gan ei wneud yn symbol amlwg o'i reolaeth dros y diriogaeth yr oedd wedi'i meddiannu. Gan adlewyrchu muriau enfawr Caergystennin, adeiladwyd y tyrau ar ffurf amlonglog a gosodwyd rhesi llorweddol o gerrig lliw fel addurn yn y muriau. I gwblhau'r arddangosiad o rym Edward, roedd eryrod carreg yn addurno parapetau'r tŵr uchaf gan chwarae ar y syniad o orffennol ymerodrol Cymru. Ganed Edward II yng Nghastell Caernarfon yn 1284, a throsglwyddodd Edward I y teitl 'Tywysog Cymru' i'w fab bychan i sefydlu ei reolaeth linachol dros Gymru.
Yn ystod Gwrthryfel Glyndŵr cafodd y castell a'r dref eu gwarchae'n gyson gan y Cymry a milwyr Ffrengig a oedd yn eu cynorthwyo. Fodd bynnag, gydag esgyniad Harri Tudur i orsedd Lloegr, collodd Castell Caernarfon ei bwysigrwydd a dechreuodd ddadfeilio. Ond roedd ei amddiffynfeydd yn dal mewn cyflwr digon da iddo gael ei ddefnyddio gan y Brenhinwyr a fu'n garsiwn yno yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr. Ar ôl y cyfnod byr hwn o wrthdaro, gadawyd y castell yn llwyr.
Yn ystod y cyfnod Rhamantaidd, dechreuodd twristiaid gyrraedd mewn nifer cynyddol gan gymryd diddordeb arbennig yn adfeilion trawiadol Cymru. O ganlyniad, gwnaed gwaith adfer a chadwraeth helaeth ar Gastell Caernarfon yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn 1986 cafodd Caernarfon ei chydnabod yn rhan o Safle Treftadaeth Byd Cestyll a Muriau Trefol Edward I gan UNESCO, ynghyd â Biwmares, Conwy a Harlech. Cadw sy'n gyfrifol erbyn hyn am Gastell Caernarfon.
Wir sahen das Castell zuerst von der Südseite, und hier den Eingang, durch welchen, wahrscheinlich über eine Zugbrücke, die über den Graben führte, Eleonore, die Gemahlin Edwards I., in das Schloß einzog. Es ist aus zwei verschiedenen Steinarten, einer grauen und einer bräunlichen, erbaut, welche durcheinander gemischt sind; über dem Haupteingange steht in einer Nische die lebensgroße Bildsäule Edwards I. in Sandstein ausgehauen und noch ziemlich wohl erhalten. Der König ist in vollständiger Rüstung und drohend das Schwert ziehend dargestellt. – Die Räume, in welchen die doppelten Fallgatter lagen, sind noch jetzt deutlich zu bemerken, und die alten Angeln des Burgthores trotzen der Zerstörung der Zeit mit eben so gutem Erfolge, als die übrigen Bestandtheile des Schlosses.
Das Castell bildet ein längliches Viereck, das einst auf allen Seiten mit Thürmen von verschiedener Gestalt, viereckt, sechseckt und achteckt, umgeben war. Unter den acht bis zwölf noch vorhandenen sind am wenigsten die verfallen, welche an der Nord- und Südseite des Castells stehen, und namentlich der hohe Adler-Thurm (eagle tower), dessen Treppe so wohl erhalten ist, daß man auf ihr bis zur Spitze gelangen kann, von der man eine schöne Aussicht über den Menai und Anglesea genießt. Das Stein-Bild des Adlers, nach welchem der Thurm benennt worden, ist noch auf der Spitze desselben zu sehen, aber nur mit Hülfe der Einbildungskraft für einen Vogel zu halten. Als Merkwürdigkeit zeigt man in diesem Thurme das Zimmer, in welchem angeblich, Edward II. geboren wurde. Sein Vater, Edward I., schickte seine Gattin, Eleonore von Castilien, nach Caernarvon, um dort entbunden zu werden, damit die unruhigen Welschen, welche gelobt hatten, sich nur einem unter ihnen geborenen Prinzen zu unterwerfen, einen Herrscher dieser Art erhalten sollten. Seit dieser Zeit führt der englische Thronerbe den Namen „Prinz von Wales.“ – Der Kamin, durch welches das kleine Zimmer erwärmt wurde, in welchem Edward das Licht der Welt erblickte, ist noch vollkommen erhalten. Ein Spaziergang im Innern des Hofes längs den Mauern (die in den Thürmen die ungeheuere Dicke von 8–10 Fuß haben) gewährt angenehme Aussichten über die Stadt und den mit kleinen Fahrzeugen angefüllten Hafen. Der Hof, welcher sich nach der Südseite des Castells, gegen das Thor der Königin Eleonore, bedeutend erhebt, ist von allem Schutt gereinigt und mit Gras überwachsen. Wir fanden zwei, im letzten spanischen Kriege eroberte, metallene Sechspfünder, 1790 gegossen, mit dem Namenszuge Carls IV. und den Namen el codicioso und el escarbajo bezeichnet, auf demselben stehen. Der Blick auf die Mauern umher, die mitunter noch so unversehrt sind, daß man die inneren steinernen Fensterverzierungen vollständig erkennt, hat etwas ungemein imposantes.
Gwelsom y castell gyntaf o’r de, lle mae mynedfa drwy’r hon y daeth Eleanor, cydweddog Edward I, i’r castell, mae’n debyg dros bont godi dros y ffos. Fe’i hadeiladwyd gan ddefnyddio dau fath o garreg, un yn llwyd a’r llall yn frownaidd, gan eu cydgymysgu. Mewn cloer uwchlaw’r brif fynedfa, mae cerflun o Edward I mewn tywodfaen ac o’r un faint â’r dyn ei hun, sydd yn parhau mewn cyflwr gweddol dda. Darlunnir y brenin mewn arfwisg lawn, a chydag osgo bygythiol, wrthi’n dadweinio ei gleddyf. Gellir gweld yn amlwg hyd heddiw y lleoedd lle bu’r porthcwlisiau dwbl; ac mae hen golfachau pyrth y castell wedi gwrthsefyll dannedd dinistriol amser gystal â gweddill yr adeilad.
Mae’r castell ar ffurf petryal hirgul, y byddai unwaith o’i amgylch ar bob ochr dyrau o wahanol siapiau – cwadranglau, hecsagonau ac octagonau. Erys rhwng wyth a deuddeg o’r tyrau hyn; ac o’u plith y rhai sydd ar yr ochrau gogleddol a deheuol sydd wedi dirywio leiaf. Mae grisiau Tŵr yr Eryr yn arbennig yn parhau yn y fath gyflwr da fel y gallwn ddringo i’r pen uchaf un, lle ceir golygfa hardd dros y Fenai a Môn. Mae’r cerflun carreg o eryr, o’r hwn y cymer y tŵr ei enw, i’w weld o hyd ar y brig, ond mae angen arfer y dychymyg i’w weld fel aderyn. Rhywbeth diddorol a ddangosir i ni yw’r ystafell y dywedir i Edward II gael ei eni ynddi. Anfonodd ei dad, Edward I, ei gydweddog Eleanor o Gastilia i Gaernarfon i esgor er mwyn i’r Cymry terfysglyd, a oedd wedi addunedu na fyddent yn ildio i neb ond tywysog a anwyd yn eu plith hwy eu hunain, gael teyrn o’u cenedl eu hunain; ac o’r adeg honno ymlaen, mae’r aer i orsedd Lloegr bob tro wedi dwyn y teitl Tywysog Cymru. Mae’r lle tân a gynhesai’r ystafell fach lle gwelodd Edward olau dydd gyntaf mewn cyflwr perffaith o hyd. Mae cerdded ar hyd muriau’r cwrt mewnol, sydd gymaint ag wyth i ddeg troedfedd o drwch, yn cynnig golygfeydd hyfryd dros y dref a’r harbwr, sydd yn llawn o gychod bychain. Mae’r cwrt, sy’n codi’n sylweddol ar ochr ddeheuol y castell, tuag at Borth y Frenhines Eleanor, wedi’i lanhau o bob ysbwriel, ac mae glaswellt wedi tyfu drosto. Canfuom ynddo ddau o ynau chwe phwys pres o Sbaen, a gastiwyd ym 1790, ac a ddygwyd yn ystod y rhyfel diwethaf â Sbaen, wedi’u nodi â blaenlythrennau Siarl IV a’r enwau ‘el Codicioso’, ac ‘el Escarbajo’. Mae ymddangosiad y muriau o gwmpas y cwrt, sydd mewn llawer o leoedd mewn cyflwr cystal fel y gallwn weld yn eglur addurniadau carreg mewnol y ffenestri, yn anghyffredin o drawiadol.
Ich war doch ein wenig von den letzten vier und zwanzig Stunden angegriffen, und begnügte mich daher heute mit einem Gange nach dem berühmten, hier liegenden Schlosse, welches von Eduard I., dem Eroberer von Wales, erbaut und von Cromwell zerstört, jetzt eine der schönsten Ruinen in England bildet. Das Einzige, was ich dabei bedaure, ist, daß es so nahe an der Stadt und nicht einsam im Gebürge steht. Die äußern Mauern, obwohl verfallen, bilden doch noch eine ununterbrochene Linie, welche ohngefähr drei Morgen Landes umschließt. Der innere, mit Gras bewachsene, mit Schutt und Disteln jetzt gefüllte Raum ist nahe an 800 Schritt lang. Sieben Thürme, schlank und vest gebaut, von verschiedener Form und Größe, umgeben ihn. Einer derselben ist noch zugänglich, und ich erstieg auf einer hinfälligen Treppe von 140 Stufen seine Platform, wo man eine imposante Aussicht auf Meer, Gebürge und Stadt hat. Beim Hinabgehen zeigte man mir die Rudera eines gewölbten Zimmers, in welchem, der Tradition nach, Eduard II., der erste Prinz von Wales, geboren ward. ...
Ueber dem großen Hauptthore steht noch Eduards steinernes Bild, mit der Krone auf dem Haupt, und einem gezückten Dolch in der Rechten, als wolle er nach sechs Jahrhunderten noch die Steintrümmer seines Schlosses bewachen. Ueber Entweihung hatte er auch heute mit Recht zu klagen, denn, inmitten der Ruine, machte auf dem grünen Platze ein Kameel, nebst Affen in rothem Tressenrocke, seine Kunststücke, und jubelnd stand eine zerlumpte Menge umher, sich des jämmerlichen Contrastes nicht bewußt, den sie mit den ernsten Ueberresten der sie umgebenden Vergangenheit bildete.
Der Thurm, in welchem der Prinz geboren ward, heißt der Eagletower (Adlerthurm), aber nicht von ihm rührt diese Benennung her, sondern von vier colossalen Adlern, welche die Spitze krönten, und von denen noch einer vorhanden ist.
Roeddwn yn parhau braidd yn flinedig ar ôl y daith ddoe, a bodlonais ar dro i’r castell enwog a adeiladwyd gan Edward I, concwerwr Cymru, a’i ddinistrio gan Cromwell. Hwn yw un o’r adfeilion mwyaf ardderchog yn Lloegr. Yr unig beth anffodus yw ei fod yn sefyll mor agos at y dref, ac nid mewn rhwysg unig yng nghanol y mynyddoedd. Mae’r muriau allanol, er yn adfeilion, yn parhau i ffurfio llinell ddi-dor, gan amgáu ymron tair erw o dir. Mae’r ardal fewnol, sydd wedi ei gorchuddio â glaswellt ac yn llawn o ysbwriel ac ysgall, ymron i wyth gant o gamau o hyd. Mae wedi ei amgylchynu gan saith tŵr cul ond cadarn, o wahanol ffurf a maint. Gellir dringo un ohonynt hyd heddiw, a dringais i fyny grisiau maluriedig i’w lwyfan, lle mwynheais olygfa ragorol dros y môr, y mynyddoedd a’r dref. Pan ddeuthum i lawr, cefais fy arwain gan fy nhywysydd i olion siambr gromennog lle, yn ôl traddodiad, y ganwyd Edward II, y cyntaf o Dywysogion Cymru. ...
Uwchlaw’r porth mawr, erys cerflun o Edward, gyda choron ar ei ben a dagr wedi’i ddadweinio yn ei ddeheulaw, fel pe byddai ar ôl chwe chanrif yn parhau i amddiffyn muriau adfeiliedig ei gastell. Gallai’n gyfiawn fod wedi cwyno’n chwerw ynghylch yr amharch y bûm innau’n dyst iddo. Yng nghanol yr adfeilion rhagorol hyn, roedd camel a sawl mwnci mewn siacedi cochion yn gwneud eu campau, tra safai torf garpiog yn gwaeddi ac yn chwerthin o’u cwmpas, heb sylweddoli’r gwrthgyferbyniad hyll rhyngddynt a’r olion dwys hyn o’r oesoedd a fu.
Gelwir y tŵr lle ganed y tywysog yn Dŵr yr Eryr; nid oherwydd yr achlysur hwnnw, ond oddi wrth y pedwar eryr anferth a arferai sefyll ar ei binaclau, y mae un ohonynt yn parhau i fod yno.
A Caernarvon, le rêve devient une révélation. Ce n’est pas un château, ce n’est pas une forteresse, ce n’est pas une citadelle: Caernarvon, c’est l’idée de la conquête, matérialisée dans la pierre, c’est la volonté du vainqueur qui a pris corps et s’est appesantie sur le sol. La masse colossale se dresse avec une raideur d’anathème pour imposer à la nation vaincue l’immobilité éternelle et l’éternel silence. La dureté de ses hautes murailles tombe à pic, comme un arrêt du destin; elles sont nues, sans fenêtres, pareilles à des vouloirs fermés.
Contre sa domination, tout effort et tout espoir se brisent: aux plaintes de la servitude, aux grondements de la révolte, elle n’oppose que des pans inaccessibes et le geste droit de ses tours. Elle semble moins édifiée par des ouvriers humains que par quelque génie de la légende, aux temps héroïques où les Kymrys attendaient le retour d’Arthur. Ou bien encore on pourrait croire, sans l’architecture qui règle cette majesté, à quelque construction des Titans préhistoriques, dans un âge de pierre. Mais entrons: la forteresse s’humanise. Toute sa vie est tournée en dedans, vers l’enceinte où s’abritait le vainqueur. Des hommes ont vécu là, de la vie féodale; et nous pouvons lire les détails de leur existence dans les ruines qui subsistent et les indications jalonnées sur le sol.
Nous les voyons campés comme en pays ennemi, en éveil contre les surprises, approvisionnés pour les longs sièges. Et dans une des tours, entre quatre murs épais, voici la chambre obscure où naquit le fils aîné d’Édouard. Le roi l‘éleva, dit-on, dans ses bras, et paraissant à une fenêtre du château, le présenta au peuple assemblé: « Il est né Gallois; ce sera votre prince ». C’est ainsi qu’Édouard de Caernarvon fut créé prince de Galles, et inaugura la tradition qui fait porter ce titre au fils aîné des souverains d’Angleterre. La couronne du Gwynedd avait changé de maison, – et de patrie.
Yng Nghaernarfon, troes y freuddwyd yn ddatguddiad. Nid castell yw, nid caer, nid amddiffynfa: cysyniad concwest wedi ymffurfio mewn carreg yw Caernarfon. Ewyllys y concwerwr ydyw, wedi’i hymgnawdoli ac yn pwyso’n drwm ar y ddaear. Cwyd yr adeilad anferth yn ddisymwth mewn condemniad llwyr, i orfodi ar y genedl orchfygedig barlys a distawrwydd bythol. Mae’r muriau llym, uchel hyn fel clogwyn unionsyth, megis dyfarniad ffawd; muriau noeth heb ffenestri, fel dyheadau wedi’u diffodd.
Yn wyneb ei awdurdod, rhwystrir pob ymdrech a sethrir ar bob gobaith: pan fo cwyno yn erbyn caethiwed, ac ystwyrian gwrthryfel, ei unig ateb yw ei ystlysau di-ildio a’i dyrrau syth. Ymddengys yn llai o waith gweithwyr dynol na gorchest rhyw athrylith chwedlonol, o’r oes arwrol pan ddisgwyliai’r Cymry ddychweliad Arthur. Neu gallech feddwl, oni bai am y bensaernïaeth sy’n gefn i’r mawredd hwn, iddo gael ei greu gan gewri o ryw oes y cerrig cyn bod hanes. Ond awn i mewn: daw’r gaer yn fwy dynol. Troir ei holl fywyd tuag at i mewn, at y caeadle a ddiogelai’r concwerwr. Bu dynion yn byw yma, yn byw bywyd ffiwdal; a gallwn ddarllen fanylion eu bodolaeth yn yr adfeilion sy’n aros ac yn y cliwiau ar y ddaear.
Fe’u gwelwn yn gwersylla fel pe yn nhiriogaeth eu gelynion, ar wyliadwriaeth am ymosodiadau, yn barod am warchaeoedd hirion. Ac yn un o’r tyrau, rhwng pedwar mur trwchus, dyma’r ystafell dywyll lle ganwyd mab cyntaf Edward. Cymerodd y Brenin ef yn ei freichiau, meddant hwy, a chan ymddangos yn un o ffenestri’r castell, cyflwynodd ef i’r bobl a oedd wedi ymgasglu yno: ‘Fe’i ganwyd yn Gymro, ef fydd eich tywysog.’ Dyma sut y gwnaed Edward o Gaernarfon yn Dywysog Cymru, gan ddechrau’r traddodiad sy’n cyflwyno’r teitl hwnnw i fab cyntafanedig teyrn Lloegr. Roedd coron Gwynedd wedi symud tŷ, a mamwlad.
Je profitai de cette belle journée pour visiter le château de Caernarvon, une des belles ruines du pays de Galles. Il est situé sur un rocher au bord de la mer; malheureusement les maisons qui l’entourent de plusieurs côtés empêchent d’en saisir d’un coup d’œil tout l’ensemble.
Les murs ont sept pieds d’épaisseur; ils relient un grand nombre de tours qui communiquent entre elles par une triple galerie. La plus haute et la plus belle des tours est celle de l’Aigle, qui était anciennement surmontée d’un aigle en pierre. On monte jusqu’au faîte par un escalier de cent cinquante-huit marches. J’y suis resté longtemps à contempler la belle vue qui s’étendait autour de moi.
Dans la partie basse de cette tour, on me montra une petite chambre, où naquit, dit-on, Édouard II, le premier prince de Galles, de sang étranger. Quand Édouard Ier, son père, devint maître du pays de Galles, le district de Snowdon fut le plus difficile à soumettre; pour le dominer il éleva les châteaux de Conway et de Caernarvon bâtis sur les plans, dit-on, de ceux qu’il avait vus en Palestine. On regrette, dans cette belle ruine, l’absence du lierre qui orne d’une façon si pittoresque tant d’autres vieux châteaux. Dans une petite niche au-dessus de l’entrée apparaît la statue du fondateur, tenant dans sa main gauche une épée qu’il remet au fourreau selon les uns, et dont, selon les autres, il menace ses nouveaux sujets.
Gwneuthum y gorau o’r diwrnod braf hwn drwy ymweld â chastell Caernarfon, un o adfeilion prydferth Cymru. Saif y castell ar graig ar lan y môr; yn anffodus, mae’r tai sy’n ei amgylchynu ar sawl ochr yn eich rhwystro rhag gwerthfawrogi’r adeilad cyfan ar unwaith.
Mae’r muriau’n saith troedfedd o drwch; mae yna nifer fawr o dyrau y mae oriel driphlyg yn rhedeg rhyngddynt. Yr uchaf a’r prydferthaf o’r tyrau hyn yw Tŵr yr Eryr, y bu unwaith eryr o garreg ar ei frig. Yr ydych yn dringo i’r brig ar hyd cant a hanner ac wyth o risiau. Arhosais yno am amser maith, yn edrych ar yr olygfa brydferth a ymestynnai o flaen fy llygaid.
Yn rhan isaf y tŵr hwnnw dangoswyd i mi ystafell fach lle dywedir i Edward II gael ei eni, y cyntaf o waed estron i’w alw’n Dywysog Cymru. Pan ddaeth ei dad, Edward I, yn feistr ar Gymru, ardal Eryri fu’r rhan anoddaf o’r wlad i’w threchu. Er mwyn tra-arglwyddiaethu arni, adeiladodd gestyll yng Nghonwy a Chaernarfon, a dywedir iddo eu seilio ar gynlluniau cestyll a welodd ym Mhalestina. Mae diffyg eiddew, sy’n ychwanegiad mor ddeniadol at gymaint o hen gestyll eraill, yn drueni, ar adfail mor hardd. Mewn cloer bach uwchlaw’r fynedfa saif cerflun o’r sylfaenydd, ei law chwith yn cydio mewn cleddyf y mae, yn ôl rhai, yn ei ddychwelyd i’w wain, tra dywed eraill ei fod yn ei ddefnyddio i fygwth ei ddeiliaid newydd.