BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Llanberis

Llanberis - Trosolwg

Saif Llanberis mewn dyffryn hir a chul gyda dau lyn mawr ychydig i'r gogledd orllewin o'r Wyddfa. Y dystiolaeth gynharaf o anheddiad yno yw bryngaer Dinas Tŷ Du sy'n dyddio o'r Oes Haearn. Cafwyd hyd i rai gweddillion Rhufeinig sy'n gysylltiedig mae'n fwy na thebyg â Segontium, caer fawr ar gyrion tref bresennol Caernarfon. Yn y chweched ganrif adeiladodd Sant Peris encilfa grefyddol ym mhen deheuol Llyn Peris a sefydlodd Sant Padarn ei eglwys ar lan Llyn Padarn.

Tan ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yr ardal yn denau ei phoblogaeth gydag amaethyddiaeth yn brif ddiwydiant. Ddiwedd y ddeunawfed ganrif dechreuwyd cloddio am lechi ar raddfa fechan ar hyd llethrau gogledd-ddwyrain y dyffryn. Datblygodd y diwydiant hwn yn syfrdanol gydag agor Chwarel Vivian yn y 1870au gyda phowdr du'n cael ei ddefnyddio i chwythu'r graig a nifer o dramffyrdd yn cael eu gosod i gludo'r llechi'n fwy effeithiol o'r chwareli i'r porthladdoedd cyfagos. Cyfrannodd y diwydiant llechi yn fawr at dwf y boblogaeth o oddeutu 700 yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg i dros 3000 erbyn ei diwedd.

Er gwaethaf cynnydd y diwydiant llechi yn y dyffryn, daeth nifer gynyddol o dwristiaid i Lanberis o'r cyfnod Rhamantaidd ymlaen. Roedd Gwesty'r Royal Victoria yn hysbysebu bod ceffylau a thywysyddion ar gael i fynd ag ymwelwyr i gopa'r Wyddfa gerllaw, a'r gwesty hefyd oedd â'r allweddi i'r tir y saif Castell Dolbadarn arno. Roedd Julius Rodenberg o'r Almaen, newyddiadurwr ac awdur llyfrau teithio, wrth ei fodd gyda safle hardd y gwesty a'i thelynor yn chwarae yn y cyntedd bob gyda'r nos. Cafodd ysbrydoliaeth arbennig un noson, gan gyfansoddi geiriau newydd ar yr alaw werin Gymreig 'Ar hyd y nos'. Erbyn hyn twristiaeth yw'r prif ddiwydiant yn Llanberis. Mae'n ganolfan ar gyfer cerdded, dringo a beicio mynydd, yn ogystal â deifio yn nhyllau'r chwareli llechi sy'n llawn dŵr bellach.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch