Tref fechan yn Sir Ddinbych yw Corwen ac mae ar yr A5, ffordd bost bwysig Thomas Telford rhwng Caergybi a Llundain. Oherwydd ei safle cyfleus yn nyffryn y Ddyfrdwy, datblygodd Corwen yn ganolfan bwysig i'r porthmyn gwartheg erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg. Ond cynyddodd mewn pwysigrwydd ar ôl i ffordd Telford hwyluso teithio ar y goets fawr, ac yn arbennig ar ôl i Reilffordd y Great Western gyrraedd yn 1864.
Fel y gwelir oddi wrth y cerflun ysblennydd ohono ar sgwâr y farchnad, mae gan y dref a'r gymdogaeth gysylltiadau cryf ag Owain Glyndŵr, a ddechreuodd ei wrthryfel yn erbyn coron Lloegr o'i gartref yn Glyndyfrdwy gerllaw yn 1400. Fodd bynnag, dinistriwyd y maenordy gan filwyr y Tywysog Harri yn 1403. Yn ôl coel gwerin lleol, arferai Glyndŵr ddod yn gyson i'r offeren yn Eglwys y Seintiau Mael a Sulien yng Nghorwen ac mae ôl ei ddagr i'w weld o hyd ar y lintel garreg uwchben drws yn yr eglwys. Trigai'r awdur John Cowper Powys yno yn yr ugeinfed ganrif ac ysgrifennodd ei nofel Owen Glendower (1941) am Wrthryfel Glyndŵr.
Mae'r dref wledig hon yn ganolfan wych ar gyfer cerdded yr ardal gyfagos ac mae rheilffordd fechan yn ei chysylltu â thref Llangollen.
Corwen ist ein kleiner dorfähnlicher, aber durch seine schöne Lage am Dee und am Fuße des Berwin-Gebirges, sehr begünstigter Ort. Ueber der Thür des Gasthofes ist ein gigantischer Kopf Owen Glendowers, des berühmten welschen Anführers und Gegners Heinrich IV. von England, in voller Rüstung angebracht, da der Sage nach dieser Held nach Corwen regelmäßig zur Kirche gegangen seyn soll. Auf unsere Frage nach Caer Drewyn, einer römischen Festung, welche in der Nähe der Stadt liegen soll, zeigte der Wirth auf die Spitze eines Hügels, welcher am jenseitigen Ufer des Dee, dem Gasthofe schräg gegenüber, sich erhebt, und versicherte uns, daß es nicht der Mühe lohne, hinaufzuklimmen, da die ganzen Ueberbleibsel aus nichts weiter als mehreren einzelnen im Kreise umherliegenden Steinen beständen, was wir auch späterhin in den Reisebeschreibungen bestätigt fanden. ...
Die Gegend wird jetzt mit jedem Augenblicke reicher, fruchtbarer und malerischer. Das herrliche Thal Glendurdwy, das einst dem Owen Glendower, in harter Bedrängniß, zum Zufluchtsorte diente, füllt die Gegend zwischen Corwen und Llangollen aus, und erhebt sich an beiden Seiten des Dee ....
Tref fach yw Corwen sydd yn ymddangos yn ddigon tebyg i bentref, ond mae wedi’i bendithio â safle hardd ar lan Afon Dyfrdwy, wrth droed mynyddoedd y Berwyn. Uwchlaw drws y gwesty, gwelir cerflun enfawr o ben Owain Glyndŵr, y pendefig clodfawr o Gymro, a gwrthwynebydd Harri IV, Brenin Lloegr, yn ei arfwisg gyflawn gan, yn ôl y traddodiad, yr arferai’r arwr hwnnw fynychu’r eglwys yng Nghorwen yn rheolaidd.
Pan holasom am Gaer Drewyn, caer Rufeinig y dywedir ei bod wedi’i lleoli yng nghyffiniau’r dref hon, pwyntiodd ein lletywr at gopa bryn ar ochr arall Afon Dyfrdwy, gan ein sicrhau na fyddai’n werth i ni ddringo yno, gan mai’r cwbl oedd yr olion oedd ychydig gerrig rhydd, wedi’u gosod ar ffurf cylch, disgrifiad y canfuom ar ôl hynny fod yr wybodaeth gan deithwyr eraill yn ei gadarnhau. ...
Bellach, ymddangosai’r wlad yn fwy cyfoethog, yn fwy ffrwythlon ac yn fwy deniadol gyda phob eiliad a âi heibio. Mae dyffryn hardd Glyndyfrdwy, a fu unwaith yn encilfa i Owain Glyndŵr yn ei drafferthion, yn cynnwys y wlad rhwng Corwen a Llangollen, ar ddwy lan Afon Dyfrdwy ....
Dann kam ich nach Corwen, einem kleinen Städtchen, ganz unter überhängenden Felsen erbaut. Hier hat die Natur noch einmal ins Gigantische geschaffen; die letzten Felsenwälle des Hochlands thürmen sich hier gegen die sanfteren Niederungen. Auf dem Kirchhof steht ein Steinkreuz in einem runden Stein; Beides hat ein Riese hierhergeschleudert, wie mir der Führer sagte. Der Ort sei danach genannt; Corwen, eigentlich Cor-vaen heiße ein Kreuz auf einem Stein. Der Fels, deßen ganze Wucht über den Kirchhof hereinragt, wird „Owen Gyndwr’s Stuhl“ genannt. In der Kirchmauer wird noch ein geheimes, seit Jahrhunderten verschloßnes Thürlein gezeigt, durch welches der kühne Rebell oftmals in die Kirche trat, wenn’s ihn zu beten trieb. Von hier ab beginnt der classische Boden der letzten Revolte, das Thal des Dee, des schwarzen Waßers, das unter dicken, dunklen Bäumen dahin fließt bis nach Llangollen und sich bei Chester ins Meer ergießt. Gleich hinter Corwen, zur linken Hand steht ein Hügel, oben ganz flach und mit Föhren bewachsen. Er heißt Glyndwr’s Hügel. Sein Schloß hat hier gestanden. Das ganze Thal ist voll seines Angedenkens. Wie die Natur hier die letzten Granitmaßen des Hochlandes aufgestellt hat, so weiht auch die Geschichte diesen Boden mit den letzten und wehmütigsten Erinnerungen walisischer Vorzeit.
Yn nesaf, cyrhaeddais Gorwen, tref fach a adeiladwyd yn llwyr yng nghysgod creigiau sy’n gorhongian drosto. Yma, creodd natur wrthrychau anferth unwaith eto, a chwyd llethrau creigiog yr ucheldir cyn ildio i’r iseldir llyfnach. Yn y fynwent, saif croes garreg o fewn carreg gron; taflwyd y ddwy yma, meddai fy nhywysydd, gan gawr. Enwir y dref ar eu hôl; golyga Corwen, mewn gwirionedd Cor-faen, ‘croes ar faen’. Gelwir y graig filain sy’n codi uwchlaw’r fynwent yn ‘Sedd Owain Glyndŵr’. Ym mur yr eglwys, mae drws bach dirgel i’w weld hyd heddiw, er iddo fod ar glo ers canrifoedd; pan alwyd ef i weddi, byddai’r arwr hyf yn aml yn dod i mewn i’r eglwys drwy’r drws hwn. O’r fan hon ymestynna tirwedd glasurol yr wrthryfel olaf, sef dyffryn Afon Dyfrdwy, y dŵr du’n llifo o dan goed trwchus, tywyll i lawr i Langollen gan ymarllwys i’r môr yng Nghaer. Cwyd bryn â chopa gwastad wedi’i goroni â ffawydd Albanaidd i’r chwith y tu ôl i Gorwen. ‘Mwnt Glyndŵr’ yw’r enw arno. Arferai ei gastell sefyll yma. Mae’r holl ddyffryn yn llawn atgofion amdano. Yn union fel y cwyd natur yma greigiau gwenithfaen olaf yr ucheldir, felly hefyd y cysegra hanes y tir hwn ag atgofion olaf a mwyaf hiraethus Cymru’r hen amser.