BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Castell Dinas Brân

Castell Dinas Brân - Trosolwg

Mae adfeilion y castell canoloesol hwn ar ben bryn amlwg ar gyrion Llangollen. Cyn dyddiau'r castell bu bryngaer o'r Oes Haearn ar y safle. Mae tystiolaeth ddogfennol yn awgrymu bod tywysogion Gogledd Powys wedi adeiladu castell pren yma yn niwedd y ddeuddegfed ganrif, ond llosgodd yn ulw heb adael dim o'i ôl. Mae'n debygol mai Gruffudd ap Madog, mab sylfaenydd Abaty Glyn y Groes gerllaw, a ail-adeiladodd y castell gyda cherrig oddeutu 1270 ond, fel ei ragflaenwyr, ni wnaeth y trydydd castell hwn - a'r olaf - bara'n hir. Pan wnaeth Henry de Lacy, yn arwain milwyr ar ran y brenin Edward I, agosáu at y castell yn 1277, fe wnaeth yr amddiffynwyr Cymreig ei roi ar dân fel na fyddai o ddefnydd wedyn i fyddinoedd y goron Seisnig. Fodd bynnag, nid oedd y difrod i'r castell yn enbyd, oherwydd rhoddodd Edward I garsiwn o filwyr yno am gyfnod byr, ond gadawyd y safle ar ôl i gastell Holt gael ei adeiladu fel canolfan newydd yr Arglwyddiaeth wedi marwolaeth Llewelyn ap Gruffudd yn 1282.

Yn ôl chwedl, trigai'r dywysoges Myfanwy Fychan yn y castell hwn ac fe ysbrydolodd y bardd Hywel ab Einion i gyfansoddi ei awdl enwog iddi lle dywed ei fod yn clafychu o gariad tuag ati. Erbyn i'r gerdd gael ei hysgrifennu, roedd Castell Dinas Brân wedi mynd yn adfeilion ers tro, a Myfanwy wedi priodi â'r uchelwr Goronwy ap Tudur Hen, Arglwydd Penmynydd. Dywedir i'r gerdd hon symbylu John Ceiriog Hughes i ysgrifennu'r gerdd 'Myfanwy Fychan', yn ogystal â geiriau Richard Davies i'r gân boblogaidd 'Myfanwy', y cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Joseph Parry.

Erbyn dyddiau cynnar twristiaeth fodern, roedd Dinas Brân yn adfail hynod drawiadol ar ben bryn amlwg a noeth. Oherwydd ei fod mor agos i Langollen, a oedd ar lwybr y briffordd hanesyddol drwy Ogledd Cymru, cafodd yr adfeilion sylw amlwg yn nisgrifiadau a darluniau llawer o deithwyr.

Cyngor Sir Ddinbych, gyda chymorth gan Cadw, sy'n gyfrifol bellach am Gastell Dinas Brân.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch