Bu castell ar y safle strategol hwn uwchlaw Afon Gwy er 1067 ac mae'n un o'r cestyll mwyaf trawiadol yng Nghymru. Cafodd Castell Cas-gwent ei atgyfnerthu gan William Marshall rhwng 1190 a'i farwolaeth yn 1219 ac ychwanegwyd ato ymhellach gan Roger Bigod yn y 1270au. Bu garsiwn yn y castell yn ystod gwrthryfel Glyn Dŵr a bu dan warchae ddwywaith yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.
Ar ôl i ryfeloedd cartref Lloegr ddod i ben a'r frenhiniaeth gael ei hadfer, defnyddiwyd Castell Cas-gwent fel garsiwn a charchar. Enwir Tŵr Marten ar ôl ei garcharor enwocaf, Henry Marten, a lofnododd y gwarant i ddienyddio Charles I, ac a fu farw yn y castell yn 1680. Yn fuan ar ôl ei farwolaeth, symudwyd y garsiwn oddi yno a dechreuodd y castell fynd a'i ben iddo.
Gyda dyfodiad twristiaeth fodern at ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ailddarganfuwyd Castell Cas-gwent, a oedd erbyn hynny'n adfeilion, gan deithwyr yn chwilio am olygfeydd rhamantaidd Cymru. Ymyst y teithwyr cynharaf o'r Almaen roedd Carl Gottlob Küttner a ymwelodd yn 1784. Gwnaeth hanes y castell, ei garcharorion pwysig a'i safle trawiadol ar lannau'r Gwy argraff fawr arno, ac roedd yn gofidio'n arw nad oedd ganddo fwy o amser ar ei ddwylo i aros dipyn yn hwy a thynnu ei lun o bob ochr. Ddeuddeg mlynedd yn ddiweddarach ymwelodd y Llydawr Armand-Louis-Bon Maudet, Comte de Penhouët, â'r lle ac fe'i cyfareddwyd gan y bensaerniaeth, yr hanes a'r amgylchedd hynod hardd. Nid oedd ei gynlluniau teithio prysur yn caniatau iddo yntau aros yn hir chwaith, ond yn ei ddyddiadur taith mae'n hael ei ganmoliaeth i wasanaeth a charedigrwydd Mrs Williams, a oedd yn cael ei chyflogi gan berchen y castell, Iarll Beaufort, i arwain ymwelwyr o amgylch y safle.
Eben so gut erhalten, als das von Caernarvon, und einst, seiner ähnlichen Lage in der Nähe des Meeres wegen, eben so fest als dieses, erhält es durch seine Ausdehnung eine größere Bedeutsamkeit. Es hat vier Höfe; fünf oder sechs gewaltige Thürme, stehen noch ziemlich unversehrt da, und von der, einst sehr stattlichen, 2 Stockwerk hohen Kapelle sind die Außenmauern noch vollständig erhalten. Die große Halle wird jetzt als Gewächshaus benutzt und die übrigen bewohnbaren Zimmer sind verpachtet. Wir hatten nicht Muße genug, das Innere zu besichtigen: der Anblick des Aeußeren ist, besonders von der neuen Brücke aus gesehen, ungemein imposant, während er etwas Eigenthümliches dadurch erhält, daß die Trümmer gleichsam eine Masse mit dem Felsen, auf dem sie stehen, zu bilden scheinen, indem sowohl dieser, als das Gebäude, von unten bis oben mit einem Ueberzuge von Epheu bedeckt sind, der sich in dem Flusse, an dem das Castell liegt, freundlich abspiegelt. Die Brücke ist so eben, nach ihrem letzten Umbau, fertig geworden, und hat jetzt statt der hölzernen Ueberlage eiserne Bogen erhalten, die durch ihre Leichtigkeit und Nettigkeit beweisen, welche große Fortschritte die Eisengießerei in England seit der Anlegung der Brücke von Colebrook-Dale gemacht hat. Besonders gefällig ist das eiserne Geländer verziert. Die fünf Pfeiler, auf denen die Brücke ruht, sind von einem feinkörnigen weißen Sandstein aufgeführt und länglich rund: an Niederreißung der alten, zwischen ihnen stehenden, wurde so eben gearbeitet. Der mittlere Bogen ist der größte, die übrigen nehmen an Spannung gegen die Ufer hin ab.
Mae’r castell hwn mewn cyflwr cystal â chastell Caernarfon, a bu o’r blaen yr un mor gadarn fel amddiffyniad oherwydd iddo fod mewn safle tebyg ger y môr, ond mae’n fwy pwysig oherwydd ei fod yn fwy o faint. Mae iddo bedwar cwrt; mae pump neu chwech o dyrau mawrion yn parhau mewn cyflwr gweddol; ac mae muriau allanol y capel, sydd â dau lawr, ac a oedd unwaith yn wych iawn, yn parhau’n gyflawn. Defnyddir y neuadd fawr bellach fel tŷ gwydr, ac mae pob ystafell y gellir lletya ynddi yn cael ei gosod. Ni chawsom amser i weld y tu mewn i’r castell. Mae ymddangosiad allanol y castell, yn enwedig o’r bont newydd, yn arbennig o drawiadol, gyda’r adfeilion yn ymddangos fel eu bod yn un â’r graig y maent yn sefyll arni, a mantell o eiddew yn gorchuddio’r ddau ohonynt o’r brig i’r gwaelod, gyda hynny wedi’i adlewyrchu’n brydferth yn yr afon y saif y castell uwchlaw iddi. Y mae’r bont, a fu gynt o bren, bellach wedi’i hailadeiladu o fwâu haearn sydd, yn eu hysgafnder a’u taclusrwydd, yn profi’r cynnydd mawr a wnaed gyda chastio haearn yn Lloegr ers adeiladu’r bont yn Coalbrookdale. Mae’r rheiliau haearn yn arbennig o hardd. Mae pum piler y bwâu o dywodfaen gwyn â graean mân ac o siâp crwn hirgulaidd. Gwelsom ddynion yn gweithio i ddymchwel yr hen bileri sydd yn dal i sefyll rhwng y rhai newydd. Y bwa yn y canol yw’r fwyaf, gyda’r lleill yn mynd yn llai wrth agosáu at y glannau.
Das alte Schloß zu Chepstow (Chepstow Castle), das am Ufer des Flusses auf einer schroffen Felsenwand steht, gehört ebenfalls dem Herzog von Beaufort. Es ist schön, edel und von einem Umfange, daß man eine kleine Armee hinein legen könnte. Der Haupteingang steht fast noch ganz und ist normannisch. In einem der Zimmer zeigte man uns das, in welchem Heinrich Martin, einer von Carls l. Blutrichtern, Jahre lang saß und starb.
Der schöne Ueberrest dieses Schlosses, so wie der von Tintern Abbey, nicht weit von hier, wird von der nämlichen Hand, wie die Ruinen des Schlosses zu Rayland [Raglan], wider fernere Verheerungen geschützt.
Könnte ich einige Tage länger hier bleiben, ich sollte von diesem Schlosse und der Gegend umher ein ganzes Dutzend Zeichnungen aufnehmen, die alle gleich malerisch und gleich mannigfaltig seyn sollten.
Yn sefyll ar glogwyn creigiog ger glan yr afon, mae’r hen gastell yng Nghas-gwent hefyd yn eiddo i Ddug Beaufort. Mae’n hardd ac yn osgeiddig ac o’r fath faint fel y gallai byddin fechan wersylla yno. Mae’r prif borth yn parhau ymron yn gyflawn ac o arddull cwbl Normanaidd. Yn un o’r ystafelloedd a ddangoswyd i ni, cadwyd Henry Martin, un o farnwyr gwaedlyd Siarl I, yn garcharor am flynyddoedd lawer, ac yma y bu farw.
Caiff olion hardd y castell, fel rhai Abaty Tyndyrn, nad yw heb ymhell oddi yma, ac adfeilion Castell Rhaglan, eu gwarchod rhag distryw pellach gan ddwylo’r Dug.
Pe gallwn aros yma ychydig ddyddiau, hoffwn wneud dwsin o ddarluniau o’r castell a’r cyffiniau, a fyddai oll yr un mor ddeniadol ac amrywiol â’i gilydd.
Je m’arrêtai à Chepstow. La position de cette ville sur la charmante rivière de Wye, près de son confluent avec la Severn, est des plus pittoresques. Dans le jardin d’une maison de la rue du Pont (Bridge-Street), on me fit voir un curieux puits qui se vide et se remplit en sens inverse du flux et du reflux de la mer. Quand la marée est à son point le plus élevé, il est parfaitement sec ; et peu de temps après le reflux, l’eau revient. Ce réservoir a trente-deux pieds de profondeur, et contient jusqu’à quatorze pieds d’eau d’une excellente qualité.
Le château est construit sur un haut rocher : l’entrée est défendue par deux tours massives dans le style normand. Un boulet attaché à une chaine de fer tient lieu de sonnette. On me montra d’abord, dans la première cour, la grande salle et le donjon où fut enfermé pendant vingt ans Marten un des juges de Charles Ier. Jeremy Taylor fut aussi emprisonné dans ce château en 1656. La seconde cour est transformée en jardin. Dans la troisième, on remarque quinze arceaux parfaitement conservés qu’on dit avoir appartenu à la chapelle. D’une chambre taillée dans le roc, on aperçoit les sinuosités de la Wye couverte de grands bois touffus. En sortant du château, je traversai le pont de fer de la Wye, et je montai sur une hauteur désignée sous le nom de Double View. On y jouit d’une vue splendide des environs de Chepstow.
Galwais yng Nghas-gwent. Mae lleoliad y dref hon ar afon hyfryd Gwy, yn agos at y fan lle mae’n llifo i Afon Hafren, yn hynod ddeniadol. Yng ngardd tŷ yn Stryd y Bont dangoswyd i mi ffynnon sy’n llenwi ac yn gwagio yn groes i symudiadau’r llanw. Pan fo’r llanw ar ei uchaf mae’n gwbl sych, ac yn fuan ar ôl i’r llanw droi daw’r dŵr yn ôl. Mae’r pwll hwn yn ddeuddeg troedfedd ar hugain o ddyfnder ac mae’n cynnwys hyd at ddeugain troedfedd o ddŵr o ansawdd rhagorol.
Saif y castell ar graig uchel, gyda dau dŵr anferth yn y dull Normanaidd yn gwarchod y fynedfa. Gweithreda pelen fagnel wedi’i chysylltu â chadwyn haearn fel cloch drws. Yn y cwrt cyntaf dangoswyd i mi’r ystafell fawr a’r tŵr gorthwr lle cadwyd Marten, un o’r rhai a farnodd Siarl I, am ugain mlynedd. Cadwyd Jeremy Taylor hefyd yn y castell hwn ym 1656. Trawsnewidiwyd yr ail gwrt yn ardd. Yn y trydydd cwrt mae pymtheg o fwâu sydd wedi eu cadw’n berffaith a oedd unwaith yn ôl pob golwg yn perthyn i’r capel. O ystafell a gerfiwyd o’r graig gallwch gael cip ar Afon Gwy yn crwydro rhwng y goedwig drwchus. Wrth i mi adael y castell croesais y bont haearn dros Afon Gwy a dringais i fan uchel a elwir yn ‘Double View’. Oddi yno ceir golygfeydd rhagorol o gyffiniau Cas-gwent.