BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Castell Conwy

Castell Conwy - Trosolwg

Adeiladwyd Castell Conwy gan Edward I, brenin Lloegr, rhwng 1283 a 1287 fel rhan o'i goncwest o Gymru ac fe'i hystyrir yn un o'r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth gaerog y drydedd ganrif ar ddeg. Roedd yn un o safleoedd allweddol ymgais Edward i ddarostwng y Cymry drwy amgáu Gogledd Cymru â 'chylch haearn' o gestyll, a gyflenwid â nwyddau a bwyd gan y trefedigaethau Seisnig a sefydlwyd yn y trefi caerog a godwyd yn gysylltiedig â hwy. Fel ei holl brif gestyll Cymreig, mae Castell Conwy ar yr arfordir fel y gellid cludo deunyddiau adeiladu a chyflenwadau milwrol i'r safle ar longau, gan osgoi gorfod croesi tir gelyniaethus. Fodd bynnag, wrth i asedau Edward brinhau erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg, nid oedd llawer o lewyrch ar y castell a'r dref ac roeddent yn dioddef o ddiffyg cyflenwadau.

Yn 1399, cafodd y brenin Richard II loches yno pan wrthryfelodd Henry Bolingbroke - a goronwyd yn fuan wedyn yn Harri'r IV - yn ei erbyn. Ddwy flynedd yn ddiweddarach daeth gwrthryfel ar warthaf y castell a'r dref drachefn wrth iddynt gael eu cipio gan y Cymry dan arweiniad Owain Glyndŵr. Er i'r castell gael ei gadarnhau yn ystod Rhyfel y Rhosynnau, ni chwaraeodd unrhyw ran o bwys yn y gwrthdaro hwnnw, ond fe'i hamddiffynnwyd yn llwyddiannus dros Siarl I yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.

Gyda dyfodiad twristiaeth fodern at ddiwedd y ddeunawfed ganrif, daeth y castell adfeiliedig yn un o brif atyniadau twristiaid ar eu teithiau ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Yn dilyn adeiladu pont grog Thomas Telford a Rheilffordd Caer i Gaergybi, cynyddodd diddordeb yn ei gadwraeth ac, yn 1865, dechreuwyd gwaith i adfer y castell ar ôl iddo ddod yn eiddo i'r dref. Yn 1986 cafodd Conwy ei chydnabod yn rhan o Safle Treftadaeth Byd Cestyll a Muriau Trefol Edward I gan UNESCO, ynghyd â Biwmares, Caernarfon a Harlech. Erbyn hyn Cadw sy'n gyfrifol am gynnal Castell Conwy.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch