BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Dinbych

Dinbych - Trosolwg

Tref farchnad fechan yn Sir Ddinbych yw Dinbych. Mae ei gwreiddiau'n mynd yn ôl i'r ddeuddegfed ganrif, gan fod cyfeiriad ati mewn cerdd a gyfansoddwyd yn 1160, er mai yn 1211 y lluniwyd y siarter cyntaf sydd ar gael. Dengys tystiolaeth ddogfennol bod gan y tywysogion Cymreig gastell yng nghymdogaeth y dref bresennol, er nad yw'n hysbys ble roedd. Sefydlwyd y castell presennol gan Henry de Lacy, Arglwydd Dinbych, yn 1282 ar ôl iddo dderbyn y tir gan Edward I.

Derbyniodd ei Siarter Tref cyntaf yn 1285 ac mae hwn, ynghyd â siarteri dilynol, yn nodi bod y dref wedi'i rhannu'n fwrdeistref 'Seisnig' gaerog ar ben y bryn, a thref 'Gymreig' 'tu allan i'r muriau'. Drwy gydol y bedwaredd ganrif ar ddeg, cynyddodd y dref tu allan i'r muriau, gan fynd yn fwy na'r fwrdeistref a ddirywiodd mewn pwysigrwydd yn y pen draw. Yn ystod yr amser hwn sefydlwyd mynachlog gyntaf - ac olaf - y Carmeliaid yng Nghymru, ynghyd ag eglwys fawr y Santes Marcella gyda'i chorff dwbl.

Difrodwyd y dref gan filwyr Owain Glyndŵr yn 1400 ond fe wnaethant fethu â chipio'r castell. Cynyddwyd statws y dref pan gafodd ei gwneud yn un o bedair prif ganolfan weinyddol Cymru yn dilyn y Ddeddf Uno â Lloegr 1536. Atgyfnerthwyd hyn yn 1563 pan wnaed Robert Dudley, Iarll Caerlŷr, a chyfaill mynwesol Elizabeth I, yn Farwn Dinbych ganddi. Aeth ati i drawsnewid y dref gyda rhaglen uchelgeisiol o godi adeiladau cyhoeddus, yn cynnwys Neuadd y Sir ac Eglwys Dewi Sant - yr eglwys Brotestannaidd fawr gyntaf i'w hadeiladu ym Mhrydain ers y Diwygiad Protestannaidd.

Bu cyffro drachefn yn Ninbych yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau a Rhyfel Cartref Lloegr, pryd yr ochrodd y dref gyda'r Brenhinwyr. Ar ôl iddynt ildio i Oliver Cromwell yn 1646, gadawyd y castell a dechreuodd ddadfeilio. Roedd y ddeunawfed a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyfnod o ffyniant economaidd mawr i'r dref, ac mae ei phensaerniaeth Sioraidd a Fictoraidd yn adlewyrchu hynny.

Gan ei fod ar y briffordd yn cysylltu Llangollen a Llanelwy, denodd adfeilion Castell Dinbych lawer o ymwelwyr yn arbennig yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er ei bod yn ymddangos i'r cyfarfod cystadleuol cenedlaethol i delynorion Cymreig a gynhelid o fewn adfeilion y castell bob tair blynedd wneud argraff ar y Tywysog Hermann von Pückler-Muskau, roedd Franz von Löher yn falch o gael osgoi'r digwyddiad gan y credai nad oedd gan y Cymry fawr ddim doniau cerddorol. Fe wnaeth, fodd bynnag, roi tipyn o ganmoliaeth i ansawdd gwych y cinio a gafodd yn y dafarn lle'r arhosai yn nhref Dinbych.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch