Gyda dau lyn o'i amgylch, Castell Caerffili yw'r safle castell mwyaf yng Nghymru a'r enghraifft gynharaf o gastell Normanaidd o gynllun consentrig ym Mhrydain.
Er i'r Rhufeiniaid adeiladu caer atodol yma mor gynnar â 75 OC, cafodd ei gadael drachefn erbyn yr ail ganrif ac, am y mil o flynyddoedd nesaf, arhosodd y safle a'r ardal gyfagos yn denau eu poblogaeth. Yn 1268 gorchmynnodd Gilbert de Clare, Arglwydd Normanaidd Morgannwg, adeiladu'r castell carreg enfawr yno. Dros y tri degawd nesaf, adeiladwyd y castell consentrig a chreu'r llynnoedd ond, gyda marwolaeth Syr Gilbert yn 1295, daeth yr adeiladu i ben bron yn llwyr. Am gyfnod byr yn 1326 daeth y castell i amlygrwydd wrth i Edward II, brenin Lloegr, geisio nodded yno rhag ei wraig, Y Frenhines Isabella, yr oedd wedi gwahanu oddi wrthi, a'i phartner, Roger de Mortimer. Yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, aeth y castell i ddwylo Richard Beauchamp, Iarll Caerwrangon, ond cafodd ei adael a dechrau dadfeilio gan iddo ef wneud Castell Caerdydd yn brif gartref iddo. Yn ystod y canrifoedd dilynol, cyflymodd dirywiad y castell wrth i'r llynnoedd gael eu sychu a chario cerrig o'r safle i adnewyddu tŷ Thomas Lewis gerllaw.
Yn y cyfnod Rhamantaidd, Caerffili'n aml oedd y castell adfeiliedig cyntaf y byddai twristiaid yn dod ar ei draws wrth iddynt gyrraedd Cymru gan ei fod mor agos i'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Roedd maint ac arwynebedd y castell yn atgoffa llawer o deithwyr, megis y barwn Gottfried von Purgstall o Awstria, o adfeilion Abaty Tyndyrn gerllaw. Fodd bynnag, yn wahanol i'w gefnder cysegredig ymhellach i'r dwyrain a'r rhan fwyaf o gestyll adfeiliedig eraill ar hyd a lled Cymru, nid oedd Castell Caerffili wedi'i orchuddio ag eiddew a thyfiant gwyrdd.
Er 1844, blwyddyn ymweliad siomedig Carl Carus â'r adfeilion - a oedd yn fwy anghyfannedd na hardd yn ei farn ef - mae gwaith cadwraeth ac adfer helaeth wedi'i wneud ar y safle. Cafodd y llynnoedd eu hadfer, mae muriau a ddymchwelodd wedi cael eu codi ac mae'r Neuadd Fawr wedi cael ei hadfer. Yn ffodus i dwristiaid heddiw, mae nodwedd amlycaf y castell, sef y tŵr cam mawr, heb ei gyffwrdd gan y canfuwyd ei fod yn ddigon sefydlog i wrthsefyll grym disgyrchiant.
Caerphilly ist in Glamorganshire. Wenn die Gegend in Wales derjenigen, die sich zwischen Cardiff und hier zeigt, ähnlich ist; so ist es allerdings der Zeit werth, eine Reise durch dieses Land zu machen. ...
Das Castle in Caerphilly ist eine Ruine; größer als die Abby Tintern, doch ist der Eindruck derselbe. Die Aussicht durch die zerbrochenen Felsenstücke zeigt manche frappante Parthie. Ich bereue es, diese Ruine nicht nich den Abend vorher (denselben, als ich in Caerphilly ankam) besehen zu haben; die Nacht ist, däucht mich, geschickter, in diesen Überresten der Vorzeit herumzuwandeln. In diesem Schlosse befand sich Eduard [II]. Und hielt, wenn ich nicht irre, eine Zeit in selbem sich fest, während des Aufruhrs seiner Barone und der Königinn gegen ihn. Der Morgen war sehr schön, und die Luft so rein; ein Paar Stunden früher, bey’m Aufgang der Sonne, würde ich mit mehr Interesse auf dem Felsen herumgewandelt haben; allein man ist in allen Gasthöfen Englands so langschläferisch, daß man es nicht erhalten kann, geweckt zu werden.
Saif Caerffili yn Sir Forgannwg. Os yw’r dirwedd yng Nghymru’n debyg i’r hyn ydyw rhwng Caerdydd a’r fan hon, yna mae’n sicr yn werth yr amser i ymgymryd â thaith drwy’r wlad hon. ...
Adfail yw castell Caerffili. Mae’n fwy nag Abaty Tindyrn, ond yr un yw’r argraff a geir. Ceir llawer golygfa drawiadol o’r cerrig toredig. Rwyf yn edifar nad ymwelais â’r lle y noswaith flaenorol (pan gyrhaeddais Gaerffili); ymddengys mai’r nos yw’r adeg fwyaf priodol i grwydro o gwmpas olion o’r hen amser. Ymwelodd Edward [II] â’r castell hwn. Ac os nad wyf yn camgymryd, arhosodd yno gryn amser yn ystod gwrthryfel ei farwniaid a’i Frenhines yn ei erbyn. Roedd y bore’n brydferth iawn a’r awyr mor glir. Ychydig oriau ynghynt, gyda’r wawr, byddwn wedi crwydro o gwmpas y graig â mwy o ddiddordeb, ond mae’r tafarnau Seisnig yn peri i bawb godi’n hwyr na allant ddioddef cael eu deffro’n gynnar.
Einmal, auf einer Station, in Cer[p]hilly stießen wir noch auf eine weitläuftige, aber ganz in Ruinen liegende alte Burg. Sie ähnelte mehr den Ritterburgen Deutschlands, und mußte mit Pulver gesprengt seyn, denn ganze Massen Mauerwerk und ganze Stücken der Mauerthürme waren in die Gräben geworfen. – Das Ganze sah mehr wüst als schön aus – es fehlte zuerst das Schöne in der Anlage des Ganzen, und es fehlte dann der, sonst englische Ruinen so prächtig kleidende Epheu!
Un tro, pan oeddem yn aros yng Nghaerffili, canfuom yr hen gastell anferth, ond llwyr adfeiliedig. Roedd yn debyg iawn i gestyll canoloesol yr Almaen a rhaid ei fod wedi cael ei ffrwydro drwy ddefnyddio powdr gwn gan fod adrannau cyfan o’r mur a darnau cyfan o’r tyrau amddiffynnol wedi disgyn i’r ffosydd – roedd yr holl le yn edrych yn fwy diffaith na phrydferth. Yn y lle cyntaf, nid oedd dim a oedd yn hardd ar y safle, yn ail, roedd y gorchudd gwych o eiddew, sydd fel arfer i’w weld fel mantell o gwmpas cestyll Lloegr, ar goll.